Gruffudd Williams (esgob)

Oddi ar Wicipedia
Gruffudd Williams
Ganwydc. 1587, c. 1589 Edit this on Wikidata
Bu farw1672 Edit this on Wikidata
Alma mater

Esgob Anglicanaidd Ossory oedd Griffith Williams (tua 1589–1672) a gwrthwynebydd chwyrn i'r Pwritiaid. Nid oedd bob amser yn un a'i wraig ac ym mis Hydref 1635 daeth hi ag achos o alimoni yn ei erbyn yn yr uchel lys, ond terfynodd yr achos mewn cytundeb a chyfaddawdodd y ddau.

Fe'i ganed yn Trefeilian ym mhlwyf Llanrug, ger Caernarfon, yn 1589 neu efallai 1590, yn fab rhydd-ddeiliad yn y plwyf. Roedd ei fam yn ddisgynnydd Tuduriaid Penmynydd, Ynys Môn. Graddiodd yn Eglwys Crist, Rhydychen ar 15 Mehefin 1604. Roedd ganddo gydymdeimlad cryf â'r uchel eglwysi h.y. roedd yn geidwadol iawn ei grefydd, ac roedd y Piwritaniaid yn ei gasau, wedi iddo gyhoeddi The Resolution of Pilate. Anogwyd roeddent yn cymell ar John King, esgob Llundain, i'w atal yn 1616. Fe'i gwyswyd i ymddangos o flaen Llys Newgate, ond fe'i rhyddhawyd gan Thomas Coventry. Dychwelodd o Lundain i Lanllechid ble gwnaed ef yn rheithor - tipyn o ddiswyddiad! Ond aeth i ddyfroedd dyfrion ar unwaith, gan ffraeo gyda Lewis Bayly, Esgob Bangor a oedd yn Biwritan o'i goryn i'w sowdwl. Ond Williams enillodd yddadl a chadwodd ei swydd.

Iwerddon[golygu | golygu cod]

Ceir cytundeb sy'n dystiolaeth (dyddiedig 11 Medi 1641) iddo dderbyn swydd esgobaeth Ossory yn Iwerddon a chysegrwyd ef yno ond o fewn mis dychwelodd i Loegr - i Apethorpe, Swydd Northampton - pan ddechreuodd gwrthryfel Gwyddelig 1641. Y bwriad oedd setlo yno gyda'i wraig a'i blentyn ond ar y noson gyntaf fe'i harestiwyd gan farchogion ar geffylau, dan y Capten Flaxon, ac fe'i cariwyd gerbron y comisiynwyr seneddol yn Northampton. Roedd ei sefyllfa'n ddrwg, oherwydd roedd ganddo lawysgrif Vindiciæ Regum, gyda'r geiriau "The Grand Rebellion" wedi'i sgwennu gando ar y clawr. Roedd y taflenni mewn gwirionedd yn nwylo Syr John North, un o'r comisiynwyr, ond llwyddoodd Williams ei gael oddi wrtho, cyn iddo edrych ar y teitl, ac wedyn, trwy gynrychioli ei hun fel dioddefwr y gwrthryfelwyr Gwyddelig, fe'i rhyddhawyd ac adferwyd ei eiddo. Ail-ymunodd â'r brenin ar unwaith, a gweinyddodd fel caplan, ym mrwydr Edgehill ar 23 Hydref.

Bu'n aros yn Llanllechid droeon gan grwydro o amgylch y wlad hyd yr Adferiad. Ymwelodd ag Iwerddon sawl tro yn ystod yr amser hwn a chafodd ei benodi'n rheithor Rathfarnham yn 1647. Dychwelodd i'w esgobaeth yn 1661.

Bu farw ar 29 Mawrth 1673 a chladdwyd ef yn yr eglwys gadeiriol yn Ossory. Gadawodd eiddo yn Llanllechid a Chonwy a Llandygai i'r tlodion.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • The Delights of the Saints, Llundain, 1622, 8vo.
  • Seven Golden Candlestickes, holding the Seven Greatest Lights of Christian Religion, Llundain, 1627, 4to.
  • The True Church, shewed to all Men that desire to be Members of the Same, Llundain, 1629, fol.
  • The Right Way to the Best Religion, Llundain, 1636, fol.
  • Seven Treatises very necessary to be observed in these very bad Days, to prevent the Seven Last Vials of God's Wrath, that the Seven Angels are to pour down upon the Earth, Llundain, 1661, fol.
  • The Description and the Practice of the four most admirable Beasts explained in Four Sermons, Llundain, 1663, 4to.
  • A True Relation of a Law Proceeding, betwixt ... Griffith, lord bishop of Ossory, and Sir G. Ayskue, Llundain, 1663, 4to.
  • Several Sermons on Solemn Occasions and Treatises, Llundain, 1665, 4to.
  • Four Treatises, Llundain, 1667, 4to.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]