Gareth Gwenlan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gareth Gwenlan
Ganwyd26 Ebrill 1937 Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mai 2016, 8 Mai 2016 Edit this on Wikidata
Swydd Hertford Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Cynhyrchydd teledu Cymreig oedd Gareth Gwenlan OBE (26 Ebrill 19379 Mai 2016)[1] sy'n fwyaf adnabyddus am ei waith ar sioeau comedi sefyllfa megis The Fall and Rise of Reginald Perrin, To the Manor Born, Only Fools and Horses, a High Hopes.

Roedd yn gyn bennaeth comedi yn BBC Cymru. Yn 1983 cafodd ei benodi'n Bennaeth Comedi y BBC yn Llundain, a bu yn y swydd tan 1990. Cynhyrchodd a chyfarwyddodd y gomedi High Hopes i BBC Cymru.

Derbyniodd gymrodoriaeth i'r Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 1997, ac fe gafodd ei ethol yn gymrawd i Goleg Cerdd a Drama Cymru yn 1998.[1] Gwnaed Gwenlan yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn rhestr Anrhydeddau Pen-Blwydd 2013 am wasanaethau i ddarlledu.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Cyn-bennaeth rhaglenni comedi'r BBC wedi marw". bbc.co.uk. BBC Cymru Fyw. 9 Mai 2016. Cyrchwyd 9 Mai 2016.
  2. London Gazette: (Supplement) no. 60534. p. 11. 15 June 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Blank television set.svg Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato