Bechbretha

Oddi ar Wicipedia
Bechbretha

Llyfr Cyfraith canoloesol yn yr iaith Wyddeleg sy'n ymwneud â chyfraith Gwyddelig cadw gwenyn mêl yw Bechbretha.[1]

Mae'n destun hynafol Hen Wyddeleg a ysgrifennwyd tua'r 8g, yn ôl pob tebyg. Fe'i cedwir y fersiwn hynaf (a'r unig destun cyfan) yn llawysgrif H.2.15A, yn Llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn, sydd y llawysgrif gyfraith Wyddeleg hynaf sydd wedi goroesi.

Mae'r rheolau cyfreithiol ynglŷn â gwenyn yn hynod fanwl ac yn adlewyrchu pwysigrwydd mêl, a ddefnyddid i wneud y diod meddwol medd, ymhlith pethau eraill, yn y gymdeithas Wyddelig gynnar.

Ceir testunau cyffelyb yn y llyfrau cyfraith Cymreig, ond nid ydynt mor fanwl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Dublin Institute for Advanced Studies. Bechbretha: an Old Irish law-tract on bee-keeping. Adalwyd ar 4 Mai 2012.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Bechbretha: An Old Irish Tract on Beekeeping, gol. T. Charles-Edwards a F. Kelly (Dulyn, 1983)