Peter Scott

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Peter Scott
Peter Scott, 1954 (cropped).jpg
Ganwyd14 Medi 1909 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw29 Awst 1989 Edit this on Wikidata
Bryste Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethadaregydd, darlunydd, arlunydd, cynllunydd stampiau post, cyflwynydd teledu, cadwriaethydd, glider pilot, sailor Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadRobert Falcon Scott Edit this on Wikidata
MamKathleen Scott Edit this on Wikidata
PriodPhilippa Scott, Elizabeth Jane Howard Edit this on Wikidata
PlantNicola Scott, Dafila Kathleen Scott, Richard Falcon Scott Edit this on Wikidata
Gwobr/auFellow of the Royal Society (Statute 12), CBE, Medal y Sefydlydd, Medal Undeb yr Undeb Adaryddiaeth Prydeinig, J. Paul Getty Award for Conservation Leadership, Medal Albert, Marchog Faglor Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Am y lleidr, gweler Peter Scott (lleidr).

Adaregwr, cadwraethwr, arlunydd, swyddog yn y llynges, ac iotiwr o Sais oedd Syr Peter Markham Scott (14 Medi 190929 Awst 1989). Roedd yn fab i'r fforiwr Robert Falcon Scott. Pan oedd o’n ifanc, heliwr adar oedd o. Sefydlodd o Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion ym 1946 yn Slimbridge ac roedd o’n un o sefydlwyr y Gronfa Byd-Eang Dros Natur (WWF), hefyd yn cynllunio ei logo. Cystadleuodd dros Brydain yn Gemau Olympaidd 1936 ac enillodd fedal efydd am hwylio. Urddwyd yn farchog ym 1973 oherwydd ei waith fel cadwraethwr. Derbynwyd Medal Aur y WWF[1] a hefyd gwobr Paul Getty am Gadwraeth.

Cerflun Peter Scott, Martin Mere
Martin Mere

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd ar 14 Medi 1909 yn 174 Heol Palas Buckingham, Llundain, unig fab o Robert Falcon Scott a Kathleen Bruce, y cerflunydd. Bu farw ei dad pan oedd Peter yn 2 oed. Yn ei lythyr olaf cyn farw, awgrymodd ei dad i’w wraig y dylai hi roi diddordeb yn hanes naturiol i'u mab[2][3] Enwyd Scott ar ôl Syr Clements Markham[4] Ail-briododd ei fam i Farwn Kennet.

Addysgwyd Scott yn Ysgol Oundle a Choleg y Drindod, Caergrawnt, yn astudio Gwyddorau Naturiol ond yn newid i Hanes Celf, yn graddio yn 1931. Lletyodd gyda John Berry, soölegydd[5] Roedd o’n aelod o Glwb Criwsio Prifysgol Caergrawnt, a chystadleuodd yn erbyn Prifysgol Rhydychen ym 1929 a 1930. Astudiodd celf yn München ac wedyn yn ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain.

Fel ei fam, roedd ganddo ddawn celfyddydol, a chafodd ei arddangosfa yn Llundain ym 1933. Roedd ganddo ddiddordeb mewn celf, bywyd gwyllt a chwaraeon, gan gynnwys hela adar dŵr, hwylio, gleidio, a sglefrio. Enillodd fedal efydd yng Ngemau Olympaidd 1936 am hwylio[6] yn nosbarth O-Jolle.[7]. Enillodd Gwpan Tywysog Cymru ym 1938 yn defnyddio harnais o’r enw ‘Trapeze’, cynlluniwyd gan Scott a’i gryw.[8]

Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Gynfad Stêm, SGB S309, o dan arweiniad Is-lefftenant Peter Scott

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd o’n aelod o Wirfoddolwyr wrth Gefn y Llynges Frenhinol. Roedd o’n is-lefftenant yn ystod ymgiliad methedig Adran 51eg yr Ucheldir o Saint-Valery-en-Caux ar 11 Mehefin 1940[9]

Mae Is-lefftenant Scott yn siarad gyda'i swyddogion cyn adael Mount Vernon, Mehefin 1944 Gweithiodd ar llongau distryw yng ngogledd Môr Iwerydd

ac wedyn arweiniodd sqwadron o gynfadau stêm yn erbyn cychod-E Almaeneg yn Y Sianel.[10]

Creodd Scott gynllun cuddliw ar gyfer llongau’r llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd ym 1940, ac erbyn Mai 1941 penderfynwyd bod llongau’r Llynges Frenhinol yn ddefnyddio ei gynllun. Dangoswyd bod llong du yn weladwy 6 milltir pellach i ffwrdd na long gwyn.[11]

Wedi’r Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefodd Scott dros y Plaid Ceidwadol ym 1945 yn etholaeth Wembley ond collodd.

