Gogfran Gawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Yn ôl rhai traddodiadau Cymraeg, tad Gwenhwyfar, gwraig Arthur, oedd Gogfran Gawr. Cysylltir y cawr â hen deyrnasoedd Powys a Brycheiniog.

Ceir ansicrwydd am y ffurf gywir ar ei enw. Gogfran yw'r ffurf fwyaf cyffredin, ond ceir yn ogystal y ffurf Ogfran. Ceir hefyd yr amrywiadau Gogrfran, Gogyrfran ac Ogrfran. Gan fod yr enw yn digwydd gan amlaf yn yr enw 'Gwenhwyfar ferch G/Ogrfran', mae'n bosibl mai treiglad meddal sy'n gyfrifol am y ffurf heb yr G gychwynnol.

Ceir ffrwd o'r enw Ogran yn Sir Fynwy, ac ar sail hynny awgrymir mai "llym" yw ystyr yr elfen ogr-, os derbynnir y ffurf Ogrfan. Ogrfan neu Ogyrfan a geir yn y pedwar cyfeiriad ato yng ngwaith Beirdd y Tywysogion, mewn cerddi gan Cynddelw Brydydd Mawr, Hywel ab Owain Gwynedd, Prydydd y Moch ac Einion Wan. Cyfeiria Hywel at ei lys, yn drosiadol. Ceir 'Caer Ogyrfan' yn hen enw ar fryngaer 'Hen Ddinas' ger Croesoswallt. Ceir cyfeiriad eraill at Ogrfan mewn cysylltiad â Phowys hefyd. Awgryma Rachel Bromwich mai arwr cynnar o Bowys oedd yr Og(y)rfan hwn.

Ymddengys yn debygol felly fod cymysgedd yn y traddodiad rhwng dau gymeriad gwahanol, un yn arwr o Bowys a'r Gororau a'r llall yn gawr sy'n dad i Wenhwyfar. Yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr Gogfran yw'r ffurf arferol ar yr enw, e.e. mewn cywydd gan Siôn Cent:

Mae Gwenwyfar, gwawn hoyw-wedd,
Merch Gogfran Gawr, fawr a fedd?

Daw'n amlwg mai "brân" oedd yr elfen -fran yn yr enw i'r cywyddwyr. Gogfran yw'r ffurf a geir yn Nhrioedd Ynys Prydain hefyd, fel rhan o enw Gwenhwyfar.

Yn ei draethawd ar gewri Cymru (tua dechrau'r 17g), cyfeiria Siôn Dafydd Rhys at y cawr dan yr enw Gogfran Gawr a dweud ei fod yn trigo ger Aberhonddu ym Mrycheiniog.

Mae cysylltiad y brenin Arthur â chewri yn y traddodiad Cymreig yn adnabyddus. Cofir hefyd fod cael arwr yn priodi Merch y Cawr yn fotiff llên gwerin cyffredin, e.e. Culhwch yn priodi Olwen ferch Ysbaddaden Bencawr yn y chwedl Culhwch ac Olwen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]