Helmlys grucbren
Helmlys grucbren Frullania tamarisci | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Porellales |
Teulu: | Frullaniaceae |
Genws: | Frullania |
Rhywogaeth: | F. tamarisci |
Enw deuenwol | |
Frullania tamarisci |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Helmlys grucbren (enw gwyddonol: Frullania tamarisci; enw Saesneg: tamarisk scalewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon yn gyffredin iawn ac i'w chanfod yng Nghymru, Iwerddon, gorllewin Lloegr, yr Alban a gwledydd eraill.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae fel arfer yn gochl neu frown gyda'r coesynnau rhwng 0.6–2 mm o led. Mae'r dail hyd at 1 mm o led a hyd at 1.5 mm o hyd, yn ofoid, gyda llabedau pigfain. Mae'n hynod o debyg i'r Helmlys arfor.
Llysiau'r afu
[golygu | golygu cod]- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.