Habib Bourguiba

Oddi ar Wicipedia
Habib Bourguiba
Ganwyd3 Awst 1903 Edit this on Wikidata
Monastir Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ebrill 2000 Edit this on Wikidata
Monastir Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFrench protectorate of Tunisia, Tiwnisia Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddSpeaker of the Assembly of the Representatives of the People, Arlywydd Tiwnisia, Prif Weinidog Tiwnisia, Minister of Foreign Affairs, Minister of Defence Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNeo Destour Edit this on Wikidata
PriodWassila Ben Ammar, Moufida Bourguiba Edit this on Wikidata
PlantHabib Bourguiba, Jr. Edit this on Wikidata
Gwobr/auColer Urdd Isabella y Catholig, Urdd Sant Olav, Order of the Republic, Order of Independence, Urdd yr Eliffant, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd Brenhinol y Seraffim, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Sofia, Urdd Teilyngdod Sifil, The honorary doctor of Lebanese University Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.bourguiba.com Edit this on Wikidata
llofnod

Habib Ben Ali Bourguiba (Arabeg: الحبيب بو رقيبة), (3 Awst 19036 Ebrill 2000) oedd arlywydd cyntaf Tiwnisia. Cafodd ei eni ym Monastir. Fe'i addysgwyd yn y Sorbonne, Paris.

Blynyddoedd cynnar a'r frwydr dros annibyniaeth[golygu | golygu cod]

Bourguiba ym Mharis

Yn 31 oed daeth Bourguiba yn arweinydd y mudiad dros annibyniaeth oddi ar Ffrainc yn Tiwnisia pan sefydlodd y Blaid Neo-Destour. Cafodd ei arestio yn 1938 a'i alltudio i Ffrainc. Dychwelodd i Tiwnisia ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ond cafodd ei alltudio eto, i Cairo y tro yma, yn 1947. Oddi yno gweithiodd yn ddyfal i hysbysu'r byd am sefyllfa Tiwnisia dan reolaeth Ffrainc. Erbyn 1951 bu rhaid i Ffrainc ildio rywfaint. Treuliodd gyfnod arall mewn alltudiaeth ar ôl dychwelyd am rai misoedd i arwain llywodraeth dros dro. Arweiniodd hyn at brotestiadau ac ymosodiadau gan genedlaetholwyr ac erbyn Mehefin 1955 doedd gan y Ffrancod ddim dewis ond i adael i Bourguiba ffurfio llywodraeth led-annibynnol.

Llywodraeth[golygu | golygu cod]

Ar ôl ennill annibyniaeth ffurfiol (20 Mawrth, 1956) aeth ati i greu gwladwriaeth fodern yn rhinwedd ei swydd fel arlywydd cyntaf y wlad (25 Gorffennaf, 1957 - 7 Tachwedd, 1987). Roedd yn arweinydd deallus a charismatig ac yn ystod ei arlywyddiaeth tyfodd cwlt personoliaeth o'i gwmpas (enwir prif strydoedd trefi a dinasoedd Tiwnisia er anrhydedd iddo hyd heddiw). Roedd ei feddylfryd yn rhyddfrydig ac agored ar sawl pwnc gwleidyddol a chymdeithasol, er iddo sicrhau fod awennau'r llywodraeth yn gadarn yn ei ddwylo ei hun. Rhoddai bwyslais eithriadol ar addysg a hawliau merched a cheisiodd foderneiddio'r wlad trwy wahardd amlwreicaeth (poligami) a gwisgo'r burka gan ferched a chodi mur rhwng y wladwriaeth a chrefydd.

