Hanes Swydd Gaerlŷr

Oddi ar Wicipedia
Map o Swydd Gaerlŷr a Rutland yn y 17g

Mae olion archaeolegol, yn bennaf yng Nghoedwig Charnwood, yn dangos yr oedd pobl gynhanesyddol yn trigo yn y rhan o ganolbarth Lloegr a elwir heddiw Swydd Gaerlŷr. Saif Caerlŷr ar olion tref Rhufeinig.

Goresgynnwyd yr ardal gan yr Eingl yn y 6g, a daeth yn rhan o deyrnas Mersia yn y 7g a'r 8g. Cyrhaeddodd setlwyr Daniaid yno yn y 9g, a chawsant eu cymhathu'n raddol â'r Eingl-Sacsoniaid.[1] Gellir olrhain yr enw Laegrecastrescir yn ôl i ddiwedd yr 11g, ac yn ôl Llyfr Dydd y Farn rhennid y sir yn bedwar wapentake (cantref): Guthlaxton, Framland, Goscote, a Gartree. Daeth y tir dan reolaeth uchelwyr Normanaidd ac urddau Cristnogol yn yr Oesoedd Canol Uwch. Yn y sir hon ymladdwyd Brwydr Bosworth (1485), brwydr olaf Rhyfeloedd y Rhosynnau.

Yn y cyfnod 1974–97, roedd Rutland yn rhan o Swydd Gaerlŷr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Leicestershire. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Ebrill 2019.