Haile Selassie
Haile Selassie | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 23 Gorffennaf 1892 ![]() Ejersa Goro ![]() |
Bu farw | 27 Awst 1975 ![]() o strangling ![]() Addis Ababa ![]() |
Man preswyl | Imperial Palace, Addis Ababa ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Ethiopia ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd, teyrn ![]() |
Swydd | chairperson of the Organisation of African Unity, chairperson of the Organisation of African Unity, Ymerawdwr Ethiopia, Minister of Foreign Affairs of Ethiopia ![]() |
Tad | Mekonnen Welde Mikael ![]() |
Mam | Yeshimebet Ali ![]() |
Priod | Menen Asfaw ![]() |
Plant | Princess Tenagnework, Amha Selassie, Princess Romanework, Princess Zenebework, Princess Tsehai, Prince Makonnen, Duke of Harar, Prince Sahle Selassie of Ethiopia ![]() |
Llinach | House of Solomon ![]() |
Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd Rhosyn Wen y Ffindir, Order of Suvorov, 1st class, Uwch Groes Urdd y Condor o'r Andes, Hilal-e-Pakistan, Great Nile necklace, Order of the Yugoslavian Great Star, Urdd seren Romania, Gwobr Heddwch y Cenhedloedd Unedig, Marchod Uwch Groes Urdd Milwrol Wiliam, Collar of the Order of Pope Pius IX, Uwch Groes Urdd Haul Periw, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Grand Cross of the Sash of the Three Orders, Grand Cross of the Military Order of the Tower and Sword, knight of the Order of Saints Maurice and Lazarus, Order of the Eagle of Zambia, Order of Propitious Clouds, honorary doctor of the University of Bonn, honorary doctor of Lebanese University, Grand Cross of the Order of the Bath, Urdd y Gwaredwr, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Coler Urdd Siarl III ![]() |
Ymerawdwr Ethiopia o 1930 hyd 1974 oedd Haile Selassie (Ge'ez: ኃይለ፡ ሥላሴ, "Pŵer y Drindod"[1]), enw genedigol Tafari Makonnen (23 Gorffennaf, 1892 - 27 Awst, 1975). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n byw ym Mhlasdy Penlle'r-gaer, Abertawe pan oedd wedi'i alltudio.
Pan ddiorseddwyd yr ymerawdwr Iyasu yn 1916, daeth ei fodryb Zewditu yn ymerodres, ac enwyd Tafari Makonnen yn aer i'r goron ac yn llywodraethwr y deyrnas.
Pan ddaeth yn ymerawdwr yn 1930 ar farwolaeth Zewditu, cymerodd yr enw Haile Selassie, sy'n golygu "Grym y Drindod". Yn ystod ei deyrnasiad o 45 mlynedd, gwnaeth Haile Selassie lawer i geisio moderneiddio Ethiopia, ac enillodd boblogrwydd mawr yn Affrica a thu hwnt. Daeth i amlygrwydd byd-eang yn 1936 trwy ei araith i Gynghrair y Cenhedloedd yn condemnio defnydd yr Eidal o arfau cemegol yn eu hymdrech i oresgyn Ethiopia.
Aeth Haile Selassie yn fwy ceidwadol wrth iddo heneddio, a theimlai carfan yn Ethiopia nad oedd y wlad yn cael ei moderneiddio'n ddigon cyflym. Bu gwrthryfel yn ei erbyn, a diorseddwyd ef ar 12 Medi 1974. Treuliodd ei fisoedd olaf yn garcharor yn y palas ymerodrol.
Cymer y mudiad Rastaffaraidd, a sylfaenwyd yn Jamaica yn y 1930au cynnar, ei enw oddi wrtho ef, "Ras ("tywysog) Tafari". Ystyria'r mudiad fod Haile Selassie yn ymgorfforiad o Iesu Grist.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gates, Henry Louis a Appiah, Anthony. Africana: The Encyclopedia of the African and African American Experience. 1999, tud 902.