Francesco Guicciardini

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Francesco Guicciardini
Scuola bolognese dopo il francia, medaglia di francesco guicciardini.JPG
Wyneb Francesco Guicciardini ar fedal.
Ganwyd6 Mawrth 1483, 1483 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mai 1540, 1540 Edit this on Wikidata
Arcetri Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, gwleidydd, ysgrifennwr, diplomydd, athronydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amStorie fiorentine, Discorso di Logrogno, Dialogo del Reggimento di Firenze, Considerazioni intorno ai 'Discorsi' del Machiavelli, Storia d'Italia Edit this on Wikidata
TadPiero Guicciardini Edit this on Wikidata
MamSimona Gianfigliazzi Edit this on Wikidata
PriodMaria Salviati Edit this on Wikidata

Hanesydd, gwladweinydd, a diplomydd Eidalaidd oedd Francesco Guicciardini (6 Mawrth 148322 Mai 1540) a fu'n un o brif ffigurau Gweriniaeth Fflorens yn nechrau'r 16g. Ei gampwaith yw Storia d'Italia, hanes yr Eidal o 1492 i 1534. Treuliodd ei yrfa wleidyddol a diplomyddol yng ngwasanaeth Tŷ Medici a Thaleithiau'r Babaeth, a bu'n gomisiynydd cyffredinol i fyddin y Babaeth adeg anrheithio Rhufain (1527) yn ystod Rhyfel Cynghrair Cognac. Ysgrifennodd hefyd gasgliad o wirebau, y Ricordi.

Ganed ef i deulu pendefigaidd yn Fflorens, ac astudiodd y gyfraith Rufeinig ym mhrifysgolion Fflorens, Ferrara, a Padova o 1498 i 1505. Dychwelodd i Fflorens i drin y gyfraith, a phriododd Maria Salviati ym 1508. Yn y cyfnod hwn, cychwynnodd ar ei hanes o Fflorens o 1378 i 1509, Storie fiorentine. Ym 1511 fe'i penodwyd yn llysgennad Gweriniaeth Fflorens i Ferrando II, brenin Aragón. Dychwelodd i'w waith cyfreithiol ym 1514, a chafodd ei benodi i sawl swydd weinyddol yn Fflorens, gan gynnwys gwarchodlu'r Otto di Balìa ac ynadaeth y Signoria.

Penodwyd Guicciardini gan y Pab Leo X (o deulu'r Medici) yn llywodraethwr dros Modena ym 1516 a Reggio ym 1517. Byddai'n gwasanaethu'r Babaeth bron yn ddi-baid hyd at 1534. Daeth y tiroedd dan ei reolaeth yn strategol bwysig yn ystod Rhyfeloedd yr Eidal, a fe'i dyrchafwyd yn gomisiynydd cyffredinol y fyddin yng Ngorffennaf 1521. Er gwaethaf ei ddyletswyddau milwrol a llywodraethol, bu Guicciardini yn awdur toreithiog, ac ysgrifennai nifer o draethodau ac ysgrifau gwleidyddol. Yn ei ymgom Dialogo del reggimento di Firenze (1521–25) mae'n dadlau dros lywodraeth aristocrataidd ar batrwm Gweriniaeth Fenis.

Yn sgil ethol pab arall o'r Medici, Clement VII, penodwyd Guicciardini yn llywydd y Romagna ym 1524. Fe'i alwyd i Lys y Pab yn Ionawr 1526 i gynghori ar ymgynghreirio â'r Ffrancod yn erbyn yr Ymerawdwr Siarl V. Ffurfiwyd Cynghrair Cognac ym Mai 1526, ac ym Mehefin dyrchafwyd Guicciardini yn is-gadfridog ar luoedd y Babaeth o fewn byddin gyfunol y gynghrair. Yn sgil cipio Rhufain gan luoedd Siarl V ym 1527, gyrrwyd y Medici allan o Fflorens.

Wrth i'w safle wanychu yng Ngweriniaeth Fflorens, a lluoedd Siarl V ddynesu at y ddinas, ffoes Guicciardini i Lys y Pab ym Medi 1529. Rhodd ei gefnogaeth i ymgyrch y Pab Clement i sefydlu llywodraeth y Medici yn Fflorens. Yn y cyfnod hwn, gweithiodd ar ei ail hanes o Fflorens a chasglodd ei wirebau a sylwadau yn y gyfrol Ricordi. Cyflawnodd hefyd ei ymateb i astudiaethau hanesyddol Niccolò Machiavelli, Considerazioni intorno ai “Discorsi” del Machiavelli (c. 1530).

Yn sgil cwymp Fflorens i'r Medici, dychwelodd Guicciardini i'w ddinas enedigol a chafodd ran flaenllaw wrth erlid y gweriniaethwyr. Fe'i penodwyd yn llywodraethwr Bologna gan Clement ym 1531, ond fe'i diswyddwyd wedi i Pawl III esgyn i'r babaeth ym 1534. Dychwelodd unwaith eto i Fflorens a gweithiodd yn gynghorwr cyfreithiol i'r Dug Alessandro de' Medici. Mae'n debyg iddo dychwyn ar ymchwil ar gyfer ei gampwaith, Storia d'Italia, ym 1536. Yn sgil llofruddiaeth Alessandro ym 1537, treuliodd Guicciardini ei flynyddoedd olaf yn gweithio ar Storia d'Italia yn ei fila yn Santa Margherita a Montici ar gyrion Fflorens, ac yno y bu farw yn 57 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Francesco Guicciardini. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2021.