Neidio i'r cynnwys

Gwlad yr Addewid

Oddi ar Wicipedia
Gwlad yr Addewid
AwdurEd Thomas
CyhoeddwrParthian Books
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi29/06/2015
ArgaeleddAr gael
ISBN9781910409008
GenreDramâu Cymraeg
Dynodwyr

Cyfieithiad Cymraeg o ddrama gyntaf Ed Thomas, House Of America yw Gwlad yr Addewid. Fe'i cyfieithwyd gan Sharon Morgan ac fe'i chyhoeddwyd yn 2015 gan Parthian Books.[1] Disgrifiwyd yr addasiad fel "perl o gyfieithiad" gan adolygydd theatr Y Cymro, Paul Griffiths: "yn canu’n farddonol yn acenion a dywediadau Cwm Tawe [De Powys]; yn eistedd mor gyffyrddus yn y Gymraeg a’r Saesneg wreiddiol, yn gredadwy, yn ganiadwy ac yn gofiadwy."[2] Llwyfannwyd y ddrama Gymraeg gyntaf gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Mam
  • Boyo
  • Gwenny
  • Sid
  • Labrwr

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Drama ffrwydrol, angerddol am deulu Cymreig a'r freuddwyd Americanaidd. Mae’n stori gref am deulu sy’n ceisio atebion ac yn cwffio yn erbyn pawb a phopeth er mwyn profi eu hunaniaeth. Gydag absenoldeb y tad, mae’r plant yn credu ei fod wedi dianc i’r Amerig, wedi dilyn y Freuddwyd Fawr sy’n parhau i ddallu a denu Sid. Wrth i Bwll Glo arall gael ei agor gerllaw, mae’r ysfa am waith yn atyniad mawr i Sid a Boyo ond yn codi ofn brawychus ar y fam. Ofn sy’n cael ei egluro a’i arteithio wrth i gyfrinachau ddaear ddod i’r wyneb. Yng ngwyneb yr holl anobaith, mae Sid a Gwenny yn boddi eu gofidiau drwy gyffuriau a gwirodydd, gan geisio dianc hefyd, i fyd sy’n well.[2]


"Rydym wedi symud fymryn tua'r gorllewin o Flaenau Gwent", meddai Meg Elis wrth adolygu cynhyrchiad Cymraeg o'r cyfieithiad i wefan BBC Cymru yn 2010: "ond does dim eisiau gwrando ar lawer o'r ddrama cyn gwybod yn union lle'r ydych chi - ardal ddiwydiannol Cwm Tawe," ychwanegodd.[3]

"Y geiriau oedd yn gosod y ddaearyddiaeth. Roedd rhythm yr acenion, y cytseiniaid yn dangos yn glir bod yr awdur yn gwybod o'r gorau lle'r oedd - ac yn anad dim, yn y cynhyrchiad hwn, fod y cyfieithydd yn hollol sicr o'i lleoliad a'i hieithwedd. Gallech flasu'r iaith, a'i theimlo. Roedd hi'n pefrio drwodd."[3]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ym 1988, ysgrifennodd Ed Thomas ei ddrama gyntaf, House of America. Enillodd y ddrama sawl gwobr fel drama a ffilm (1996), yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

"Perfformiwyd House of America am y tro cyntaf yn 1988", eglura'r actores a'r dramodydd Sharon Morgan oedd yn portreadu'r fam yn y cynhyrchiad wreiddiol o'r ddrama: "...yn rhan o dymor o ddramâu roedd Geoff Moore, y dyn difyr hwnnw, yn eu Ilwyfannu yn St Stephen's (Y Point erbyn hyn), yr hen gapel yn y Bae oedd yn gartre' i'w gwmni arloesol Moving Being."[4] Aiff Sharon ymlaen i nodi mai "Pum paced o sigaréts ar ford fach ddu a dwy gadair y naill ochr iddi oedd yn cynrychioli tŷ'r Lewisiaid, a'r nosweithiau hwyr meddw yn y Dowlais [tafarn] yn ein cynnal ni wrth i ni geisio ufuddhau i orchymyn Ed [Thomas] i dorri holl gadwynau confensiwn, i 'fod yn rhydd', i 'dorri'r walie lawr'."

