Acen grom

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Hirnod)
Acen grom
Enghraifft o'r canlynolmarc diacritig, symbol IPA Edit this on Wikidata
Mathacen Edit this on Wikidata
Arwydd dwyieithog yn dangos defnydd yr acen grom yn y Gymraeg. Mae'r ê yn y gair parêd yn hir ac yn acennog, yn wahanol i e fer ddiacen y gair pared.

Mae'r acen grom, to bach, neu hirnod ( ˆ ) yn acennod a ddefnyddir mewn Afrikaans, Croateg, Cymraeg, Eidaleg, Esperanto, Ffrîseg, Ffrangeg, Llydaweg, Norwyeg, Portiwgaleg, Rwmaneg, Serbeg, Tyrceg a ieithoedd eraill.

Traw[golygu | golygu cod]

Cafodd yr acen grom yn ei ddefnyddio yn gyntaf yn yr orgraff polytonydd o Hen Roeg, lle ddigwyddodd ar llafariaid hir i ddangos cynnydd wedyn gostyngiad yn traw.

Hyd[golygu | golygu cod]

Mae'r acen grom yn dangos hyd llafariaid mewn amryw o ieithoedd.

Yn Gymraeg mae’r acen grom yn cael ei defnyddio i ddangos bod llafariad acennog yn hir lle y byddai'r disgwyl iddi fod yn fyr, e.e. ‘tân’ yn lle ‘tan’.

Yn Frangeg mae’r acen grom yn cael ei defnyddio ar â, ê, î, ô ac û. Hir yw'r llafariaid hyn, ac yn hanesyddol, mae'n nhw'n cynrychioli ‘s’ ar goll, e.e. y gair ‘ffenestr’: Roedd fenêtre yn fesnestre.

Siapaneg. Yn y system rhufeineiddio Kunrei-shiki, gall yr acen grom yn cael ei ddefnyddio yn hytrach na'r acen macron, e.e. gall y gair ‘arigatō’(diolch) yn cael ei ysgrifennu fel ‘arigatô’

Yn Dyrceg, mae'r acen grom yn cael ei ddefnyddio ar â ac û i gwahaniaethu rhwng homograffâu, e.e. ‘şura’ (dacw) a ‘şûra’ (cyngor).

Uchder[golygu | golygu cod]

Gall yr acen grom gael ei defnyddio i ddangos uchder llafariaid:

Portiwgaleg. Uwch na ‘á’ /a/, ‘é‘ /ɛ/, ac ‘ó’ /ɔ/ yw ‘â‘ /ɐ/, ‘ê’ /e/, ac ‘ô’ /o/. Mae'r acen grom yn cael ei ddefnyddio dim ond ar llafariaid dan bwysau.

Estyniad Llythyren[golygu | golygu cod]

Yn Esperanto, mae'r acen grom yn cael ei defnyddio ar y llythrennau ĉ, ĝ, ĥ, ĵ ac ŝ.

Yn Rwmaneg, mae'r acen grom yn cael ei defnyddio ar y llythrennau â ac î am y sŵn /ɨ/.

Yn Saesneg[golygu | golygu cod]

Ar eiriau benthyg, mae'r acen grom yn cael ei gadw, fel acennodau eraill, e.e. rôle o'r iaith Ffrangeg. Ym Mhrydain yn y 18g (cyn y bost geiniog, pan drethwyd papur), defnyddwyr yr acen grom i gadw gofod, yn bendant y llythrennau ‘ugh’, e.e. ‘thô‘ yn lle ‘through’ neu ‘brôt’ yn lle ‘brought’

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]