Helmlys arfor

Oddi ar Wicipedia
Helmlys arfor
Frullania teneriffae
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Porellales
Teulu: Frullaniaceae
Genws: Frullania
Rhywogaeth: F. teneriffae
Enw deuenwol
Frullania teneriffae

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Helmlys arfor (enw gwyddonol: Frullania teneriffae; enw Saesneg: sea scalewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Mae'n debyg iawn i Helmlys grucbren.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru (Pen Llŷn a Phenfro, gorllewin yr Alban, gorllewin Iwerddon a Chernyw, a gwledydd eraill.

Mae'r lobiwlau'n dywyllach na'r llabedi, ac mae'r coesynnau yn 1.5–2 mm o led, a dail hyd at 1 mm o led ac 1.5 mm o hyd.

Yng ngwledydd Prydain fe'i ceir ar greigiau ac ar goed; yng Nghernyw, mae fel arfer i'w weld ar greigiau ar yr arfordir.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Helmlys arfor gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.