Haloperidol

Oddi ar Wicipedia
Haloperidol
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
MathAlcohol, heterocyclic compound Edit this on Wikidata
Màs375.140135 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₂₁h₂₃clfno₂ edit this on wikidata
Enw WHOHaloperidol edit this on wikidata
Clefydau i'w trinSchizophreniform disorder, syndrom gilles de la tourette, chwydu, sgitsoffrenia, anhwylder seicotig, schizoaffective disorder, afiechyd meddwl, gordyndra edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Rhan oresponse to haloperidol, cellular response to haloperidol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysnitrogen, ocsigen, fflworin, carbon, clorin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Haloperidol yn feddyginiaeth nodweddiadol wrth seicotig. Mae'n feddyginiaeth sydd ar gael trwy ragnodyn meddyg yn unig yn y DU. Mae ar gael fel meddyginiaeth generig neu o dan yr enwau brand Dozic, Haldol a Serenace[1] . Mae'r feddyginiaeth ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.

Defnydd meddygol[golygu | golygu cod]

Defnyddir Haloperidol wrth reoli symptomau:

  • Seicosis llym, fel y seicosis a achosir gan gyffuriau megis LSD, psilocybin, amphetaminau, cetetamin, a phencyclidine, a seicosis sy'n gysylltiedig â thwymyn uchel neu glefyd metabolig
  • I drin effeithiau rhoi'r gorau i alcohol neu opioid
  • Cynnwrf a dryswch sy'n gysylltiedig â sglerosis yr ymennydd
  • Seicosis a achosir gan alcohol
  • Rhithweledigaethau o ganlyniad i roi'r gorau i alcohol.
  • Deliriwm gorfywiog (i reoli elfen aflonyddu'r deliriwm)
  • Gorfywiogrwydd ymosodol
  • Anhwylderau ymddygiad difrifol mewn plant a phobl ifanc, pan na fo modd arall o'u trin
  • Sgitsoffrenia
  • Treial therapiwtig mewn anhwylderau personoliaeth, megis anhwylder personoliaeth ffiniol
  • I drin achosion difrifol o'r ig
  • Trin anhwylderau niwrolegol, megis anhwylderau tic mewn cyflyrau megis syndrom Tourette, a corea
  • Trin teimladau o gyfogrwydd a chwydu difrifol mewn gofal ôl llawdriniaeth a gofal lliniarol, yn enwedig ar gyfer atal effeithiau andwyol ymbelydredd a chemotherapi mewn oncoleg

Sgil effeithiau[golygu | golygu cod]

Mae sgil effeithiau haloperidol yn cynnwys:[2]

  • syrthni / cysgadrwydd
  • camweithrediad rhywiol (ee clefyd Priapus)
  • clefyd Parkinson
  • dystonia (gwewyr parhaus a chyfyngiadau cyhyrau)
  • trafferthion anadlu
  • y dwymyn
  • dryswch

beichiogrwydd a bwydo ar y fron[golygu | golygu cod]

Gall effeithio ar y baban yn y groth o'i ddefnyddio tra'n feichiog. Mae'r cyffur yn pasio i mewn i laeth y fron ac fe all effeithio ar y baban sy'n fwydo.

Gyrru[golygu | golygu cod]

Dylai claf osgoi gyrru a gweithio efo peirannau neu mewn sefyllfaoedd peryglus hyd wybod sut effaith bydd y cyffur yn cael arno. Mae haloperidol yn gallu achosi syrthni ac arafu ymatebion.

Alcohol[golygu | golygu cod]

Dylai claf osgoi alcohol wrth gymryd haloperidol. Gall alcohol cynyddu effaith tawelydd y cyffur.

Dos[golygu | golygu cod]

Mae haloperidol ar gael fel tabled, capsiwl, hylif, pigiad a phigiad tymor hir[3] . Bydd y dos rhwng 3 mg i 10 mg i gychwyn wrth drin salwch meddwl gan godi i uchafswm o 30 mg y diwrnod. Bydd y claf yn teimlo effaith y cyffur ar ôl 2 i 3 awr o dderbyn y cyffur trwy'r llwnc ac o fewn llai na hanner awr o'i dderbyn trwy bigiad. Bydd effeithiau'r cyffur yn para rhwng 6 a 24 awr o'u llyncu, 2-4 awr o bigiad a hyd at 4 wythnos wedi pigiad tymor hir.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. NICE Haloperidol adalwyd 25 Ionawr 2018
  2. Web MD Haloperidol adalwyd 25 Ionawr 2018
  3. Mind haloperidol adalwyd 25 Ionawr 2018


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!