Sefydlodd Ymddiriedolaeth Bwyd Gwyllt Afon Hafren (erbyn hyn yr Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion ym 1946, gyda’i Bencadlys yn Slimbridge, Swydd Gaerloyw. Dechreuodd raglen fridio er mwyn arbed y Gwydd Nene yn y 1950au.

Cyflwynodd cyfres deledu hanes BBC, sef “Look” rhwng 1955 a 1969, gan gynnwys y ffilm lliw cyntaf am natur ar y BBC, sef “The Private Life of the Kingfisher”.[12]

Ysgrifennodd sawl llyfr am natur, gan gynnwys ei luniau, ac ysgrifennodd hunangofiant, “The eye of the wind” ym 1961.

Ymddangosodd ar raglen radio“Children’s Hour” ar ‘Home Service’ y BBC yn ystod y 1950au yn y cyfres ‘Nature Parliament’.

Dechreuodd gleidio ym 1956 a daeth yn bencampwr prydeinig ym 1963. Roedd o’n gadeirydd Cymdeithas Gleidio Prydeinig rhwng 1968 a 1970 ac roedd llywydd Clwb Gleidio Bryste a Swydd Gaerloyw.

Ymddangosodd yn y raglen deledu “This is your Life” ym 1956.[13]

Gwarchodfa natur Slimbridge

Roedd o’n aelod o Gomisiwn Goroesiad Rhywogaethau IUCN o’r Undeb Rhyngwladol am Gadwriaeth Natur, ac roedd un o greadwyr y Llyfrau Coch, y rhestri o rywogaethau dan berygl.[14]

Roedd o’n llywydd y Gymdeithas o Artistiaid Bywyd Gwyllt a llywydd Ymddiriedolaeth Natur mewn Celf[15]. Dysgodd Scott sawl artist.

Roedd o’n gangellor Prifysgol Birmingham rhwng 1973 a 1983. Cafodd radd anrhydeddus o Brifysgol Caerfaddon ym 1979.[16]

Roedd o’n gapten yr yot ‘Sovereign’, yn cystadlu am yr ‘America’s Cup’ ym 1964, ond collodd. Rhwng 1955 a 1960 roedd o’n llywydd ‘World Sailing’.[17]

Roedd o’n un o sefydlwyr y Gronfa Fyd-eang dros Natur (WWF), a chynlluniodd ei logo, y Panda. Cyfrannodd ei waith dros gadwriaeth at newid polici’r Comisiwn Rhwngwladol dros Forfila a Chytundeb yr Antarctig.

Roedd o’n ddirpwy-lywydd y Gymdeithas o Naturiaethwyr Prydeinig, a sefydlwyd Gwobr Goffa Peter Scott ar ôl ei farwolaeth.[18]

Yr Anghenfil Loch Ness[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlodd, gyda David James, cymdeithas i ymchwilio dirgelwch yr anghenfil ym 1962.[19]. Awgrymodd Scott yr enw Nessiteras rhombopteryx er mwyn cofrestru’r anghenfil fel rhywogaeth mewn perygl[20]. Sail yr enw oedd yr iaith Groeg hynafol.</ref>

Rhaglenni dogfen[golygu | golygu cod y dudalen]

Darlledwyd rhaglen amdano ar ITV yn Awst, enwyd 'Interest the Boy in Nature' gyda Konrad Lorenz, Tywysog Philip, David Attenborough a Gerald Durrell.

Roedd rhaglen am Peter Scott a David Attenborough ar BBC2 ym Mehefin 2000, enwyd ‘The Way we went wild’.

Dathlyd ei fywyd gyda rhaglen ddogfen BBC ‘In the Eye of the Wind’ yn y cyfres ‘Natural World’, gyda llais David Attenborough, yn dathlu 50fed penblwydd yr Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion.

