Gwyllgi (nofel)

Oddi ar Wicipedia
Gwyllgi
AwdurAlun Cob
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781848517158
GenreFfuglen

Cyfrol gan Alun Cob yw Gwyllgi a gyhoeddwyd yn 2013 gan Wasg Gomer. Man cyhoeddi: Llandysul, Cymru.[1]

Dyma'r olaf yn y drioleg o nofelau am anturiaethau'r cymeriad Oswyn Felix, y perchennog tafarn o Fangor wrth iddo fentro ar antur gymhleth arall sy'n plethu gwleidyddiaeth a phêl-droed, gangsters a phuteiniaid. Mae'n ddilyniant i Pwll Ynfyd a Tarw Pres.

Mae Alun Cob yn byw wrth droed y Garn yng Ngarndolbenmaen, Gwynedd, gyda'i wraig, Hawis. Aeth i Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes. Mae wedi gweithio am flynyddoedd yn y byd cerddoriaeth, gyda Recordiau'r Cob ym Mangor. Bu hefyd yn berchennog ar ei siop ei hun, Recordiau'r Ci Du, Caernarfon, a enwyd ar ôl ei gi ffyddlon, Wmffra.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.