Gaztelugatxe

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gaztelugatxe

Ynys fechan ger arfordir Bae Biskaia ydy Gaztelugatxe sy'n perthyn i gymuned Bermeo, Gwlad y Basg. Fe'i cysylltir i'r tir mawr gan bont garreg. Ar frig yr ynys saif cell neu gapel meudwy o'r enw Gaztelugatxeko Doniene yn y Basgeg a San Juan de Gaztelugatxe mewn Sbaeneg. Fe'i cysegrwyd i Ioan Fedyddiwr ac mae'n dyddio'n ôl i'r 9fed ganrif. Gerllaw, gorwedd ynys arall, llai o'r enw Aketze, ac fel par o ynysoedd mae nhw'n ffurfio biotôp sy'n ymestyn o dref Bakio hyd at bentir Matxitxako ym Mae Biskaia.

Yn 1053 y sefydlwyd y capel presennol a hynny gan Arglwydd Biskaia, sef y don Iñigo López fel cyfraniad tuag at fynachdy San Juan de la Peña ger Jaca yn Huesca. Cafwyd hyd i weddillion cyrff sy'n dyddio'n ôl i'r 9fed a'r 12fed ganrif. Ym 1593 cafodd ei ddinistrio gan Francis Drake. Ar 10 Tachwedd 1978, fe'i dinistrwyd gan dân.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r gair gaztelugatxe o'r Basgeg: ystyr gaztelu yw "castell" a aitz yw "craig", sy'n uno i roi'r ystyr "Craig y Castell".

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Grisiau a llwybr i fyny 'r graig

Mae'r arfordir yn hynod o arw a gerwin yn yr ardal yma. Gwelir ôl treulio'r creigiau gan lymder y tonnau mewn ffurfiau daearegol megis twneli, bwâu ac ogofâu. O ran ei lleoliad mae Ynys Gaztelugatxe yng nghanol y rhan yma o'r arfordir ac yn baradwys i adar gwyllt amrywiol.

Gerllaw'r capel ceir lloches bychan i deithwyr gysgodi rhag y gwynt a'r glaw, neu i eistedd am bicnic yng ngolwg y môr. Dywedir fod 237 gris, er bod rhai'n mynnu mai 229 sydd. Yn ôl y chwedl, ar ôl dringo'r llwybr i 'r copa, dylid cannu'r gloch dair gwaith a gwneud dymuniad.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]