Roedd rhaglen ddogfen amdano yn 2006 ar BBC4, enwyd ‘Peter Scott – A Passion for Nature’[21]

Bu farw oherwydd trawiad ar y galon ym Mryste ar 29 Awst 1989, yn 79 oed.[22]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Scott nofelydd, Elizabeth Jane Howard yn 1942 a chawsant ferch, Nicola, ym 1943[23] Gadawodd Howard lei gŵr ym 1946 ac ysgaruwyd ym 1951.[24]

Priododd Scott ei gynorthwy-ydd Philippa Talbot-Ponsonby ym 1951 ar siwrnai i Wlad yr Iâ, yn chwilio am fan fridio’r ŵydd droedbinc. Cawsant ferch, Dafila, ym 1951. Daeth hi’n beintydd ac adar oedd ei harbenigaeth.[25] Cawsant fab, Falcon, ym 1954.[26]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Derbynnodd o DSC oherwydd medr a dewrder ar 1 Mehefin 1943.[27] Cafodd MBE ym 1943[28] a CBE ym 1953.[29] Daeth o’n farchog ar 27 Chwefror 1973[30], ac yn aelod yr Urdd o’r Cydymeithion Anrhydedd ym 1987 am ei wasanaeth dros gadwraeth.[31] Enwyd ‘Scott’s Wrasse’ ar ôl iddo ac ei wraig am eu cyfraniad mawr dros gadwraeth.[32]

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Taith Cerdded Syr Peter Scott yn Swydd Norfolk[33][34] sy’n pasio aber Afon Nene ac yn mynd ar lan Y Wash o oleudy Peter Scott ger Sutton Bridge yn Swydd Lincoln i King’s Lynn.

Mae Parc Genedlaethol Syr Peter Scott ac Ysbyty Adar Syr Peter Scott yn Jamnagar, Gujarat, yr India yn dilyn gyfeillgarwch rhyng Scott a Jam Sahib, rheolwr Jamnagar ar y pryd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Morning flight. Country Life, Llundain 1936–44.
  • Wild chorus. Country Life, Llundain 1939.
  • Through the Air. (with Michael Bratby). Country Life, Llundain 1941.
  • The battle of the narrow seas. Country Life, White Lion a Scribners, Llundain, Efrog Newydd 1945–74. ISBN 0-85617-788-1
  • Portrait drawings. Country Life, Llundain 1949.
  • Key to the wildfowl of the world. Slimbridge 1950.
  • Wild geese and Eskimos. Country Life a Scribner, Llundain, Efrog Newydd 1951.
  • A thousand geese. Collins, Houghton a Mifflin, Llundain, Boston 1953/54.
  • A coloured key to the wildfowl of the world. Royle a Scribner, Llundain, Efrog Newydd 1957–88.
  • Wildfowl of the British Isles. Country Life, Llundain 1957.
  • The eye of the wind. (hunangofiant) Hodder, Stoughton a Brockhampton, Llundain, Caerlyr 1961–77. ISBN 0-340-04052-1, ISBN 0-340-21515-1
  • Animals in Africa. Potter a Cassell, Efrog Newydd, Llundain 1962–65.
  • My favourite stories of wild life. Lutterworth 1965.
  • Our vanishing wildlife. Doubleday, Garden City 1966.
  • Happy the man. Sphere, Llundain 1967.
  • Atlas en couleur des anatidés du monde. Le Bélier-Prisma, Paris 1970.
  • The wild swans at Slimbridge. Slimbridge 1970.
  • The swans. Joseph, Houghton a Mifflin, Llundain, Boston 1972. ISBN 0-7181-0707-1
  • The amazing world of animals. Nelson, Sunbury-on-Thames 1976. ISBN 0-17-149046-0
  • Observations of wildlife. Phaidon a Cornell, Rhydychen, Ithaca 1980. ISBN 0-7148-2041-5, ISBN 0-7148-2437-2, ISBN 0-8014-1341-9
  • Travel diaries of a naturalist. Collins, Llundain. 3 chyfrol: 1983, 1985, 1987. ISBN 0-00-217707-2, ISBN 0-00-219232-2, ISBN 0-00-219554-2
  • The crisis of the University. Croom Helm, Llundain 1984. ISBN 0-7099-3303-7, ISBN 0-7099-3310-X
  • Conservation of island birds. Caergrawnt 1985. ISBN 0-946888-04-3
  • The art of Peter Scott. Sinclair-Stevenson, Llundain 1992 p. m. ISBN 1-85619-100-1

