Gorsedd Brân

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cyfesurynnau: 53°07′N 3°32′W / 53.12°N 3.54°W / 53.12; -3.54
Gorsedd Bran

(Mynydd Hiraethog)
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun
Uchder (m) 518
Uchder (tr) 1699
Amlygrwydd (m) 116
Lleoliad rhwng Llandudno a Wrecsam
Map topograffig Landranger 116;
Explorer 264S
Cyfesurynnau OS SH969597
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Dewey a HuMP
Gorsedd Brân is located in Cymru
Gorsedd Brân (Cymru)

Bryn yn Sir Ddinbych ydy Gorsedd Brân, sy'n gorwedd 2 filltir i'r de-orllewin o Nantglyn. Uchder: 518 metr. Ceir tri safle archaeolegol ar ei lethrau, sef dwy garnedd ger pen gogledd-ddwyreiniol y bryn ac un arall ar y pen gorllewinol, pwynt uchaf y bryn.

Ceir carnedd lwyfan ar ben gogledd-ddwyreiniol y bryn sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Efydd; cyfeiriad grid SH973602. Dylid cofio nad cylch cerrig fel y cyfryw yw carneddi llwyfan, fodd bynnag, gan fod y rheiny o oes wahanol ac yn cael eu defnyddio i bwrpas gwahanol. Mae'n bosibl i seremoniau neu ddefodau gael eu cynnal ar y safle yn ogystal a chladdedigaeth.[1] Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r rhif SAM: DE168.

Ni wyddys a ydy enw'r bryn yn cyfeirio at y cymeriad mytholegol Brân neu beidio, ond ceir Llyn Brân wrth droed y bryn, i'r gorllewin. Ceir sawl gŵr o'r enw Brân yn hanes cynnar Cymru hefyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]