Frederick Hanbury-Tracy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Frederick Hanbury-Tracy
Frederick Hanbury-Tracy Vanity Fair 17 May 1884.jpg
Ganwyd 15 Medi 1848 Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Awst 1906 Edit this on Wikidata (57 oed)
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Tad Thomas Hanbury-Tracy, 2il farwn Sudeley Edit this on Wikidata

Roedd yr Anrhydeddus Frederick Stephen Archibald Hanbury-Tracy (15 Medi 1848 - 9 Awst 1906), yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Trefaldwyn rhwng 1877 a 1885 ac eto rhwng 1886 a 1892[1].

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Hanbury-Tracy yn fab ieuengaf Thomas Hanbury-Tracy, 2il Barwn Sudeley, a'i wraig Emma Elizabeth Alicia, merch George Hay Dawkins-Pennant, o deulu'r Penrhyn. Roedd Sudley Hanbury-Tracy, 3ydd Barwn Sudley a Charles Hanbury-Tracy, 4ydd Barwn Sudeley, yn frodyr hyn iddo. Fe'i addysgwyd yn breifat ac yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lle graddiodd BA.

Priododd Helena Caroline Winnington ym 1870, unig ferch Syr Frederick T Winnington, ac Anna Helena Domville ei wraig. Bu iddynt  7 plentyn:

  • Eric Hanbury-Tracy
  • Edith Julia Helena
  • Claud Sudeley Francis
  • Cyprienne Emma Madeleine OBE
  • Violet Mary Claudia
  • Hilda Adelaide Eleanor


Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Sudeley Hanbury-Tracy, 3ydd Barwn Sudley, brawd Frederick, ym 1877 a chodwyd ei frawd Charles i’r farwniaeth. Er mwyn derbyn ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi bu raid i Charles ildio ei sedd yn Nhŷ’r Cyffredin. Safodd Frederick dros yr achos ryddfrydoli yn yr isetholiad gan gadw’r sedd a churo’r Arglwydd Castellreigh, yr ymgeisydd Ceidwadol yn weddol gyffyrddus[2].

Yn y pedwar etholiad canlynol gwrthwynebydd Ceidwadol Hanbury-Tracy oedd Pryce Pryce-Jones. Yn etholiad 1880 llwyddodd i gadw’r sedd. Yn etholiad 1885, llwyddodd Pryce-Jones i gipio’r sedd gyda mwyafrif o 83. Bu etholiad arall ymhen y flwyddyn ym 1886 a llwyddodd Hanbury-Tracy i ennill y sedd yn ôl gyda mwyafrif o 173. Yn yr etholiad nesaf ym 1892 enillodd Pryce-Jones eto. Fe apeliodd y Blaid Ryddfrydol yn erbyn canlyniad yr etholiad gan honni bod Pryce-Jones wedi llwgrwobrwyo etholwyr[3], ond aflwyddiannus bu’r apêl.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn Brighton yn 57 mlwydd oed[4].


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 adalwyd 15 Hydref 2017
  2. "DEATHOF THE HON FREDRIK HANBURY-TRACY - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1906-08-17. Cyrchwyd 2017-10-14.
  3. "SIR PRYCE PRYCE JONES'S SEAT - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1892-08-04. Cyrchwyd 2017-10-15.
  4. "Marwolacth Mr Tracy - Y Goleuad". John Davies. 1906-08-22. Cyrchwyd 2017-10-15.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Hanbury-Tracy
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn
18771885
Olynydd:
Pryce Pryce-Jones
Rhagflaenydd:
Pryce Pryce-Jones
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn
18861892
Olynydd:
Pryce Pryce-Jones