Neidio i'r cynnwys

Frauenkirche, Dresden

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Ein Harglwyddes
Matheglwys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôly Fendigaid Forwyn Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1726 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadInnere Altstadt Edit this on Wikidata
SirDresden Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.0519°N 13.7417°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Faróc Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb treftadaeth bensaernïol Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Manylion
DeunyddPosta Sandstone Edit this on Wikidata
EsgobaethEvangelical-Lutheran Church of Saxony Edit this on Wikidata

Mae'r Dresden Frauenkirche (Almaeneg: Dresdner Frauenkirche, IPA: [ˈfʁaʊənˌkɪʁçə], Eglwys Ein Harglwyddes) yn eglwys Lutheraidd yn Dresden, prifddinas talaith Sacsoni yn yr Almaen. Cafodd ei ddinistrio yn ystod bomio tân y Cynghreiriaid yn Dresden tua diwedd yr Ail Ryfel Byd, ailadeiladwyd yr eglwys rhwng 1994 a 2005.

Eglwys Gatholig oedd hyd nes iddi ddod yn Brotestannaidd yn ystod y Diwygiad Protestannaidd. Disodlwyd yr hen eglwys yn y 18fed ganrif gan adeilad Lutheraidd Baróc mwy. Fe'i hystyrir yn enghraifft wych o bensaernïaeth gysegredig Brotestannaidd, sy'n cynnwys un o'r cromenni mwyaf yn Ewrop. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol fel arwydd o ewyllys dinasyddion Dresden i aros yn Brotestannaidd ar ôl i'w rheolwr droi at Babyddiaeth. Bellach mae hefyd yn symbol o gymod rhwng cyn-elynion rhyfelgar.

Ar ôl dinistr yr eglwys ym 1945, gadawyd yr adfeilion oedd ar ôl am 50 mlynedd fel cofeb rhyfel, yn dilyn penderfyniad arweinwyr lleol Dwyrain yr Almaen. Ailadeiladwyd yr eglwys ar ôl ailuno'r Almaen, gan ddechrau ym 1994. Cwblhawyd y gwaith o'i ailadeiladu ei du allan yn 2004, a'r tu mewn yn 2005. Ail-gysegrwyd yr eglwys ar 30 Hydref 2005 gyda gwasanaethau Nadoligaidd ac i ddathlu ddiwrnod y ddiwygiad. Ailadeiladwyd y sgwâr Neumarkt o amgylch yn ogystal ag adeiladau baróc gwerthfawr niferus yn 2004 hefyd.[1]

Gelwir y Frauenkirche yn gadeirlan yn aml, ond nid yw'n eisteddfa esgob. Unwaith y mis, cynhelir gosber Anglicanaidd yn Saesneg, gan glerigwyr o Eglwys Anglicanaidd San Siôr, Berlin.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Dresden ruins finally restored". BBC News (yn Saesneg). bbc.com. 22 Mehefin 2004. Cyrchwyd 13 Awst 2023.
  2. Harding, Luke (20 Hydref 2005). "Cathedral hit by RAF is rebuilt". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd =13 Awst 2023. Check date values in: |access-date= (help)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]