12 yn unig oedd yn y gynulleidfa ar y noson gynta', yn ôl Sharon Morgan, ac yn dilyn taith fer o gwmpas Cymoedd De Cymru aeth y cwmni i Ganolfan Gelfyddydol Battersea yn Llundain, cyn dychwelyd i Gaerdydd. "Ar hyd y daith cafodd y drama adolygiadau gwych ac yn 1989 fe berfformio'n ni yng Ngŵyl Caeredin, ac yn yr un flwyddyn fe enillodd y drama wobr Time Out/01 for London."[4]

"Mae wedi bod yn fraint arbennig ei chyfieithu i'r Gymraeg", yn ôl Sharon Morgan, "yn enwedig oherwydd dimensiwn ychwanegol ein dwyeithrwydd sy'n ychwanegu at y cysyniad o'r freuddwyd goll, yr egni a'r angerdd sy'n cael ei fygu mewn cymdeithas ddryslyd o ran ei hunaniaeth" Nododd bod gan ardal enedigol Ed, Cwmgïedd ac Ystradgynlais, "ei thafodiaith unigryw ei hun, tafodiaith bert, nad y'n ni bron byth yn ei chlywed ar lwyfan, sgrin na radio, sy'n gwneud tranc yr iaith yn y pentrefi diwydiannol yma yn fwy ingol fyth".

"Mae'r themâu yn fyd-eang, fodd bynnag, a fy mhrif nod oedd ceisio creu ieithwedd a rhythmau yn y Gymraeg oedd yn gallu cynnal yr hiwmor a'r farddoniaeth mewn modd uniongyrchol a naturiol; hynny yw, bod mor driw i'r gwreiddiol a phosib. [...] Ond er ei lleoli yn yr wythdegau, mae'r neges yr un mor berthnasol heddiw, i ni yng Nghymru, ac ym mhobman yn y byd lle mae angerdd gwirionedd hunaniaeth yn cael ei wyrdroi."[4]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

1980au

[golygu | golygu cod]

Performiwyd y ddrama Saesneg wreiddiol House of America am y tro cyntaf ym mis Mai 1988, yn Theatr San Steffan [The Point], Caerdydd, fel rhan o'i thymor ysgrifennu radical; Cyfarwyddwr Ed Thomas; set a goleuo Ian Hill; cerddoriaeth Wyndham Price; cast:

Teithiodd y fersiwn ddiwygiedig o gwmpas de Cymru, i Lundain ac i Ŵyl Caredin ym 1989, gyda Richard Lynch yn portreadu Boyo.

2010au

[golygu | golygu cod]
Clawr rhaglen Gwlad yr Addewid Theatr Genedlaethol Cymru 2010

Llwyfannwyd yr addasiad Cymraeg gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2010. Cyfarwyddwr Tim Baker; cynllunydd Mark Bailey; Sain a Cherddoriaeth : Dyfan Jones; cast:

Er canmol yr addasiad o waith Sharon Morgan, "siom, poenus a phryderus" oedd y cynhyrchiad i adolygydd theatr Y Cymro, Paul Griffiths. "Trueni na chafwyd cynhyrchiad oedd yn deilwng o’i gwaith [...] Siom, siom, siom a sarhad ar glasur o gyfieithiad. Yn anffodus i Tim [Baker], rhaid imi osod rhan helaeth o’r bai ar ei ysgwyddau ef. O’r castio hyd y cynllunio, heb sôn am y cyfarwyddo", nododd.[2]

Nodi ei phryderon dros "ymdrechion ambell i gymeriad" i ynganu'r cyfieithiad caboledig wnaeth Meg Elis wrth adolygu cynhyrchiad ar wefan BBC Cymru:[3] "Digwyddais grybwyll hyn yn nes ymlaen - a chael yr esgus mai gogleddwr oedd un o'r actorion. Cystal datgan yn groyw yma nad oes ffliwsan o ots o lle daw actor. Fel y dywedodd John Mortimer pan wrthwynebodd rhyw actores ddweud llinellau ei chymeriad am eu bod yn treisio pa bynnag oedd ei chred ffasiynol hi ar y pryd - "It's called acting, dear" ac os nad yw actorion Cymraeg wedi dysgu'r wers honno, mae rhywbeth mawr o'i le."[3]

"Mae cwestiynau mawr yn cael eu trin yn Gwlad yr Addewid, ac enbydrwydd y rhwygiadau yn dod yn fwyfwy amlwg tua'r diwedd: yn llythrennol felly, mewn dwy ffordd bwysig. Wrth i Gwenny a Sid gael eu llyncu'n llwyr gan y freuddwyd, y rhwyg ieithyddol sy'n cyfleu hyn gryfaf. Gallwn ddychmygu bod hyn wedi gweithio'n dda yn y gwreiddiol, gyda'r tyndra rhwng yr Americaneg a Saesneg brodorol y cwm ond y mae'n fwy grymus fyth yn y Gymraeg, ac yn ychwanegu dimensiwn llymach at y rhwyg."[3]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017
  2. 1 2 3 "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-21.
  3. 1 2 3 4 5 "BBC - Cymru - Eisteddfod 2010 - O'r Maes - Gwlad yr Addewid". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-21.
  4. 1 2 3 Ed Thomas, Sharon Morgan (2015). Gwlad Yr Addewid. Seren Drama. ISBN 9781910409008.