George Vancouver
Gwedd
| George Vancouver | |
|---|---|
| Ganwyd | 22 Mehefin 1757, 22 Mehefin 1750 King's Lynn |
| Bu farw | 10 Mai 1798 Petersham |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
| Galwedigaeth | fforiwr, swyddog milwrol, ysgrifennwr |
| llofnod | |

Fforiwr a llywiwr llongau o Sais oedd George Vancouver (22 Mehefin 1757 - 10 Mai 1798).
Hwyliodd gyda James Cook ar ail a thrydedd fordaith y morwr hwnnw a chafodd ei ddyrchafu'n gapten yn 1794. Gwnaeth waith syrfeio ar arfordiroedd Awstralia a Seland Newydd ond fe'i cofir yn bennaf am ei waith siartio arloesol ar hyd arfordiroedd gorllewinol Gogledd America yn y 1790au. Hwyliodd o gwmpas Ynys Vancouver yn 1795 ac enwir yr ynys honno a dinas Vancouver ar ei ôl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]