Gwesty'r Angel, Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Gwesty'r Angel
Mathgwesty Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4808°N 3.183°W Edit this on Wikidata
Cod postCF10 1SZ Edit this on Wikidata
Map

Gwesty yw Gwesty'r Angel mewn lleoliad amlwg ar gornel Stryd y Castell/Heol y Porth yng nghanol Caerdydd. Am ran helaeth o'i fodolaeth roedd yn un o brif westai'r ddinas, wedi ei ymweld gan enwogion a phrif weinidogion.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Honnir fod Gwesty'r Angel wedi bodoli yng Nghaerdydd ers 1666[2] ond mae'n sicr ei fod yno ers yr 18g mewn lleoliad gyferbyn porth Castell Caerdydd ar stryd oedd a'r enw Stryd yr Angel bryd hynny,[3] a ddim yn bell o'i leoliad presennol. O tua 1782 roedd yn cael ei redeg gan John Bradley, o deulu oedd wedi gwneud eu harian o rasio ceffylau.[4] Roedd Bradley yn bostfeistr a chludwr post i Gaerdydd. Gwesty'r Angel oedd pen daith coets y post dyddiol o Lundain a Bryste.[2]

Gwesty'r Arfau Caerdydd

Canrif yn ddiweddarach roedd angen llydanu'r ffordd o flaen Castell Caerdydd. Adeiladwyd gwesty newydd ar ddiwedd y stryd i gymryd lle'r hen Westy'r Angel a'r hen Westy'r Arfau (oedd wedi ei ddymchwel). Prynwyd y plot gan Gorfforaeth Caerdydd o Marcwis Bute am swm enwol a dyluniwyd gwesty newydd gan "Mr C.J. Jackson" mewn arddull 'Dadeni Seisnig'. Adeiladwyd y gwesty gan gwmni Jackson yn llwyr mewn briciau coch a wnaed gan Waith Briciau Ystâd Bute am gost o dros £20,000.[5] Roedd wedi ei addurno, dodrefnu ac yn barod am westai erbyn Gorffennaf 1883.[6] Dyluniwyd logo'r gwesty newydd, a ddefnyddiwyd ar arwyddion a'r llestri, gan Marcwis Bute, yn cyfeirio at y ddau westy blaenorol drwy gyfuno angel yn dal arfbais Caerdydd.[6]

Lleolwyd mynedfa portico'r adeilad newydd ar gornel weladwy'r safle. Roedd gan y gwesty 76 stafell wely, bariau, stafell biliards a neuadd hecsagonaidd uchder llawn yn llenwi'r tu mewn gyda golau ddydd drwy nen lamp gwydr.[5] Roedd gan y prif ofod, y stafell goffi mawr ar y llawr cyntaf, olygfeydd godidog o'r wlad oddi amgylch. Roedd yn arwain at falconi uwchben y fynedfa oedd wedi ei fwriadu ar gyfer yr Aelod Seneddol lleol i "gyfarch ei etholwyr pan oedd rhaid iddo ddiolch iddynt am ei ethol".[5]

Fe addaswyd yr hen Westy'r Angel i swyddfeydd ar gyfer Ystâd Bute.[5] Yn y 1930au fe ddymchwelodd hen wyneb 18g yr adeilad wrth i waith atgyweirio gael ei wneud. Fe'i hail-adeiladwyd, ac er ei fod yn atgynhyrchiad, cafodd ei restru gyda Gradd II yn 1975.[3]

Ar droad yr 20g roedd Gwesty'r Angel wedi ei berchen gan gwmni'r Arglwyddes Honywood, Gwestai Honywood gyda phrydles gan yr entrepreneur gwestai  Elizabeth Miles, a adeiladwyd wyneb newydd i'r adeilad.[7]

Parhaodd y Gwesty'r Angel newydd yn lety pwysig i wleidyddion ac enwogion, yn cynnwys Greta Garbo, y Beatles[1] a'r actor Anthony Perkins (a arestiwyd yn y gwesty yn 1989 ar ôl i becyn o ganabis a bostiwyd iddo'i hunan gael ei roi i westai arall mewn camgymeriad).[8]

21ain ganrif[golygu | golygu cod]

Yn y 1990au a'r 2000au daeth Gwesty'r Angel yn llety llai pwysig wrth i nifer o westai modern gael eu hadeiladu yng nghanol y ddinas a Bae Caerdydd. Fe'i hadnewyddwyd yn 2000.[1]

Yn 2012, daeth Jo McElveen yn Rheolwraig Gyffredinol y gwesty, ar ôl cychwyn fel gweinyddes yn y gwesty 14 mlynedd ynghynt.[9][10]

Mae'r gwesty yn rhan o gwmni The Hotel Collection (Puma Hotels Collection/Barcelo Hotels ynghynt). Mae ganddo 102 stafell wely.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Porter, Darwin; Prince, Danforth (2004), Frommer's Great Britain, Wiley Publishing, p. 694, ISBN 0-7645-3823-3, https://books.google.co.uk/books?id=jMPEIqbVFTIC&pg=PA694#v=onepage&q&f=false
  2. 2.0 2.1 Wells, Martin (5 Rhagfyr 2013). "Brian Lee recalls the illustrious history of one of Cardiff's legendary coaching inns". Wales Online. Cyrchwyd 24 Mai 2015.
  3. 3.0 3.1 "Nos.1&3 Castle Street, Castle". British Listed Buildings. Cyrchwyd 24 Mai 2015.
  4. Childs, Jeff (2012) (e-Book), Roath, Splott and Adamsdown: One Thousand Years of History, The History Press, p. 98, https://books.google.co.uk/books?id=nnQ7AwAAQBAJ&pg=PT98#v=onepage&q&f=false
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 "The New Angel Hotel, Cardiff". Western Mail. 13 Mehefin 1883. t. 3. Cyrchwyd 24 Mai 2015 – drwy British Newspaper Archive.
  6. 6.0 6.1 "The New Angel Hotel, Cardiff". Western Mail. 9 Gorffennaf 1883. t. 3. Cyrchwyd 24 Mai 2015 – drwy British Newspaper Archive.
  7. Griffiths, Richard (2010), The Entrepreneurial Society of the Rhondda Valleys, 1840-1920, Gwasg Prifysgol Cymru, pp. 90, 92, ISBN 978-0-7083-2291-8, https://books.google.co.uk/books?id=JEyuBwAAQBAJ&pg=PA92#v=onepage&q&f=false
  8. "As Alfred Hitchcock opens we look back on Psycho star's Welsh hotel horror". Wales Online. 8 Chwefror 2013. Cyrchwyd 24 Mai 2015.
  9. Barry, Sion (4 Gorffennaf 2012). "Former waitress appointed as general manager at The Angel Hotel, Cardiff". Wales Online. Cyrchwyd 24 Mai 2015.
  10. Woodrow, Emily (21 December 2012). "Meet the real 'angel' of The Angel Hotel in Cardiff". Wales Online. Cyrchwyd 24 Mai 2015.
  11. "The Angel Hotel, Cardiff". TheHotelCollection.co.uk. Cyrchwyd 24 Mai 2015.