Gwaith Ann Griffiths
Llun wynebddalen | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Owen Morgan Edwards |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1905 |
Mae Gwaith Ann Griffiths yn llyfr yng Nghyfres y Fil[1] a olygwyd gan Syr Owen Morgan Edwards. Argraffwyd y llyfr ym 1905 gan R E Jones a'i Frodyr, Conwy ac fe gyhoeddwyd gan Llyfrau Ab Owen, Llanuwchllyn.
Mae copi o'r llyfr ar Wicidestun
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mae'r gyfrol yn un cyfansawdd sy'n cynnwys testunau o waith pedwar o gyfeillion a oedd yn gyd fynychu seiat y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhontrobert, Sir Drefaldwyn ar droad y 18/19 ganrif:
- Thomas Griffiths, Meifod
Cyhoeddwyd y gyfrol i nodi canmlwyddiant marwolaeth Ann Griffiths.[5]
Gwaith Ann Griffiths
[golygu | golygu cod]Mae adran Ann Griffiths yn cynnwys rhagymadrodd gan O M Edwards, sy'n rhoi cipolwg o gefndir yr emynyddes a rhagolwg o gynnwys yr adran. Mae y rhan fwyaf o'r llyfr wedi ei gopïo o lawysgrifau a ysgrifennwyd gan John Hughes. Mae'n cynnwys saith o lythyrau, chwech wedi eu cyfeirio at John Hughes ac un at Elizabeth Evans, Bwlch Aeddon. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys tua 80 o emynau Ann Griffiths.
Mae'r llythyrau a'r emynau o lawysgrifau John Hughes wedi eu trawsysgrifio gan y golygydd yn union fel y cawsant eu hysgrifennu heb gywiro sillafiad, orgraff na thafodiaith. Gan hynny mae nifer ohonynt ychydig yn wahanol i'r rai a thwtiwyd ar gyfer eu cyhoeddi mewn cofiannau a llyfrau emynau. Er enghraifft:
Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd | ||
---|---|---|
Gwaith Ann Griffiths
|
........... | Caneuon Ffydd
|
GWELAI yn sefyll rhwng y myrtwydd |
Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd |
Gwaith Thomas Griffiths
[golygu | golygu cod]Gŵr a gweddw Ann Griffiths oedd Thomas Griffiths (1776—1808). Fel ei wraig roedd Thomas hefyd yn emynydd. Mae'r llyfr yn cynnwys pedwar enghraifft o'i ganu mawl.
Gwaith John Davies
[golygu | golygu cod]Dim ond dau ddarn sydd yn adran Gwaith John Davies. "Myfyrdodau Ioan ap Dewi", cerdd hir yn ymateb i drychineb ym Mheriw pan laddwyd tua 100, 000 o bobl pan ffrwydrodd llosgfynydd ym 1798. Mae'r gerdd yn nodi pa mor frau ydy bywyd a sut bod trychinebau naturiol, rhyfeloedd a haint yn lladd yn ddirybudd a'r pwysigrwydd o ganfod gras Duw rhag ofn i ni gael ein dal mewn trychineb tebyg. Llythyr at ei gyfeillion ym Mhontrobert yw'r ail ddarn o waith John Davies. Llythyr a danfonwyd o Portsmouth wrth iddo baratoi i hwylio i Tahiti i wasanaethu fel cenhadwr.
Gwaith John Hughes
[golygu | golygu cod]Mae tipyn o bopeth yn adran John Hughes. Cywyddau, englynion, emynau, rhestr o'i lyfrau, cofnodion cyfarfodydd crefyddol, sylwadau a myfyrdodau am bynciau crefyddol ac erthyglau ar gyfer y wasg Gymraeg.
Pan fu O. M . Edwards yn copïo'r llawysgrifau ar gyfer y llyfrynnau yng nghyfrol Gwaith Ann Griffiths roedd y llawysgrifau yng ngofal y Parch Edward Griffiths, Pontrobert, bellach maent yn y Llyfrgell Genedlaethol.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "COLOFN Y PLANT - Y Darian". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1916-11-23. Cyrchwyd 2021-11-13.
- ↑ "GRIFFITHS, ANN (1776 - 1805), emynyddes | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-11-13.
- ↑ "DAVIES, JOHN (1772 - 1855), cenhadwr ac athro ysgol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-11-13.
- ↑ "HUGHES, JOHN (1775 - 1854), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, awdur, ac emynydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-11-13.
- ↑ "CYFARFODYDD YN LLANFYLLIN - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1905-08-23. Cyrchwyd 2021-11-13.
- ↑ Mynegai Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau John Hughes, Pontrobert