Gwibdaith Hen Frân
Gwibdaith Hen Frân | |
---|---|
![]() | |
Gwibdaith Hen Frân yn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011. | |
Gwybodaeth gefndirol | |
Tarddiad | ![]() |
Cerddoriaeth | Acwstig / Gwerin / Gwerin Amgen |
Blynyddoedd | 2006-Presennol |
Label(i) recordio | Rasal |
Cysylltiedig | Twmffat Mim Twm Llai Estella Y Mistêcs Jac Gai Toms Vates. |
Dylanwadau | Old Crow Medicine Show Mim Twm Llai |
Gwefan | Myspace Gwibdaith Hen Frân |
Cyn aelodau | |
Gary Richardson - Gitâr Fas Ieuan Williamson - Banjo |
Mae Gwibdaith Hen Frân yn fand acwstig gwerin amgen o ardal Blaenau Ffestiniog.
Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]
Ffurfiodd y band yn 2006, gan esblygu o chwarae yn nhafarndai Bro Ffestiniog i wyliau cerddorol megis Gŵyl Car Gwyllt, Tân y Ddraig, Maes B, a Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2007. Daeth yr ysbrydoliaeth i enw'r band drwy ddylanwad y band Old Crow Medicine Show ac er cof am Jac y Frân, anifail anwes Phil, un o'r aelodau.

Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, Cedors Hen Wrach yn 2007 ar label Rasal. Lansiwyd eu hail albwm, Tafod Dy Wraig yn Haf 2008 a dilynodd eu trydydd albwm, Llechan Wlyb ym mis Mai 2010.
Ym mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd dau o aelodau Gwibdaith Hen Frân - Paul Thomas a Robert Ifan Buckley - eu bod yn bwriadu gadael y band. Fodd bynnag, cyhoeddodd Philip Lee Jones y buasai Gwibdaith Hen Frân yn parhau i berfformio hyd yn oed pe bai'r ddau yn gadael.[1]
Ymunodd 3 aelod newydd â'r band ym mis Rhagfyr 2010; sef Justin Allen Davies (Mandolin / Harmonica), Gary Richardson (Gitâr Fas), ac Ieuan Williamson (Banjo), ac yn dilyn bron i dair mlynedd o deithio a pherfformio rhyddhawyd eu 4ydd albwm Yn Ôl ar y Ffordd ym mis Awst 2013.
Aelodau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Philip Lee Jones - Llais, Iwcalili. Hefyd yn aelod o fand Twmffat, a chyn-aelod o fandiau Mim Twm Llai, Estella, Vates, Jac ac Y Mistêcs.
- Gethin Thomas - Llais, Gitâr Acwstig.
- Justin Davies - Mandolin, Harmonica. Hefyd yn gyn-aelod o Twmffat a Anweledig.
Cyn-aelodau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gary Richardson - Gitâr Fas. Hefyd yn gyn-aelod o fand Gai Tom a Mim Twm Llai.
- Ieuan Williamson - Banjo
- Paul Thomas - Llais, Gitâr Acwstig.
- Robert Buckley - Bâs Dwbl
Discograffiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cedors Hen Wrach (2007, Rasal)
- Cân am Sana' (2007, Sain)
- Tafod Dy Wraig (2008, Sain)
- Llechan Wlyb (2010, Sain)
- Yn Ôl ar y Ffordd (2013, Rasal)