Gaelphobal
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad, Mudiad iaith |
---|---|
Iaith | Gwyddeleg |
Nod Gaelphobal yw dod â’r holl grwpiau sy’n gweithio ar y broses cynllunio ieithyddol y tu allan i’r Gaeltacht swyddogol ynghyd. Mae cynllunio ieithyddol yn broses sy’n cryfhau ac yn cefnogi’r Wyddeleg mewn cymunedau lleol ac yn cynnwys rhwydweithiau Gwyddeleg, trefi gwasanaeth y Gaeltacht a grwpiau sy’n ymwneud â Chynllun Datblygu’r Wyddeleg (ILDS).[1]
Darparodd Deddf y Gaeltacht 2012 sylfaen ddeddfwriaethol i’r broses cynllunio ieithyddol a dyma’r sail ar gyfer cyflawni’r gwaith yma. Gwneir y gwaith drwy wahanol asiantaethau hyrwyddo'r iaith Wyddeleg.
Parthau Gwyddeleg
[golygu | golygu cod]Ceir pedwar prif piler i'r ymgyrch i ddiogeli a thyfu'r iaith Wyddeleg yn ei hen gadarnleoedd ac ardaloedd newydd.[2]
Rhwydweithiau Iaith Gwyddeleg
[golygu | golygu cod]Mae Rhwydwaith Iaith Gwyddeleg (Gwyddeleg: Líonraí Gaeilge; Saesneg: Irish Language Networks) yn faes lle sicrhawyd màs critigol o gefnogaeth gyhoeddus a gwladwriaethol i'r Wyddeleg. Rhoddir cydnabyddiaeth o dan Ddeddf y Gaeltacht 2012 i rwydweithiau Gwyddeleg unwaith y byddant wedi cytuno ar gynlluniau iaith gyda’r cymunedau yn yr ardaloedd hynny. Rhaid i'r cynlluniau hyn fodloni'r meini prawf cynllunio ieithyddol er mwyn cael eu cymeradwyo. Dewiswyd pum cymuned: Belfast, Swydd Antrim; Loughrea, Swydd Galway; Carntogher, Swydd Derry; Clondalkin, Swydd Dulyn, ac Ennis, Swydd Clare. Lasiwd y Rhwydweithiau Iaith Wyddeleg yn 2018 yn Croke Park.
Mae ymgyrch gyhoeddus wedi ei chreu i ysbrydoli ac annog cymunedau i ddefnyddio mwy o Wyddeleg bob dydd. ‘Gaeilge le Chéile’ - Tri cham hawdd: Defnyddio Gwyddeleg bob dydd, ym mhobman, gyda phawb.[3]
Yn fras, gellid eu gweld fel bwriad i feithrin parthau trefol y tu allan i'r Gaeltacht, ac heb fod yn gysylltiedig â'r Gaeltach, lle mae cefnogaeth arbennig i'r Wyddeleg.[4]
Ceir pump yn 2024:
- Swydd Derry - Carntogher
- Swydd Dulyn - maestref Clondalkin
- Swydd Clare - tref Inis
- Swydd Galway - Loughrea
- Swydd Antrim - Gorllewin Belffast
Lansiwyd y Rhwydwaith yn 2024 gan y Gweinidog Gwladol dros y Gaeltacht, Chwaraeon ac Addysg Gorfforol, Thomas Byrne.[5]
Cynllun Datblygu Rhwydwaith yr Iaith Wyddeleg (ILDS)
[golygu | golygu cod]Mae Cynllun Datblygu Rhwydwaith Gwyddeleg (Gwyddeleg: An Scéim Forbartha Líonraí Gaeilge; Saesneg: Irish Language Network Development Scheme) yn ariannu grwpiau i gyflogi swyddog datblygu’r Wyddeleg ar gyfer ardal i hybu’r Wyddeleg o’i mewn gyda’r gobaith o fynd ymlaen i ymwneud â’r broses cynllunio iaith a chynhyrchu cynllun iaith ar gyfer yr ardal honno, gan dderbyn cydnabyddiaeth yn y pen draw fel rhwydwaith Gwyddeleg. Mewn ffordd, mae'n debyg i swyddog gyda Mentrau Iaith Cymru. Mae'n ffrwyth Deddf y Gaeltacht 2012.
Ardal cynllunio iaith y Gaeltacht
[golygu | golygu cod]Mae dau ddeg chwech o ardaloedd cynllunio iaith Gaeltacht (Gwyddeleg: Limistéar pleanála teanga Ghaeltachta) wedi’u henwi o dan Ddeddf y Gaeltacht 2012. Mae’r broses cynllunio iaith yn digwydd ynddynt er mwyn iddynt allu cadw eu statws fel ardaloedd Gaeltacht. Mae dau ddeg chwech o Ardaloedd Cynllunio Iaith y Gaeltacht (Gaeltacht Language Planning Area) wedi’u henwi o dan Ddeddf y Gaeltacht 2012.[6]
Mae Údarás na Gaeltachta yn darparu cefnogaeth a chymorth i ardaloedd cynllunio ieithyddol y Gaeltacht.
Trefi Gwasanaethu'r Gaeltacht
[golygu | golygu cod]Mae Tref Gwasanaethu'r Gaeltacht (Gwyddeleg: Bailte Seirbhíse Gaeltachta ; Saesneg: Gaeltacht Service Towns) yn dref sydd â phoblogaeth o 1,000 o leiaf sydd wedi’i lleoli o fewn, neu’n agos at, ardal cynllunio iaith yn y Gaeltacht, ac sydd â rôl arwyddocaol o ran darparu gwasanaethau cymdeithasol, economaidd a hamdden i bobl o fewn yr ardal honno.
Mae cyfanswm o un ar bymtheg o drefi gwasanaethu'r Gaeltacht, tair mewn ardal Gaeltacht a thair ar ddeg y tu allan i'r Gaeltacht. Mae Údarás na Gaeltachta neu Foras na Gaeilge, fel y bo'n briodol, yn gyfrifol am gefnogi sefydliad i baratoi a gweithredu cynlluniau iaith yn nhrefi gwasanaeth y Gaeltacht.[7] Roedd yn rhan o Ddeddf y Gaeltacht 2012.[8]
Trefi Gwasanaethu'r Gaeltacht yw:
|
|
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "About Us". GaelPhobal. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.[dolen farw]
- ↑ "About Us". Gwefan Gaelphobal. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.[dolen farw]
- ↑ "Historical Step for Irish Language Speaking Communities outside of the Gaeltacht". Gwefan Foras Na Gaeilge. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.
- ↑ "Irish Language Networks". Gwefan Gaelphobal. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.
- ↑ "Public Sector - Irish Language Network launched by the Minister of State for the Gaeltacht". Gwefan Llywodraeth Iwerddon. 2024. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.
- ↑ "About Us". Gwefan Gaelphobal. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.[dolen farw]
- ↑ "Gaeltacht Service Town". Gaelphobal. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.
- ↑ "Gaeltacht Act 2012". Irish Statute Book. 2012. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Gaelphobal
- @Gaelphobal.FnaG Tudalen Facebook Gaelphobal
- Gaeltacht Language Planning Areas gwefan Udaras