Helen Keller
| Helen Keller | |
|---|---|
| Ganwyd | Helen Adams Keller 27 Mehefin 1880 Tuscumbia, Alabama, Ivy Green |
| Bu farw | 1 Mehefin 1968 o clefyd Easton, Connecticut |
| Man preswyl | Coolidge Hill Road, Dana Street, Ivy Green |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Addysg | Baglor yn y Celfyddydau |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, areithydd, awdur ysgrifau, gweithredydd gwleidyddol, undebwr llafur, ymgyrchydd heddwch, swffragét, ieithydd, hunangofiannydd |
| Adnabyddus am | The Story of My Life, The Frost King |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd America |
| Tad | Arthur Henley Keller |
| Mam | Catherine Adams |
| Perthnasau | Charles W. Adams |
| Gwobr/au | Medal Rhyddid yr Arlywydd, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Alabama, Oriel yr Anfarwolion Menywod Connecticut, Hall o Honor y Blaid Lafur, Chevalier de la Légion d'Honneur, Urdd Sant Sava, Marchog Urdd y Groes Ddeheuol, Urdd Bernardo O'Higgins, Urdd y Trysor Sanctaidd, Urdd Teilyngdod, Urdd Croes y De, Golden Plate Award |
| llofnod | |
Awdur, ymgyrchydd a darlithydd o'r Unol Daleithiau oedd Helen Adams Keller (27 Mehefin 1880 – 1 Mehefin 1968). Hi oedd y person cyntaf i raddio o goleg er gwaethaf bod yn ddall a byddar.
Ganed hi yn Tuscumbia, Alabama, yn ferch i'r Capten Arthur H. Keller a Kate Adams Keller, oedd yn gyfneither i Robert E. Lee. Pan oedd tua 19 mis oed, cafodd afiechyd a ddisgrifwyd gan ei meddygon fel "llid ar yr ystumog a'r ymennydd", a'i gadawodd yn ddall a byddar. Datblygodd hi a Martha Washington, merch chwech oed cogydd y teulu, system o arwyddion i gyfathrebu â'i gilydd; erbyn iddi gyrraedd saith oed roedd ganddi tua 50 o arwyddion. Yn 1886 gyrrodd ei mam Helen a'i thad i Baltimore, Maryland, i ymgynghori a Dr. J. Julian Chisolm. Awgrymodd ef iddynt gysylltu â'r 'Perkins Institute for the Blind', a phenododd y sefydliad Anne Sullivan i weithredu fel tiwtor i Helen. Llwyddodd hi i ddysgu Helen i siarad ac darllen Braille. Yn 1904, graddiodd o Radcliffe College.
Aeth Helen ymlaen i fod yn ymgyrchydd dros hawliau pobl anabl, dros y bleidlais i ferched, heddychaeth ac achosion sosialaidd. Daeth y stori o sut y gallodd Annie Sullivan ddysgu Helen i gyfathrebu yn enwog trwy'r ffilm The Miracle Worker.