Gellan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Bardd llys a thelynor oedd Gellan a fu farw 1094. Nid oes dim o'i waith wedi goroesi.

Dim ond un cyfeiriad ato a geir, a hynny yn nhestun Hanes Gruffudd ap Cynan, math o fywgraffiad neu fuchedd am y brenin Gruffudd ap Cynan a gyfansoddwyd yn oes Owain Gwynedd. Yn ôl yr Hanes, roedd Gellan yn "delynor pencerdd" gyda lluoedd Gruffudd ap Cynan ym Mrwydr Aberlleiniog, Môn, yn 1094 mewn ymdrech i gipio Castell Aberlleiniog a'r ynys o ddwylo'r Normaniaid. Cafodd ei ladd wrth ochr Gruffudd yn y frwydr.

Ar sail y cyfeiriad hwn, ymddengys mai bardd teulu Gruffudd ap Cynan oedd Gellan. Byddai bardd teulu - sef bardd yr osgordd frenhinol (teulu) - yn bresennol gyda'r osgordd ar faes y gad ac yn aml yn cymryd rhan yn y brwydro ei hun, fel yn achos Dafydd Benfras (tua 1220-60). Disgwylid i'r bardd teulu ganu'r delyn hefyd, a rhoddai'r brenin ei hun delyn iddo yn anrheg, felly nid yw'n syndod ei fod yn cael ei alw yn 'delynor pencerdd'. Bardd graddedig oedd Gellan, am ei fod yn cael ei ddisgrifio fel 'pencerdd'.

Os cywir y dadansoddiad o'r dystiolaeth, roedd Gellan yn un o'r cynharaf o Feirdd y Tywysogion a wyddys, ond gan nad oes cymaint ag un llinell o'i waith ar glawr does dim modd cadarnhau hynny. Mae ei enw yn awgrymu ei fod yn Wyddel neu o leiaf o dras Wyddelig; magwyd Gruffudd ap Cynan yn Nulyn gan ei fam Ragnell ac mae'n bosibl fod Gellan o dras gymysg Gymreig-Wyddelig fel ei arglwydd.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]

  • D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977), tt. c, ccxxxv, 87.