Gwenynen Fêl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwenynen Fêl
Gwenynen ar flodyn afal
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Hymenoptera
Is-urdd: Apocrita
Teulu: Apidae
Is-deulu: Apinae
Genws: Apis
Linnaeus, 1758
Rhywogaethau

A. andrenifloris
A. cerana
A. dorsata
A. florea
A. koschevnikovi
A. mellifera (y wenynen fêl gyffredin)
A. nigricincta

Pryf sydd yn cynhyrchu mêl yw'r wenynen fêl. Mae dyn yn cadw gwenyn ers o leiaf 4 mil o flynyddoedd ers i'r Eifftiaid eu cadw. Mae gwenyn mêl yn casglu neithdar a'i storio mewn lloches tebyg i nyth - fel ffynhonnell bwyd, yn arbennig yn y gaeaf. Er hwylustod i gasglu'r mêl mae dyn yn rhoi cwch gwenyn iddynt ymgartrefu ynddo. Gwenynwr yw rhywun sydd yn cadw a gofalu am y gwenyn mêl a'r cychod.

Bywyd[golygu]

Mamwenynen. Cafodd y dot melyn ar ei chefn oddi wrth wenynwr er mwyn ei adnabod yn sydyn

Mewn trefedigaeth gwenyn mae un mamwenynen, sef brenhines y drefedigaeth sydd yn dodwy wyau a channoedd o wenyn gormes, sef gwenyn gwrywol, ond mae llawer mwy o weithwyr. Fel arfer, mae rhwng 40,000 ac 80,000 o wenyn yn byw mewn cwch gwenyn yn ystod yr haf, ond llawer llai yn ystod y gaeaf. Mae gwenyn yn cydweithio wrth hel mêl a chredir eu bod yn defnyddio "dawns" i nodi lleoliad blodau llawn neithdar i'r gwenyn eraill.

Mae gan y wenynen golyn a gallant bigo, ond fel arfer gwnant hynny'n unig pan gredant eu bod dan fygythiad.

Cynnyrch[golygu]

Gwenyn ar crwybr cwyr. Mae'r dotiau melyn tu fewn y crwybr yn fêl

Paill[golygu]

Mae gwenyn yn peillio planhigion sydd yn blodeuo a cheir ardaloedd ble mae'r gwenynwyr yn gosod cychod gwenyn ger planhigion masnachol er mwyn gwneud yn siwr fod y gwenyn yn gwneud eu gwaith.

Mêl[golygu]

Defnyddir mêl i roi blas ar fwyd. Mae blas mêl yn dibynnu ar y blodau o gwmpas cwch wenyn.

Cŵyr gwenyn[golygu]

Mae'r wenynen weithgar yn cynhyrchu cŵyr gwenyn i aeiladu'r crwybr cŵyr. Defnyddir cŵyr gwenyn i gynhyrchu canhwyllau a chŵyr dodrefn er engraifft.

Traddodiadau[golygu]

Y gwenynwr wrth ei waith.

Mae gwenyn yn un o ryfeddodau natur sy'n ennyn ein cywreinrwydd. Ceir un o'r cyfeiriadau cynharaf atynt yn y Gymraeg yn y gerdd fytholegol Cadair Taliesin:

Pan yw dien gwlith

a llad gwenith

a gwlith gwenyn

anglud ac ystor.

Llyfr Taliesin, 32.6-7, wedi'i ddiweddaru ychydig).

Yn fuan iawn yn hanes y ddynoliaeth daeth dyn i werthfawrogi mêl gwyllt fel ffordd o felysu bwyd a hefyd, yn ddiwedarach, i wneud y ddiod gadarn gyntaf (yng ngogledd Ewrop), sef medd. Credid mai 'bwyd y duwiau' oedd mêl oherwydd na wyddai neb sut y'i cynhyrchid.[1]

Yn yr Oesoedd Canol credai Cristnogion fod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng gwenyn, Paradwys a phechod dyn, fel y mae awdur Llyfr Cyfnerth yn esbonio: 'Bonhedd gwenyn o baradwys pan yw ac o achaws pechawt dyn y doethant odyno ac y dodes Duw y rat arnunt; ac wrth hynny ny ellir canu efferen heb y cwyr'.[2] Credid bod gwenyn yn moliannu Crist yn blygeiniol ar fore'r Nadolig.[3] Ond mae gwreiddiau'r goel Gristnogol i'w cael mewn traddodiad paganaidd hŷn. Yn ardal Abergele ar ddiwedd y 19 ganrif, yn ôl y bardd T. Gwynn Jones, gelwid 'crŵn gwenyn a chacwn a mân wybed eraill... yn "ganu'r Tylwyth Teg". Ymhen blynyddoedd, deuthum i wybod ei fod yn hysbys yn Iwerddon wrth enw tebyg, "ceol sidhe", canu'r Tylwyth Teg.'[4] Naturiol, felly, oedd cyffelybu'r beirdd i wenyn. Mae Dafydd Nanmor yn cyfeirio at y beirdd a ymdyrrai i lys Rhys o'r Tywyn 'i gannu fel mêl gwenyn'[5] Dywed Tudur Aled fod y Glêr (mân-feirdd neu feirdd crwydrol) yn heidio fel gwenyn i lys y Deon Cyffin: 'Nid amlach gwenyn i'r glyn no'r Glêr'[6] Credid bod gwenyn yn rhoddi rhagfynegiad o farwolaeth y penteulu naill ai drwy farw yn y cwch gwenyn neu gilio ohono.[7] Credid hefyd fod yna gysylltiad rhwng gwenyn a chorff Abel, brawd Cain, fel yn yr englyn hwn gan Bleddyn Ddu:

Cwning cân nwsing. Cywion isel - cainc,

Cyrff ifainc craff afel;

Cnwd o wybed cnawd Abel,

Cario maen' y cwyr a'r mêl. [8]

Roedd yn arferiad (ac efallai ei bod yn parhau) mewn rhai mannau yng Nghymru, pan fyddai rhywun yn marw i weddill y teulu fynd 'i ddweud wrth y gwenyn'.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. gw. Marged Haycock, 'Canu y Medd o Lyfr Taliesin', Dwned 1 (1995), 7-24, am drafodaeth.
  2. Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), Drych yr Oesoedd Canol, Caerdydd 1986, t. 165.
  3. John Jones (Myrddin Fardd), Llen Gwerin Sir Gaernarfon, Caernarfon, d.d.=1908, t. 144, 268
  4. T. Gwynn Jones, Brithgofion, Llandebie, 1944, t. 10.
  5. Thomas Roberts (gol.), The Poetical Works of Dafydd Nanmor, Cardiff 1928, II.32.
  6. T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled, Caerdydd 1926, VIII.21; cf. LI.51-2.
  7. gw. Evan Isaac, Coelion Cymru, Aberystwyth 1938, t. 84.
  8. R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Bleddyn Ddu, Aberystwyth 1994, cerdd 9. Ymhellach ar wenyn yn llên yr Oesoedd Canol yn gyffredinol, gweler Drych yr Oesoedd Canol t. 163-5. a hefyd T. Charles-Edwards & F. Kelly (ed.), Bechbretha: An Old Irish Tract on Beekeeping, Dublin 1983, tt. 192-205.

Dolen allanol[golygu]