Neidio i'r cynnwys

Henry Rowlands (hynafiaethydd)

Oddi ar Wicipedia
Henry Rowlands
Ganwyd1655 Edit this on Wikidata
Bu farw21 Tachwedd 1723 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharcheolegydd, anthropolegydd, hanesydd Edit this on Wikidata
Tudalen deitl argraffiad cyntaf Mona Antiqua Restaurata.

Clerigwr Anglicanaidd a hynafiaethydd o Gymru oedd Henry Rowlands (165521 Tachwedd 1723). Mae'n mwyaf adnabyddus fel awdur Mona Antiqua Restaurata.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed Rowlands yn Llanedwen, Ynys Môn, a chredir iddo gael ei addysgu gartref. Cafodd ei ordeinio yn offeiriad yn 1682, a chafodd fywoliaeth Llanfairpwll a Llantysilio. Yn 1692 cafodd fywoliaeth Llanidan ac eraill yn yr ardal yma.

Ysgrifennodd amryw o lyfrau, ond ei brif waith oedd Mona Antiqua Restaurata, a gyhoeddwyd yn Nulyn yn 1723, gydag ail argraffiad yn 1766. Roedd y llyfr yn trafod hynafiaethau Ynys Môn ac yn ceisio profi mai Môn oedd prif sedd y Derwyddon. Bu'r llyfr yn ddylanwadol iawn, a bu Rowlands yn llythyru ag Edward Lhuyd ac eraill.

Ysgrifennodd yn ogystal draethawd ar hanes plwyfi Môn (yn Lladin), sy'n ffynhonnell hanes lleol bwysig.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Brynley F. Roberts, 'Henry Rowlands' yn, Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979)
  • Henry Rowlands, 'Mona Antiqua Restaurata, 1723' (ail-argraffwyd gan Redesmere Press / Llyfrau Magma, 1993)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]