Coup palas[golygu | golygu cod]

Beddrod Bourguiba ym Monastir

Ond ni phlesiwyd pawb gan ei lywodraeth. I'r beirniaid rhyddfrydol doedd o ddim wedi symud digon pell i gyfeiriaid y fodel democrataidd Gorllewinol a cheid gormod o enghreifftiau o lwgrwobrwyo a nawdd wleidyddol. Tua diwedd ei oes wynebai wrthwynebiad gan nifer gynyddol o radicalwyr Islamaidd yn ogystal ac roedd y wlad yn wynebu argyfwng. Syrthiodd yn wael iawn ac roedd ei afael ar y llywodraeth yn llac. Roedd ei benderfyniadau'n eratig. Yn y diwedd cafodd ei ddisodli gan ei olynydd Zine el-Abidine Ben Ali, y Gweinidog Cartref penderfynol, mewn amgylchiadau amheus pan arwyddwyd tystysgrif gan griw o feddygon yn tystio ei fod yn rhy wael i fynd ymlaen (ac un o'r meddygon yn protestio nad oedd wedi gweld y claf ers dwy flynedd).

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod]

Cafodd Bourguiba ei gadw o'r golwg yn y palas arlywyddol yn Carthage Présidence, ger Tunis, ac oddi yno i balas arall ym Monastir lle bu farw ar 6 Ebrill 2000. Codwyd beddrod marweddog iddo ym Monastir, ei ddinas enedigol, ar ôl ei farwolaeth. Roedd y mwyafrif o bobl Tiwnisia yn ei barchu'n fawr. Roedd wedi arwain ei wlad i annibyniaeth, creu system gweddol ddemocrataidd, gosod sylfeini gwladwriaeth les, rhoi lle anrhydeddus i ferched yn y gymdeithas a datblygu economi cryf a olygodd fod gan y Tiwnisiaid safon byw ymhlith y gorau yn y byd datblygol.

Rhagflaenydd:
Muhammad VIII al-Amin
(Brenin)
Arlywydd Tiwnisia
25 Gorffennaf 19577 Tachwedd 1987
Olynydd:
Zine El Abidine Ben Ali

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r rhan fwyaf o'r cyfrolau am Bourguiba yn llyfrau Ffrangeg:

  • Driss Abbassi, Entre Bourguiba et Hannibal. Identité tunisienne et histoire depuis l’indépendance, Karthala, Paris, 2005 (ISBN 2845866402)
  • Tahar Belkhodja, Les trois décennies Bourguiba. Témoignage, Publisud, Paris, 1998 (ISBN 2866007875)
  • Sophie Bessis (avec la collaboration de Souhayr Belhassen), Habib Bourguiba. Biographie en deux volumes, Jeune Afrique, Paris, 1988
  • Habib Bourguiba, Ma vie, mon œuvre, Omnibus, Paris, 2003 (ISBN 2259014062). Hunangofiant.
  • Michel Camau et Vincent Geisser, Habib Bourguiba. La trace et l’héritage, Karthala, Paris, 2004 (ISBN 2845865066)
  • Mounir Charfi, Les ministres de Bourguiba (1956-1987), L’Harmattan, Paris, 2000 (ISBN 2738403980)
  • Bernard Cohen, Bourguiba. Le pouvoir d’un seul, Flammarion, Paris, 1992 (ISBN 2080648810)
  • Ali El Ganari, Bourguiba. Le combattant suprême, Plon, Paris, 1985 (ISBN 225901321X)
  • Félix Garas, Bourguiba et la naissance d’une nation, Julliard, Paris, 1956
  • Aziz Krichen, Syndrome Bourguiba, Cérès, Tunis, 2003 (ISBN 9973700732)
  • Pierre-Albin Martel, Habib Bourguiba. Un homme, un siècle, Jaguar, Paris, 1999 (ISBN 2869503202)
  • Samya El Méchat, Tunisie. Les chemins vers l’indépendance (1945-1956), L’Harmattan, Paris, 2000 (ISBN 2738412386)
  • Mohamed Mzali, Un premier ministre de Bourguiba témoigne, Picollec, Paris, 2004 (ISBN 2864772108)
  • Mohsen Toumi, La Tunisie de Bourguiba à Ben Ali, PUF, Paris, 1989

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]