Llyfrau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Wild Geese of the Newgrounds gan Paul Walkden; cyhoeddwyr: Ffrindiau o WWT Slimbridge, 2009. ISBN|978-0-9561070-0-8 gyda lluniau gan Peter Scott.
  • Peter Scott. Collected Writings 1933–1989. Casgliad gan Paul Walkden. Cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a Gwlyptiroedd, 2016. Llyfr clawr caled ISBN|978-0-900806-69-8, E-llyfr ISBN|978-0-900806-70-4. Gyda lluniau.

Hunangofiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhageiriau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Red Book – Wildlife in Danger gan James Fisher, Noel Simon a Jack Vincent, Collins, 1969. Mae’r llyfr yn cydnabod bod Scott wedi rhoi’r syniad tu ôl y llyfr.
  • George Edward Lodge – Unpublished Bird Paintings gan C.A. Fleming (Pearson PLC) 1983; ISBN|0-7181-2212-7

Lluniau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Down the Long Wind – a study of bird migration, gan Garth Christian, 1961.
  • 'Waterfowl of the World' – gyda Jean Delacour, Country Life 1954
  • Gallico, Paul (1946), ‘The Snow Goose’ gan Paul Gallico, 1946, Michael Joseph, Llundain.

Ffilmiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "WWF Duke of Edinburgh Conservation Award". Cronfa Byd-Eang Dros Natur. Cyrchwyd 22 Ionawr 2016.
  2. Scott's Last Expedition, Smith, Elder & Co., London, 1913 OCLC 15522514
  3. [1] Archifwyd 9 November 2011 yn y Peiriant Wayback. Llythyr Robert Falcon Scott at ei wraig weddw
  4. Scott (1966):22.
  5. "Ysgrif goffa John Berry" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-04-19. Cyrchwyd 2021-06-13.
  6. [https://web.archive.org/web/20180716165736/http://www.ocss.org.uk/?page_id=2292 |dyddiad=16 Gorffennaf 2018
  7. Scott (1966):123-129
  8. Scott (1966):139-142.
  9. Hugh Sebag-Montefiore, Dunkirk Fight to the Last Man Viking, 2006
  10. BBC WW2 Peoples War Archifwyd 2009-12-01 yn y Peiriant Wayback. gwelwyd 11 Rhagfyr 2007
  11. Forbes, Peter (2009). Dazzled and Deceived: Mimicry and Camouflage. Yale. Tudalennau 172–173.
  12. http://www.bbc.co.uk/programmes/b01nh58w Gwefan BBC]
  13. Gwefan bigredbook.info
  14. Gwefan www.cambridge.org
  15. Gwefan nature-in-art.org.uk
  16. "Gwefan Prifysgol Caerfaddon". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-19. Cyrchwyd 2021-09-09.
  17. Gwefan World Sailing
  18. Gwefan y gymdeithas
  19. The Enigma of Loch Ness: Making Sense of a Mystery gan Henry H. Bauer tudalen 163 (Gwasg Prifysgol Illinois, 1986) ISBN 0-252-01284-4
  20. Naming the Loch Ness monster, gan Sir Peter Scott a Robert Rines: Cylchgrawn Natur, 11 Rhagfyr 1975
  21. Gwefan BBC
  22. Cylchgrawn ‘Tatler’, Tachwedd 1989
  23. Slipstream; Elizabeth Jane Howard; cyhoeddwyr Macmillan, 2002, tudalen 134
  24. Slipstream, tudalen 219
  25. "Gwefan SWLA". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-16. Cyrchwyd 2021-10-21.
  26. Ysgrif goffa Philippa Scott, Y Guardian, 10 Ionawr 2010
  27. London Gazette, 28 Mai 1943
  28. London Gazette, 5 Mehefin 1942
  29. London Gazette, 26 Mai 1953
  30. London Gazette, 6 Mawrth 1973
  31. London Gazette, |12 Mehefin 1987
  32. Gwefan etyfish
  33. Gwefan visitnorfolk.com
  34. Sir Peter Scott Walk, Gwefan LDWA (Long Distance Walkers Association)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]