Helke Sander

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Helke Sander
Helke Sander-2262.jpg
Ganwyd 31 Ionawr 1937 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
  • Academi Ffilm a Theledu Almaeneg Berlin Edit this on Wikidata
Galwedigaeth cyfarwyddwr ffilm, newyddiadurwr, ysgrifennwr, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Hochschule für bildende Künste Hamburg Edit this on Wikidata
Priod Markku Lahtela Edit this on Wikidata
Plant Silvo Lahtela Edit this on Wikidata
Gwobr/au Deutscher Filmpreis Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.helke-sander.de/ Edit this on Wikidata

Awdures o'r Almaen yw Helke Sander (ganwyd 31 Ionawr 1937) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfarwyddwr ffilm, newyddiadurwr, ymgyrchydd dros hawliau merched ac academydd. Caiff ei chofio fwyaf am ei gadw ar gof a chadw, mewn ffilmiau dogfen, hanes ymgyrchoedd ffeministaidd y 1960au a'r 1970au yn yr Almaen ac fe'i nodweddir gan ei gwaith arbrofol hefyd; darluniodd bywyd pob dydd y fenyw, a'r problemau sy'n eu hwynebu. Caiff ei hystyried gan lawer fel sylfaenydd y mudiad a'r symudiad ffeministaidd "newydd", a sbardunwyd gan ei hanerchiad i Gynhadledd Myfyrwyr Sosialaidd yr Almaen yn 1968.[1]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gyda'i mam, goroesodd hi fomio Dresden gan Brydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a hithau'n wyth oed. Erbyn iddi raddio yn yr ysgol uwchradd, roedd wedi bod i 15 o ysgolion amrywiol ledled yr Almaen. Derbyniodd ei Abitur yn Remscheid yn 1957 ac aeth rhagddi i astudio yn Ysgol Ida Ehre yn Hamburg. Ym 1959, priododd Markku Lahtela, awdur o'r Ffindir yn 1959, a chawsant fab, Silvio Lahtela. Ar ôl genedigaeth Silvio, symudodd Sanders a'i theulu i Helsinki lle bu'n astudio Almaeneg a seicoleg ym Mhrifysgol Helsinki. [2][3][4][5]

Coleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yno, bu'n actio a chyfarwyddo drama Ernst Toller, "Der deutsche Hinkemann and Grass' "Noch zehn Minuten bis Buffalo." Bu'n darlithio dosbarthiadau drama ac actio byr fyfyr hefyd. Rhwng 1966 a 1969, bu'n fyfyriwr yn yr ysgol ffilm newydd, Deutsche Film und Fernsehakademie. Mae ei gwaith sinema bron i gyd yn weithiau sy'n ymwneud â ffeministiaeth.[6][7]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Undeb Myfyrwyr Sosialaidd yr Almaen am rai blynyddoedd. [8][9]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfarwyddwr (30 teitl)

  • 2005 Mitten im Malestream [In Midst of the Malestream] (rhaglen ddogfen)
    • Ail-don ffeministiaeth yr Almaen.[7]
  • 2001 Village (TV rhaglen ddogfen)
  • 1998 Muttertier - Muttermensch [Animal Mother - Human Mother] (TV rhaglen ddogfen)
    • Dogfen ar rol y fam.[7]
  • 1997 Dazlak
  • 1992 BeFreier und BeFreite (rhaglen ddogfen)
  • 1992 Krieg und Sexualle Gewalt [Rhyfel a Thrais Rhywiol] (rhaglen ddogfen)
  • 1989 Die Deutschen und ihre Männer - Bericht aus Bonn [Yr Almaenwyr, a'u Dynion - Adroddiad o Bonn] (dogfen deledu)
    • Effaith ffeministiaeth ar y cyhoedd yn yr Almaen.[7]
  • 1989 Die Meisen von Frau S. (dogfen fer)
  • 1988 Felix (segment "Muss ich aufpassen?")
  • 1987 Nr. 5 - Aus Berichten der Wach- und Patrouillendienste (gwaith byr)
  • 1986 Nr. 8 - Aus Berichten der Wach- und Patrouillendienste (gwaith byr)
  • 1986 Seven Women, Seven Sins (segment "Völlerei? Füttern!")
  • 1985 Nr. 1 - Aus Berichten der Wach- und Patrouillendienste (gwaith byr)
  • 1984 Der Beginn aller Schrecken ist Liebe [Cariad yw Cychwyn Pob Uffern]
    • Gwaith dychan, gan Helke Sander. Dyn rhwng dwy ddynes.[7]
  • 1983 Die Gedächtnislücke - Filmminiaturen über den alltäglichen Umgang mit Giften (dogfen deledu)
  • 1981 Der subjektive Faktor
  • 1981 Wie geht das Kamel durchs Nadelöhr? (dogfen deledu)
  • 1978 Die allseitig reduzierte Persönlichkeit - Redupers
  • 1973 Männerbünde (dogfen deledu)
  • 1973 Macht die Pille frei? (dogfen deledu)
  • 1971 Eine Prämie für Irene [Gwobr i Irene] (ffilm deledu)
    • Ffilm ar sut mae menywod yn cael eu cam-drin a chymryd mantais arnynt, ac mewn ffatrioedd.
  • 1970 Kinder sind keine Rinder [Nid Gwartheg yw Plant] (dogfen fer)
    • Rhaglen ddogfen ar blant mewn gofal.[7]
  • 1969 Das schwache Geschlecht muss stärker werden - Weibergeschichten (ffilm deledu)
  • 1968 Die rote Fahne (dogfen fer)
  • 1967/68 Brecht die Macht der Manipulateure! (ffilm ddogfen)
    • Ymgyrch y myfyrwyr yn erbyn Springer.
  • 1967 Silvo (dogfen fer)
  • 1967 Subjektitüde (gwaith byr)
  • 1965 Naurukierukka (ffilm deledu)
  • 1965 Skorpioni (ffilm deledu)
  • 1965 Teatterituokio (Cyfres deledu)

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. McCormick, Richard (1977). German Essays on Film. pp. 215–222.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12089774r; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 19704619, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 26 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12089774r; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.fembio.org/english/biography.php/woman/biography/helke-sander/.
  4. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, GND 119036096, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 16 Hydref 2015Wikidata Q36578 http://www.filmdirectorssite.com/helke-sander.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 11 Rhagfyr 2014Wikidata Q36578
  6. "Helke Sander". Women Make Movies.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 7.5 7.6 "Helke Sander". www.fembio.org. Cyrchwyd 2016-12-06.
  8. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 1 Ebrill 2015Wikidata Q36578
  9. Galwedigaeth: http://www.nytimes.com/movies/movie/83512/Die-Allseitig-Reduzierte-Redupers/overview.