Giada De Laurentiis

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Giada De Laurentiis
Giada de laurentiis.JPG
Ganwyd 22 Awst 1970 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Califfornia, Los Angeles
  • Le Cordon Bleu Edit this on Wikidata
Galwedigaeth cogydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, actor Edit this on Wikidata
Mam Veronica De Laurentiis Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Emmy 'Daytime' Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.giadadelaurentiis.com/ Edit this on Wikidata

Awdures Americanaidd yw Giada De Laurentiis ([ˈdʒaːda paˈmɛːla de lauˈrɛnti.is]; ganwyd 22 Awst 1970) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cogydd, newyddiadurwr ac actor.[1] Hi yw cyflwynydd cyfres Food Network 'Giada at Home'.

Fe'i ganed yn Rhufain ar 22 Awst 1970. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Califfornia, Los Angeles a Le Cordon Bleu.

Mae hi hefyd yn ymddangos yn rheolaidd fel cyfrannwr a chyd-westai ar raglen 'Today' (NBC) . De Laurentiis yw sylfaenydd y busnes arlwyo GDL Foods. Mae'n enillydd Gwobr Daytime Emmy Award for Outstanding Lifestyle Host, Gwobr Gracie am y Cyflwynydd Teledu Gorau, ac yn 2012, cafodd ei derbyn i 'Oriel Enwogion Coginio' y Culinary Hall of Fame.[2][3]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Giada Pamela De Benedetti ar 22 Awst 1970, yn Rhufain, yr Eidal, y plentyn hynaf i'r actores Veronica De Laurentiis a'i gŵr cyntaf, yr actor-gynhyrchydd Alex De Benedetti.[4] Roedd De Benedetti yn gydymaith agos i daid mamol Giada, y cynhyrchydd ffilm Dino De Laurentiis. Fel plentyn, roedd Giada yn aml yn dod i gegin y teulu ac yn treulio llawer o amser ym mwyty ei thad, "DDL Foodshow". Priododd ei rhieni yn Chwefror 1970 ond yn ddiweddarach ysgarodd y ddau a symudodd Giada a'i brodyr a chwiorydd i Dde California, UDA gan gymryd cyfenw eu mam.[5]

Ar ôl graddio o Ysgol Uwchradd Marymount yn Los Angeles, aeth De Laurentiis i Brifysgol California, Los Angeles, gan ennill gradd mewn anthropoleg gymdeithasol ym 1996.[2][4]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Giada De Laurentiis yn arwyddo un o'i llyfrau yn Philadelphia, Pennsylvania yn 2010.
  • Everyday Italian: 125 Simple and Delicious Recipes. New York: Clarkson Potter. 2005. ISBN 978-1-4000-5258-5.
  • Giada's Family Dinners. New York: Clarkson Potter. 2006. ISBN 978-0-307-23827-6.
  • Everyday Pasta. New York: Clarkson Potter. 2007. ISBN 978-0-307-34658-2.
  • Giada's Kitchen: New Italian Favorites. New York: Clarkson Potter. 2008. ISBN 978-0-307-34659-9.
  • Giada at Home: Family Recipes from Italy and California. New York: Clarkson Potter. 2010. ISBN 978-0-307-45101-9.
  • Weeknights with Giada: Quick and Simple Recipes to Revamp Dinner. New York: Clarkson Potter. 2012. ISBN 978-0-307-45102-6.
  • Giada's Feel Good Food. New York: Clarkson Potter. 2013. ISBN 978-0-307-98720-4.
  • Happy Cooking. New York: Pam Krauss Books. 2015. ISBN 978-0-8041-8792-3.
  • Giada’s Italy. New York: Clarkson Potter. 2018. ISBN 978-0-307-98722-8.

Cyrhaeddodd Giada at Home a Weeknights with Giada "Gwerthwyr Gorau" The New York Times.[6][7]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Dizionario d'ortografia e di pronunzia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mawrth 4, 2016. Cyrchwyd Hydref 8, 2015.
  2. 2.0 2.1 "Giada De Laurentiis". Food Network. Archifwyd o y gwreiddiol ar Ionawr 1, 2013. Cyrchwyd Rhagfyr 28, 2012.
  3. "Giada De Laurentiis Inducted". Culinary Hall of Fame. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2012.
  4. 4.0 4.1 "Giada De Laurentiis". Biography. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ionawr 28, 2013. Cyrchwyd Rhagfyr 28, 2012.
  5. De Laurentiis, Dino (2004). Dino: The Life and Films of Dino De Laurentiis. Miramax, ISBN 978-0-7868-6902-2.
  6. "Best Sellers". The New York Times. April 18, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Hydref 2013. https://www.nytimes.com/best-sellers-books/2010-04-18/hardcover-advice/list.html. Adalwyd December 28, 2012.
  7. "Best Sellers". The New York Times. Ebrill 22, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mai 12, 2012. Cyrchwyd Rhagfyr 28, 2012.