Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion
Gwedd
| Enghraifft o: | sefydliad elusennol, cyhoeddwr mynediad agored, sefydliad di-elw |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1946 |
| Sylfaenydd | Peter Scott |
| Gweithwyr | 497, 441, 655, 576, 858, 574, 599 |
| Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol |
| Pencadlys | Gwarchodfa natur Slimbridge |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | http://www.wwt.org.uk/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0q45l |



Sefydlwyd yr Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion ym 1946 yn Slimbridge gan Syr Peter Scott. Agorwyd y warchodfa er mwyn rhannu’r profiad gyda’r cyhoedd, a chyflwynodd o raglenni natur ar deledu BBC o’r warchodfa.[1]
Mae gan yr ymddidiodolaeth 10 canolfan:
- Gwarchodfa Natur Arundel
- Gwarchodfa Natur Genedlaethol Caerlaverock
- Gwarchodfa natur Castle Elspie
- Gwarchodfa natur Llanelli
- Gwarchodfa natur Llundain (agorwyd yn 2000)
- Gwarchodfa natur Martin Mere
- Gwarchodfa natur Slimbridge
- Gwarchodfa natur Steart
- Gwarchodfa natur Washington
- Gwarchodfa natur Welney (agorwyd yn 2006)
Mae gwaith yr ymddiriodolaeth yn cynnwys gwarchod adar prin ac yna eu rhyddhau yn ôl i’w cynefinoedd naturiol. Dechreuodd y proses efo’r Nene, gwydd o Hawaii. Erbyn hyn, mae eu niferoedd wedi ailgodi o 30 i dros 2,000 ers 1962. Diolch i waith Gwarchodfa Caerlaverock, cododd niferoedd gwyrain ar Ynys Sfalbard o 300 ym 1948 i 25,000 erbyn 1999. Ailgyflwynwyd Corhwyaden Laysan i Hawaii yn 2005, a’r Garan i Loegr yn 2010, wedi absenoldeb o 400 mlynedd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Tudalen hanes ar wefan yr Ymddiriodolaeth". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-17. Cyrchwyd 2018-02-28.