Henebion Coedpenmaen

Oddi ar Wicipedia
Henebion Coedpenmaen
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Carneddau cylchog o Oes yr Efydd a dau faen hir ar dir comin ydy henebion Coedpenmaen, cymuned Pontypridd, Rhondda Cynon Taf; cyfeiriad grid ST079902.

Math o garnedd gynhanesyddol a godwyd gan y Celtiaid ydy “carnedd gylchog”. (Saesneg: ring cairn); fe'i codwyd i nodi mangre arbennig, ar gyfer defodau neu i goffau'r meirw, a hynny yn Oes yr Efydd, mae'n debyg.

Ni ddylid cymysgu'r math hwn gyda chylch cerrig, sy'n perthyn i oes wahanol. Caiff ei nodi ar fapiau'r Ordanance gyda'r gair 'Cairn'. Sylwer, hefyd, mai “carnedd gylchog” ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio yng ngeiriadur yr Academi, yn hytrach na "charnedd gylch".

Cofrestrwyd yr heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: GM510.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.