Sgwrs:Gorsedd Brân

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pam symud hyn?[golygu cod]

Oni bai fod heneb arall o'r un enw roedd yn gwneud mwy o synnwyr dan y teitl Gorsedd Brân, sef enw traddodiadol yr heneb, mae'n debyg. Mae'n cael ei nodi ar y map OS ond dydy o ddim yn glir a ydy'r enw yn cyfeirio at y bryn neu'r henebion (dangosir dwy garnedd (tumuli) o fewn tafliad carreg i'w gilydd ger yr enw 'Gorsedd Brân' ac un arall hanner milltir i'r de, ar yr un gefnen o dir). Anatiomaros 17:08, 15 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Yn ôl Frank Price Jones yn Crwydro Gorllewin Dinbych, Gorsedd Brân yw enw'r bryn. Dwi wedi symud hyn i 'Gorsedd Brân'. Mae'r cyfeirnod yn cyfeirio at un o'r carneddau yn unig - ceir un arall reit wrth ei hymyl ac un arall hanner milltir i'r de, i gyd ar gefn y bryn. Roedd yn gwneud synnwyr felly i'w cael nhw gyda'i gilydd. Anatiomaros 22:47, 16 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Cytuno. Neu - er mwyn gwahaiaethu gydag enw'r bryn: "Henebion Gorsedd Bran". Llywelyn2000 23:12, 16 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. A deud y gwir does dim byd llawer i'w ddeud am y bryn ei hun, hyd y gwn i. Does dim llawer o bwynt mewn cael erthygl dwy linell am y bryn ac eginyn arall am yr henebion felly. Anatiomaros 23:31, 16 Hydref 2010 (UTC)[ateb]