Gwarchodfa Natur Martin Mere

Oddi ar Wicipedia
Gwarchodfa Natur Martin Mere
Mathgwarchodfa natur Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1975 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd210 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.623°N 2.869°W Edit this on Wikidata
Cod postL40 0TA Edit this on Wikidata
Rheolir ganYmddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion Edit this on Wikidata
Map

Mae Gwarchodfa Natur Martin Mere yn un o warchodfeydd yr Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion. Lleolir y warchodfa yn Swydd Gaerhirfryn ger Burscough.

Agorwyd y warchodfa i aelodau’r Ymddiriodolaeth ym 1974, ac i bawb ym 1975. Daeth y syniad gwreiddiol o greu gwarchodfa yno oddi wrth Ronnie Barker, perchennog cwmni cludiant lleol a ffrind i Syr Peter Scott, sylfaenydd yr ymddiriodolaeth. Prynwyd y safle 363 acer am £52,000. Yn dilyn polisi’r ymddiriodolaeth, cedwir adar o dramor yn gaeth. Cyflwynwyd afancod yn 2007 a dwrgwn yn 2009. Mae ardal chwarae a chaffi. Mae miloedd o adar yn dod i’r warchodfa yn ystod eu mudiad blynyddol, megis Eleirch y Gogledd a Gwyddau troedbinc.[1]

Mae Martin Mere yn ardal o ddŵr, cors a dôl uwchben mawn dwfn. Mae’n safle o arwyddocâd rhyngwladol; mae dros 20,000 o adar dŵr yn aros yno dros y gaeaf, yn benodol Alarch Bewick, Alarch y Gogledd, Hwyaden gynffonfain a Gŵydd droedbinc.[2] Roedd yr ardal yn llyn mawr (yr un mwyaf yn Lloegr) a chors, yn estyn dros 1,300 hectar yn ystod y 17g. Mae adar yn symud rhwng Martin Mere ac aberoedd Afon Ribble ac Afon Alt.[3]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]