Haydn Morgan

Oddi ar Wicipedia
Haydn Morgan
Ganwyd30 Gorffennaf 1936 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw23 Gorffennaf 2018 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auY Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertyleri, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
Safleblaenasgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Haydn Morgan (30 Gorffennaf 1936  – 24 Gorffennaf 2018, yn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymreig a gynrychiolodd tîm genedlaethol Cymru 27 gwaith a thîm y Llewod ar deithiau i Seland Newydd a De Affrica.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Morgan yn Oakdale, Caerffili yn blentyn i Harold ac Eunice Morgan. Roedd ei dad yn löwr yng nglofa'r Oakdale. Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Pontnewydd ar Wysg. Bu'n chware fel canolwr i dîm yr ysgol.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cyflawnodd Morgan cyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol (gwasanaeth milwrol gorfodol) gyda Chatrawd y Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol. Bu'n chware rygbi i dîm y Byddin Prydeinig fel blaen asgellwr.

Gan ei fod yn chware yn ystod cyfnod pan fu chware rygbi clwb a rhyngwladol i fod yn gamp cwbl amatur, bu'n ennill ei fywoliaeth fel gwerthwr ceir.

Wedi i'w yrfa rygbi ryngwladol ddod i ben, aeth Morgan i fyw i Dde Affrica, lle bu'n chwarae dros clybiau'r Wanderers yn Johannesburg a Transvaal B. Yn Ne Affrica bu'n ennill ei damaid drwy gwerthu ceir i gwmni Nissan cyn sefydlu ei fusnes ei hun a oedd yn cynhyrchu blociau concrit.

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Clwb[golygu | golygu cod]

Bu Morgan yn chwarae, yn bennaf, ar gyfer Clwb Rygbi Abertyleri. Mae rhai wedi awgrymu bod ei ffyddlondeb i Abertyleri wedi cael effaith ar ei yrfa ryngwladol, gan ei fod wedi aros yn driw i'r tîm yn hytrach na symud i dîm fwy ffasiynol.[2]

Rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd 27 gêm ryngwladol dros Gymru:

Teulu[golygu | golygu cod]

Cafodd Hayden a Betty, ei wraig dau fab.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Nhrefynwy ychydig yn brin o'i benblwydd yn 82 mlwydd oed.

LLyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]