François-Joseph Gossec

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
François-Joseph Gossec
Gossec-portrait.jpg
Ganwyd 17 Ionawr 1734 Edit this on Wikidata
Vergnies Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Chwefror 1829 Edit this on Wikidata (95 oed)
Passy Edit this on Wikidata
Gwaith Cyfansoddwr, fiolinydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr Conservatoire national supérieur de musique et de danse Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Thésée Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr Belgaid oedd François-Joseph Gossec (17 Ionawr 173416 Chwefror 1829), a oedd yn cyfansoddi operau, pedwarawdau tannau, symffonïau a gweithiau corawl yn Ffrainc.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Gossec yn fab i ffermwr, ganwyd ym mhentref Vergnies, yn Hainaut, a oedd yn Ffrengig ar y pryd, ond sy'n ran o Wlad Belg erbyn hyn. Wedi dangos blas cynnar ar gerddoriaeth, daeth yn fachgen-côr yn Antwerp. Aeth i Baris ym 1751 a cymerwyd ef ymlaen gan y cyfansoddwr Jean-Philippe Rameau. Olynodd Rameau fel arweinydd cerddorfa bychan breifat fermier général Le Riche de La Poupelinière, amatur cyfoethog a noddwr mawr o gerddoriaeth, ac yn raddol daeth Gossec yn benderfynnol o wneud rhywbeth i adfywio'r astudaeth o gerddoriaeth offerynol yn Ffrainc.

Perfformiwyd symffoni cyntaf Gossec ym 1754, ac fel arweinydd cerddorfa Prince de Condé cynhyrchodd sawl opera a chyfansoddiadau eraill ei hun. Bu'n hynod o lwyddianus yn dylanwadu cerddoriaeth Ffrengig. Perfformiwyd ei Requiem am y tro cyntaf ym 1760, darn naw deg munud o hyd a drodd ef yn enwog dros nos. Cafodd y darn hwn ei edmygu'n ddiweddarach gan Wolfgang Amadeus Mozart, a ymwelodd â Gossec yn ystod taith anllywddianus i Baris ym 1778, a disgrifiodd Gossec iw dad fel "cyfaill da iawn a dyn sych iawn".

Sefydlodd Gossec y Concert des Amateurs ym 1770 ac ym 1773 ail-drefnodd y Concert Spirituel ynghyd â Simon Leduc a Pierre Gaviniès. Yn y cyfres hwn o gyngherddi, cyflwynodd ac arweiniodd ei symffonïau ei hun yn ogystal a rhai ei gyfoeswyr, yn arbennig gweithiau Joseph Haydn, daeth cerddoriaeth Haydn yn fwy poblogaidd ym Mharis, gan ddisodli gwaith symffoni Gossec yn y pen draw. Yn ystod yr 1780au, lleihaodd y nifer o symffonïau a gyfansoddodd Gossec gan iddo ganolbwyntio ar operau. Trefnodd yr École de Chant ym 1784, ynghyd â Étienne Méhul, a bu'n arweinydd band y Garde Nationale yn y Chwyldro Ffrengig. Apwyntiwyd ef (ynghyd â Méhul unwaith eto, a Luigi Cherubini) yn arolygwr y Conservatoire de Musique ar ei sefydliad ym 1795. Roedd yn aelod gwreiddiol o'r Institut ac yn chevalier yn y Légion d'honneur. Ym 1815, wedi gorchfygiad Napoleon yn Waterloo, caewyd y Conservatoire am gyfnod gan Louis XVIII, a bu'n raid i Gossec ymddeol yn 81 oed. Hyd 1817, bu'n gweithio ar ei gyfansoddiad olaf, trydydd Te Deum, a cefnogwyd ef gan bensiwn a roddwyd iddo gan y Conservatoire.

Bu farw yn ardal Passy, Paris. Mynychwyd wasanaeth ei angladd gan gyn-gydweithwyr, gan gynnwys Cherubini, ym mynwent Père Lachaise, Paris. Lleolir ei fedd yn agos i rai Méhul a Grétry.

