Neidio i'r cynnwys

Gwenllian Lansdown

Oddi ar Wicipedia
Gwenllian Lansdown
Ganwyd1979 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata

Prif Weithredwr "Dysgu" yw Dr Gwenllian Lansdown Davies (ganed 1979, Llanelwy). Cyn hynny, bu'n Brif Weithredwr Mudiad Meithrin (rhwng 2014 a 2025).

Bu'n gynghorydd sir rhwng 2004 a 2011 gan gynrychioli ward Glan yr Afon ar Gyngor Dinas Caerdydd; ac yn Brif weithredwr Plaid Cymru rhwng 2007 a 2011.[1][2]

Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg y Santes Hilda, Rhydychen rhwng 1997 a 2001 (fel Arddangoswr, ac enillodd Faglor y Celfyddydau mewn Ieithoedd Modern: Ffrangeg a Sbaeneg) a Phrifysgol Caerdydd (MSc Econ a PhD mewn Theori Gwleidyddiaeth). Gweithiodd fel tiwtor mewn Gwleidyddiaeth tra'n gwneud ymchwil ar gyfer ei PhD.[3]

Wedi gweithio i Blaid Cymru bu'n olygydd y cofnodolyn ymchwil academaidd ar-lein, Gwerddon, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol rhwng 2011-14.[4]

Penodwyd hi yn Brif Weithredwr ar Mudiad Meithrin (Mudiad Ysgolion Meithrin gynt) yn 2014.[5] Yn ei rôl mae wedi siarad yn aml ar strategaeth i ddatblygu addysg blynyddoedd cynnar, gofal plant a bod hynny yn y Gymraeg.[6] Sefodd lawr ar ôl 11 mlynedd pan gafodd ei phenodi fel Prif Weithredwr "Dysgu" (Corff Dysgu Proffesiynol Newydd sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru).[7] Ei holynydd yw Dr Catrin Edwards, a gychwynodd yn y swydd ganol Rhagfyr 2025.[8]

Yn 2019 bu iddi ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[9] Mae hi hefyd yn gwasanaethu ar fyrddau S4C a Medr (y Comisiwn dros Addysg Drydyddol ac Ymchwil). Mae hi hefyd yn gweithredu fel 'Unigolyn Cyfrifol' ac ar bwyllgor y Cylch Meithrin / Cylch Ti a Fi lleol fel gwirfoddolwr.

Personol

[golygu | golygu cod]

Mae hi'n briod â Arwyn Groe, ffarmwr a bardd. Mae ganddynt bedwar o blant. Mae hi'n arddel yr enw Dr Gwenllian Lansdown Davies mewn fforymau cyhoeddus a phroffesiynnol.[10]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Plaid Appoint New Chief Executive:Plaid Cymru - the Party of Wales. Plaid Cymru (10 Medi 2007).
  2.  Cardiff - Home, Councillor Gwenllian Landsdowne Riverside. Cyngor Caerdydd (29 Ionawr 2010).
  3.  Kolkhorst Exhibitions. Oxford University Gazette. Prifysgol Rhydychen (17 Rhagfyr 1998).
  4. https://www.llyfrgell.cymru/gwybodaeth-i/y-wasg-ar-cyfryngau/datganiadaur-wasg/datganiadaur-wasg-2020/penodi-tair-o-ymddiriedolwyr-newydd-i-fwrdd-llyfrgell-genedlaethol-cymru[dolen farw]
  5. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/26728716
  6. https://www.youtube.com/watch?v=abKKAjVPLRQ
  7. "Penodi Prif Weithredwr Corff Dysgu Proffesiynol Newydd". Welsh Govenment News. 2025-08-06. Cyrchwyd 2025-10-20.
  8. "Mudiad Meithrin yn penodi Prif Weithredwr newydd". newyddion.s4c.cymru. 2025-10-20. Cyrchwyd 2025-10-20.
  9. https://www.llyfrgell.cymru/gwybodaeth-i/y-wasg-ar-cyfryngau/datganiadaur-wasg/datganiadaur-wasg-2020/penodi-tair-o-ymddiriedolwyr-newydd-i-fwrdd-llyfrgell-genedlaethol-cymru[dolen farw]
  10. https://www.llyfrgell.cymru/gwybodaeth-i/y-wasg-ar-cyfryngau/datganiadaur-wasg/datganiadaur-wasg-2020/penodi-tair-o-ymddiriedolwyr-newydd-i-fwrdd-llyfrgell-genedlaethol-cymru[dolen farw]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.