Gwyfyn corn carw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cerapteryx graminis
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Cerapteryx
Rhywogaeth: C. graminis
Enw deuenwol
Cerapteryx graminis
(Linnaeus, 10ed rhifyn o Systema Naturae; 1758)

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn corn carw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod corn carw; yr enw Saesneg yw Antler Moth, a'r enw gwyddonol yw Cerapteryx graminis.[1][2] Fe'i canfyddir drwy'r rhan fwyaf o Ewrop.

27–32 mm yw lled adenydd y fenyw a'r gwryw yn 35–39 mm; mae nhw i'w cael yn hedfan rhwng Mehefin a Medi yn ystod y dydd pan fo hi'n gynnes yn ogystal ag yn y nos. Mae'r gwyfyn corn carw'n cael ei ddenu at olau, fin nos. Mae'r siani flewog lwyd yn hoff iawn o weiriau megis: Deschampsia, Festuca a Nardus.


Pla[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae poblogaeth y gwyfyn hwn mewn rhai blynyddoedd yn gallu bod yn blagus:

  • Ynys Seiriol, Môn, Mehefin 1936:

It may be of interest to record that larvae identified by Mr. W. Mansbridge, F.R.E.S., who was kind enough to examine a specimen I sent to him, as the Noctuid moth Cerapteryx (Charaeas) graminis [gwyfyn corn carw] were disgorged in large quantities by young Herring-Gulls ... on June 18th, 24th, and 29th, 1936, on Puffin Island, Anglesey. With few exceptions the young birds appeared to have been fed exclusively on these larvae, and at a rough estimate I should say that from 50, to 150 were disgorged at a time.[3]

  • Carneddau (Janet Buckles), 21 Mai 2007:

..in the grass at either side. They were present in very large numbers all the way down to the flat area between Drosgl and Gyrn [Carneddau]. There must have been literally tens of thousands in the area we were in - there would have been millions if they were present in the same numbers more than a few feet away from the path. Description: Different sizes, between about 1cm and 2.5 cm long but not very fat. Not hairy. Fairly non-descript in appearance, darkish browny grey.... [4]

  • Dyma fesur anibynnol o boblogaeth gwyfyn y corn Carw rhwng 1996 a 2013:
Graff yn dangos niferoedd blynyddol gwyfyn y corn carw mewn trap ar nifer o safleoedd yng Nghymru 1996-2013

Dengys y graff gyfanswm blynyddol y gwyfynod corn carw a ddaliodd Duncan Brown yn ei drap mewn gwahanol fannau yng Nghymru (yn ei ardd yn Waunfawr ac yn Abergwyngregyn gan mwyaf) ers 1996. Sylwch ar y cynnydd yn 2007 (blwyddyn pla JB a, gyda llaw, blwyddyn cynhesaf erioed yn fyd eang hyd hynny), a llwyddiant ysgubol y gwyfyn y flwyddyn ganlynol, yn 2008. Roedd 2010 yn flwyddyn dda i’r corn carw hefyd.

  • Ymhellach i’r erthygl yn rhifyn 65 ynglŷn â'r Gwyfyn Corn Carw a'r gwylanod [Bwletin 65, tudalen 3] mae yna ddilyniant o'r hyn a welwyd ym mis Mai 2007 ar lethrau Drosgl, sef pla o lindys y gwyfyn hwn. Rhyw 10 diwrnod wedyn, gyda'r nos ar gopa Moel Faban wrth edrych draw tua'r un llecyn daeth haid o wylanod (400-500 neu fwy) o gyfeiriad Ynys Seiriol. Glaniodd y gwylanod ar y llethrau rhwng y Drosgl a Gyrn Wigau, gan ddechrau bwydo yn y fan lle gwelwyd y lindys bythefnos yn gynt. Gwelwyd yr un peth ar o leiaf ddwy noson arall yn ystod y diwrnodau nesaf, a chredid mai gwledd o lindys oedd wedi tynnu'r gwylanod draw i'r fan hon. Mae'n debyg mai bron 80 mlynedd ar ôl cyhoeddi’r erthygl gwreiddiol yn 1936 (uchod), mae gwylanod Ynys Seiriol yn dal ar eu hennill mewn blwyddyn dda ar gyfer Gwyfynod Corn Carw.[5]
The Antler Moth caterpillar invades upland areas in July to August on a fairly regular basis, about every 9 years. The last major invasion was in 2008 when 30,000 million caterpillars hatched on the upland moors of Cumbria around Glenridding, Patterdale, Angle Tarn, Helvellyn and Skiddaw.....[angen ffynhonnell]

Cyffredinol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyfyn corn carw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. British Birds Awst 1936
  4. Bwletin Llên Natur rhifyn 65[1]
  5. Janet Buckles, Bwletin Llên Natur rhifyn 67