Gweledydd Brahan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Carreg Coffa Gweledydd Brahan

Roedd Gweledydd Brahan, (Gaeleg: Coinneach Odhar Fiosaiche (y gweledydd glas proffwydol)), neu Kenneth Mackenzie, yn ddyn hysbys a oedd yn gallu rhagfynegi’r dyfodol ac yn byw yn yr Alban yn y 17eg ganrif[1]. Yr awdur cyntaf i grybwyll hanes y dyn hysbys mewn llyfr oedd y Cymro Thomas Pennant yn ei lyfr A Tour in Scotland [2]

Mae rhai yn honni bod nifer o broffwydoliaethau Gweledydd Brahan yn ffrwyth dychymyg y llenor gwerin Alexander MacKenzie, y dyn a fu’n gyfrifol am eu casglu gan fod rhai o’r hanesion a rhagfynegodd wedi digwydd ymhell cyn iddynt gael eu cyhoeddi mewn llyfr. Mae eraill yn cwestiynu os oedd y gweledydd wedi bodoli o gwbl[3][4].

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Honnir bod Kenneth Mackenzie yn frodor o Ùig Leòdhas, tiroedd oedd yn berchen i’r teulu Seaforth a’i bod yn aelod o Glan Mackenzie. Ond mae ei hanes yn perthyn yn bennaf i Gastell Brahan ger Dingwall ac ân tEilian Dubh. Roedd yn gweithio ar dir Kenneth Mackenzie, 3ydd Iarll Seaforth yn Ùig. Wedi clywed am ei ddoniau cafodd wahoddiad gan yr iarll i symud i weithio ar ei diroedd ger Castell Brahn, er mwyn byw yn agosach i’w meistr ac er mwyn i’r meistr manteisio ar ei ddoniau

Cael y ddawn i broffwydo[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl un hanes bu fam Kenneth yn gwylio ei gwartheg liw nos, pan welodd hi, tua'r hanner awr cyn hanner nos, yr holl feddau mewn mynwent ger llaw yn agor, a’r cyfan o’r cyrff oedd yn gorffwys yn y beddau yn mynd ymaith i bob cyfeiriad. Ar ôl oddeutu awr, dechreuodd y meirw dychwelyd i orffwys eto yn eu mannau claddu. Ond, wrth sganio'r lle claddu yn fwy agos, gwelodd mam Kenneth bod un bedd yn dal i fod ar agor. Gan ei fod yn ferch ddewr, penderfynodd ganfod pam bod y bedd yn parhau’n wag. Gosododd ei chogail wrth ei geg, gan na all ysbryd fynd i mewn i fedd eto tra'r oedd yr offeryn hwnnw arno. Wedi aros ychydig daeth ysbryd merch ifanc landeg i’r fynwent gan ofyn i fam Kenneth i symud ei chogail er mwyn iddi ddychwelyd i’w bedd. Cytunodd y fam i wneud hynny ar yr amod bod yr ysbryd yn egluro paham ei bod hi mor hwyr yn dychwelyd. Ei hateb oedd bod ei siwrnai hi i yn un llawer hirach na’r gweddill gan ei fod yn gorfod mynd yr holl ffordd i Norwy, gan ei bod yn dywysoges o Norwy a boddodd gerllaw. Symudwyd y cogail ac fel diolch dwedodd yr ysbryd wrthi ewch i’r llyn a chael hyd i garreg fach grwn, bydd rhoi i'ch mab, Kenneth y gallu i ddatgelu digwyddiadau yn y dyfodol. Cafodd hyd i’r garreg a'i roi i'w mab.

Yn ôl hanes arall aeth Kenneth i gysgu ar fryn tylwyth teg, wedi blino’n lan o wario’r dydd yn torri mawn. Pan ddeffrodd cafodd hyd i garreg fechan, glain neidr (carreg efo twll yn ei chanol), yn ei gôt, a oedd yn caniatáu iddo weld y dyfodol trwy edrych trwy’r twll. Ei weledigaeth gyntaf oedd un o’i wraig yn dod a bwyd iddo. Roedd y bwyd wedi cael ei wenwyno gan ddynes yr oedd Kenneth yn cael perthnasau all briodasol efo hi, ac yn ofni byddai eu perthynas yn cael ei ddarganfod. Gwrthododd bwyta’r bwyd, gan ei roi i’w gi, bu farw’r ci, gan brofi grym proffwydol y garreg[5]!

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Aeth Iarll Seaforth ar ymweliad a Pharis, ar gais y Brenin Siarl II, bu i ffwrdd am lawer hirach nag oedd ei wraig, yr iarlles, yn disgwyl. Heb wybod os oedd ei gŵr yn fyw neu farw gofynnodd yr Iarlles i Kenneth os oedd yn gallu gweld be oedd wedi digwydd i’r iarll yn y ddinas bell. Atebodd y dyn hysbys Peidiwch ag ofni am eich arglwydd, mae'n ddiogel ac yn gadarn, yn dda o iechyd, yn fodlon ac yn hapus [6]. Roedd yr iarlles wedi drysu gyda’r ymateb a phwysodd ar y dyn hysbys i egluro paham nad oedd wedi dychwelyd. Gwrthododd dweud ar sawl achlysur gan ymateb Byddwch yn fodlon, heb holi rhagor - gadewch iddo fod yn ddigon i chi wybod bod eich arglwydd yn dda ac yn iach, ond parhaodd yr iarlles i bwyso arno i ddweud y cyfan. O dan y fath pwysau ildiodd Kenneth gan egluro bod yr iarll wedi anghofio am ei wraig, ei blant a’i gartref gan ei fod yn mwynhau pleserau rhywiol gyda merched Paris. Ffromodd yr iarlles, nid oherwydd anniweirdeb ei gŵr, ond oherwydd enllib Kenneth. Penderfynodd lladd y negesydd, a’i orchymyn i'w llosgi fel gwrach.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Historic Scotland The Brahan Seer – the Scottish Nostradamus] adalwyd 12 Medi 2017
  2. UNDISCOVERED SCOTLAND THE BRAHAN SEER
  3. Thompson, Francis. (1976). The Supernatural Highlands. R. Hale. tud. 72.
  4. Wilson, Damon. (1999). The Mammoth Book of Nostradamus and Other Prophets. Carroll & Graf. p. 211. ISBN|978-0786706280
  5. PROPHECIES OF THE BRAHAN SEER: Intrioduction adalwyd 10 Medi 2017
  6. The Scotsman The Brahan Seer: Scotland's Nostradamus]adalwyd 10 Medi 2017
  7. The Seers Death Prophecies of the Brahan Seer, by Alexander Mackenzie, (1899), at sacred-texts.com adalwyd 10 Medi 2017