Goldie Hawn

Oddi ar Wicipedia
Goldie Hawn
GanwydGoldie Jean Studlendgehawn Edit this on Wikidata
21 Tachwedd 1945 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Montgomery Blair
  • Prifysgol America Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, canwr, cerddor, actor llwyfan, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd ffilm, cyfranogwr fforwm rhyngwladol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadSai Baba of Shirdi Edit this on Wikidata
Taldra1.6764 metr Edit this on Wikidata
PriodGus Trikonis, Bill Hudson Edit this on Wikidata
PartnerKurt Russell Edit this on Wikidata
PlantOliver Hudson, Kate Hudson, Wyatt Russell Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau, Gwobr Crystal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Women of the Year, Hasty Pudding Woman of the Year Edit this on Wikidata

Mae Goldie Jean Hawn (ganed 21 Tachwedd 1945) yn actores, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Americanaidd sydd wedi ennill Gwobr yr Academi. Mae'n fwyaf adnabyddus am actio mewn ffilmiau comedi poblogaidd yn ystod y 1960au, 1970au, 1980au a'r 1990au.

Ei Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yn Washington, D.C., yn ferch i Laura (née Steinhoff), perchennog siop emwaith / ysgol ddawns, ac Edward Rutledge Hawn, cerddor mewn band a chwaraeai mewn digwyddiadau mawrion yn Washington. Cafodd ei henwi ar ôl modryb ei mam. Mae ganddi chwaer, Patricia; a brawd, Edward, a fu farw cyn ei genedigaeth. Ar ochr ei thad, mae Hawn yn ddisgynnydd uniongyrchol i Edward Rutledge, un o arwyddwyr Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Magwyd Hawn ym Mharc Takoma, Maryland. Roedd ei thad yn Bresbyteraidd a'i mam yn Iddewes, yn ferch i fewnfudwyr o Hwngari; magwyd Hawn fel Iddewes.

Dechreuodd Hawn wersi ballet a dawnsio tap pan oedd yn dair oed, a dawnsiodd yng nghorws cynhyrchiad Ballet Russe de Monte Carlo o "The Nutcracker" ym 1955. Perfformiodd ar lwyfan am y tro cyntaf fel actores ym 1961, gan chwarae rhan Juliet yng nghyrchiad Gŵyl Shakesperaidd Virginia o Romeo a Juliet. Erbyn 1964, roedd yn rhedeg a chyfarwyddo ysgol ballet, wedi iddi adael Prifysgol Americanaidd, lle'r oedd yn astudio Drama. Ym 1964, gwnaeth Hawn ei pherfformiad dawns proffesiynol cyntaf mewn cynhyrchiad o "Can-Can" ym Mhafiliwn Texas yn Ffair y Byd Efrog Newydd. Dechreuodd weithio fel dawnswraig broffesiynol flwyddyn yn ddiweddarach, ac ymddangosodd fel dawnswraig go-go yn Ninas Efrog Newydd.

Ffilmograffiaeth[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau eraill
1968 The One and Only, Genuine, Original Family Band Giggly Girl Credited as Goldie Jeanne.
1969 Cactus Flower Toni Simmons Gwobr yr Academi - Yr Actores Gefnogol Orau
1970 There's a Girl in My Soup Marion
1971 $ Dawn Divine aka Dollars
1972 Butterflies Are Free Jill Tanner
1974 The Sugarland Express Lou Jean Poplin
The Girl from Petrovka Oktyabrina
1975 Shampoo Jill
1976 The Duchess and the Dirtwater Fox Amanda Quaid/Duchess Swansbury
1978 Foul Play Gloria Mundy
1979 Lovers and Liars Anita
1980 Private Benjamin Pvt. Judy Benjamin/Goodman Enwebwyd am Wobr yr Academ - Yr Actores Orau
Seems Like Old Times Glenda Gardenia Parks
1982 Best Friends Paula McCullen
1984 Swing Shift Kay Walsh
Protocol Sunny Davis
1986 Wildcats Molly McGrath
1987 Overboard Joanna Stayton/Annie Proffitt
1990 Bird on a Wire Marianne Graves
1991 Deceived Adrienne Saunders
1992 CrissCross Tracy Cross
HouseSitter Gwen Phillips
Death Becomes Her Helen Sharp
1996 The First Wives Club Elise Elliot
Everyone Says I Love You Steffi Dandridge
1999 The Out-of-Towners Nancy Clark
2001 Town & Country Mona Miller
2002 The Banger Sisters Suzette
2009 Ashes To Ashes Ffilm gyntaf Hawn fel cyfarwyddwr


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.