Llyn Brân
Gwedd
Math | llyn, cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.120148°N 3.552567°W |
Rheolir gan | Dŵr Cymru |
Llyn ar Fynydd Hiraethog yn Sir Ddinbych yw Llyn Brân. Saif gerllaw y briffordd A543 rhwng Bylchau a Pentrefoelas.
Llyn naturiol oedd Llyn Brân yn wreiddiol, ond tua dechrau'r 20g adeiladwyd argau i ehangu'r llyn er mwyn cyflenwi dŵr i Ysbyty'r Meddwl yn Ninbych. Ceir pysgota am nifer o rywogaethau o bysgod, yn cynnwys Penhwyad, yma. Mae'r nant sy'n llifo o'r llyn yn ymuno ag Afon Brenig ac yn llifo i mewn i Lyn Brenig.
I'r dwyrain o'r llyn ceir Gorsedd Brân, bryn 518 metr lle ceir tair carnedd gynhanesyddol. Ni wyddys a ydy'r enwau hyn yn cyfeirio at y cymeriad mytholegol Brân neu beidio. Ceir sawl gŵr o'r enw Brân yn hanes cynnar Cymru hefyd.