Gwartheg Nguni

Oddi ar Wicipedia
Gwartheg Nguni
Enghraifft o'r canlynolbrid o wartheg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gyrr o wartheg Nguni

Mae brîd gwartheg Nguni yn unigryw i Ddeheudir Affrica. Mae'r brîd yn hybrid o fridiau gwartheg Indiaidd amrywiol ac Ewropeaidd diweddarach. Mae tarddiad brid gwartheg Nguni i drigolion gwreiddiol De Affrica yn ystod eu hymfudiad o ogledd y cyfandir. Mae brîd y gwartheg o faint canolig ac wedi addasu i borfa veld uchel.

Priodweddau[golygu | golygu cod]

Mae gwartheg Nguni yn adnabyddus am eu ffrwythlondeb a'u gallu i wrthsefyll afiechyd.[1] Mae nodweddion hyn y brîd gwartheg yn ei wneud yn un o hoff fridiau yn Ne Affrica (De Affrica, eSwatini, Namibia, Zimbabwe, Botswana ac Angola). Nodweddir y Nguni gan eu croen amryliw gyda phatrymau gwahanol. Mae blaen eu trwynau wastad yn ddu. Maent yn ddisgynyddion i wartheg Sanga, a darddodd fel hybridau o wartheg Zebo yn Nwyrain Affrica. Mae dadansoddiadau DNA wedi dangos eu bod yn gyfuniad o Sebw (Bos taurus indicus) a'r fuwch (Bos taurus), gyda bridiau Ewropeaidd a rhai bridiau eraill o wartheg lleol a fagwyd o Cebus.[2]

Heblaw am y patrymau croen lliw gwahanol, mae gan y brîd amrywiaeth o siapiau corn hefyd. Cofnodwyd yr holl gyfuniadau gwahanol gan fugail o Dde Affrica ar ddechrau'r ganrif. Ysbrydolodd y gwaith hwn gofrestr wartheg Nguni. Dyma gasgliad o dermau sy'n disgrifio gwartheg a theirw Nguni yn llawn. Mae teirw fel arfer yn pwyso rhwng 500 a 600 kg,[3] tra bod buchod yn pwyso rhwng 300 a 400 kg.

Tarddiad[golygu | golygu cod]

Gwartheg Nguni

Daethpwyd â hynafiaid y gwartheg Nguni i Dde Affrica rhwng 600 a 1400 OC gan y bobl Nguni (Swlŵiaid, Xhosa, Ndebele a Swati) yn ystod eu hymfudiad.[4] Chwaraeodd y brîd hwn o wartheg ran gymdeithasol ac economaidd bwysig yn natblygiad y cymdeithasau hyn. Ymhlith pethau eraill, defnyddir y gwartheg fel gwaddol (lobola). Mae nifer yr anifeiliaid y mae cymuned neu unigolyn yn berchen arnynt yn chwarae rhan bwysig yn eu statws. Roedd y Brenin Shaka y Zulus yn deall pwysigrwydd diwylliannol ac economaidd y gwartheg, ac atafaelodd wartheg Nguni o dan ei reolaeth. Roedd Shaka yn bridio Ngunis yn ôl patrymau lliw. Cafodd ei warchodwyr personol eu hadnabod gan y crwyn Nguni gwyn pur roedden nhw'n eu gwisgo, yr hyn a elwir yn inyonikayiphumuli.

Lliw croen[golygu | golygu cod]

Mae gan y gwartheg lawer o liwiau a phatrymau gwahanol, megis gwyn, brown, melyn euraidd, du, neu frith.

Tadogiad iaith[golygu | golygu cod]

Canran siarwyd ieithoedd Nguni yn Ne Affrica, (2011

Mae hynodrwydd y gwartheg a'u perthynas gyda'r pobloedd Bantu a symudodd i'r hyn sydd heddiw yn wladwriaethau De Affrica a Zambia, wedi golygu mai dyma'r enw ar y Continiwm tafodiaith yr ieithoedd Bantu yma. Mae'r continiwm ieithoedd Nguni yma yn cynnwys ieitheodd (neu, dafodieithoedd gan ddibynu sut fe'i hystyrir) Swlŵeg, Xhosa, Ndebele ac Swati.[5] Mae gyda'r teulu iaith gryfaf yn neheudir Affrica.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Nguni Cattle Project". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Maart 2009. Cyrchwyd 15 Awst 2018. Check date values in: |archive-date= (help)
  2. Nguni Cattle at Embryoplus Archifwyd 2006-02-23 yn y Peiriant Wayback.
  3. Nguni Facts at www.nguni.info
  4. Lander, Faye; Russell, Thembi (2018). "The archaeological evidence for the appearance of pastoralism and farming in southern Africa" (yn en). PLOS ONE 13 (6): e0198941. Bibcode 2018PLoSO..1398941L. doi:10.1371/journal.pone.0198941. PMC 6002040. PMID 29902271. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6002040.
  5. "Siya Seya, Laugh In Your Language Season 1, Nguni". Comedy Central Africa. 2020.