Mae rhai o'i dechnegau yn ymddangos fel petaent wedi rhagweld datblygiadau newydd yr oes Ramantus: ysgrifennodd Te Deum ar gyfer 1200 o gantorion a 300 o offerynnau chwyth; mae sawl oratorïau yn cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer gwahanu sawl côr yn gorfforol, gan gynnwys rhai cudd tu ôl i'r llwyfan. Ysgrifennodd sawl llyfr i anrhydeddu'r Chwyldro Ffrengig, gan gynnwys Le Triomphe de la République, a L'Offrande à la Liberté.

Er y buasai gan y rhanfwyaf o bobl drafferth yn adnabod Gavotte Gossec oddi wrth y teitl, mae'r felodi ei hun yn gyfarwydd yn yr Unol Daleithiau oherwydd i Carl Stalling ddefnyddio trefniant yng nghartwnau Warner Brothers.

Nid oedd yn adnabyddus iawn y tu allan i Ffrainc, ac mae eigyfansoddiadau niferus, sanctaidd a seciwlar, wedi cael eu cysgodi gan weithiau cyfansoddwyr mwy enwog; ond roedd Gossec yn ysbrydoliaeth i nifer, ac roedd yn ysgogiad cryf i adfywiad cerddoriaeth offerynol.

Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar gyfer cerddorfa[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Sei sinfonie a più strumenti op. 4 (1759)
  • Sei sinfonie a più strumenti op. 5 (1761)
  • Six Symphonies op. 6 (1762)
  • Six Symphonies à grand orchestre op. 12 (1769)
  • Deux symphonies (1773)
  • Symphonie n° 1 (c. 1771-1774)
  • Symphonie n° 2 (c. 1771-1774)
  • Symphonie en fa majeur (1774)
  • Symphonie de chasse (1776)
  • Symphonie en ré (1776)
  • Symphonie en ré (1777)
  • Symphonie concertante en fa majeur n° 2, à plusieurs instruments (1778)
  • Symphonie en do majeur for wind orchestra (1794)
  • Symphonie à 17 parties en fa majeur (1809)

Cerddoriaeth Siambr[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Sei sonate a due violini e basso op. 1 (c. 1753)
  • Sei quartetti per flauto e violino o sia per due violini, alto e basso op. 14 (1769)
  • Six Quatuors à deux violons, alto et basse op. 15 (1772)

Gweithiau Llais a Choraol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Messe des morts (Requiem) (1760)
  • La Nativité, oratorio (1774)
  • Te Deum (1779)
  • Te Deum à la Fête de la Fédération for three voices, men's chorus and wind orchestra (1790)
  • Hymne sur la translation du corps de Voltaire au Panthéon for three voices, men's chorus and wind orchestra (1791)
  • Le Chant du 14 juillet (Marie-Joseph Chénier) for three voices, men's chorus and wind orchestra (1791)
  • Dernière messe des vivants, for four voices, chorus and orchestra (1813)

Operau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Le Tonnelier, opéra comique (1765)
  • Le Faux Lord, opéra comique (1765)
  • Les pêcheurs, opéra comique en 1 act (1766)
  • Toinon et Toinette, opéra comique (1767)
  • Le Double Déguisement, opéra comique (1767)
  • Les Agréments d'Hylas et Sylvie, pastorale (1768)
  • Sabinus, tragédie lyrique (1773)
  • Berthe, opera (1775, not extant)
  • Alexis et Daphné, pastorale (1775)
  • Philémon et Baucis, pastorale (1775)
  • La Fête de village, intermezzo (1778)
  • Thésée, tragédie lyrique (1782)
  • Nitocris, opera (1783)
  • Rosine, ou L'Éposue abandonnée, opera (1786)
  • Le triomphe de la République, ou Le camp de Grandpré, divertissement-lyrique en 1 acte, (Chénier) (1794)
  • Les Sabots et le cersier, opera (1803)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Encyclopædia Britannica, 11eg Rhifyn
  • Thibaut, W., François Joseph Gossec, Chantre de la Révolution française, (1970)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]