Frédéric Mistral

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Frédéric Mistral
Frederic Mistral portrait photo.jpg
Ganwyd 8 Medi 1830 Edit this on Wikidata
Maillane Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Mawrth 1914 Edit this on Wikidata (83 oed)
Maillane Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Aix-Marseille Edit this on Wikidata
Galwedigaeth ysgrifennwr, ieithydd, bardd, geiriadurwr Edit this on Wikidata
Swydd capoulié du Félibrige Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Mirèio, Lou Tresor dóu Felibrige Edit this on Wikidata
Arddull barddoniaeth Edit this on Wikidata
Mudiad Felibrige Edit this on Wikidata
Priod Marie Mistral Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Lenyddol Nobel Edit this on Wikidata

Bardd Ffrengig yn yr iaith Ocsitaneg, yn gywir tafodiaith Profensaleg, oedd Frédéric Mistral (8 Medi 183025 Mawrth 1914). Derbyniodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1904, ar y cyd â José Echegaray y Eizaguirre, am "wreiddioldeb byw a gwir ysbrydoliaeth ei gynnyrch barddonol, sy'n adlewyrchu'n ffyddlon y tirlun naturiol ac ysbryd cynhenid ei bobl, ac, yn ogystal, ei waith pwysig fel ieithegwr y Brofensaleg".[1] Efe oedd ar flaen y gad yn y 19g yn y mudiad i adfywio'r diwylliant Ocsitaneg a'i thafodieithoedd ac i astudio'r iaith.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Frédéric Mistral ar 8 Medi 1830 ym Maillane (Ocsitaneg: Malhana), Bouches-du-Rhône, yn hen dalaith Profens yn ne Ffrainc. Pentref yn Nyffryn Rhône ydy Maillane a saif hanner ffordd rhwng Avignon ac Arles. Ffermwr cefnog a thirfeddiannwr oedd ei dad François, a merch i faer Maillane oedd Delaïde. Profensaleg oedd mamiaith Frédéric, a chafodd ei fagu mewn diwylliant, llên gwerin, ac hanes lleol dan ddylanwad ei fam. Iaith isel ei fri oedd lenga d'òc o'i chymharu â Ffrangeg safonol, sef iaith y gogledd.[2]

Cychwynnodd Frédéric fynychu'r ysgol yn 8 oed, ac ar y pryd roedd yn well ganddo chwarae nac astudio. Fe'i danfonwyd i ysgol breswyl Abbaye Saint-Michel de Frigolet, taith ddwy awr i ffwrdd o Maillane ar gert. Caeodd yr ysgol oherwydd sgandal, ac aeth Frédéric i ysgol breswyl arall, yn Avignon. Yn ddiweddarach astudiodd yn Collège Royal de Avignon, ac yno daeth yn gyfarwydd ag arwrgerddi'r Henfyd gan Homeros a Fyrsil. Yn y coleg daeth Frédéric yn fwy ymwybodol o statws israddol ei famiaith, a wynebodd y ffaith taw Ffrangeg oedd iaith ei gyd-ddisgyblion. Un o'i athrawon oedd y bardd Profensaleg Joseph Roumanille, a daeth y ddau ohonynt yn ffrindiau clos. Magodd hefyd gyfeillgarwch â'i gyd-ddisgybl Anselme Mathieu, a chawsant eu hysbrydoli gan farddoniaeth Brofensaleg Joseph Desanat a Pierre Bellot.[2]

Wedi iddo adael y coleg yn Awst 1847, aeth Mistral i Nîmes i astudio am ei radd baglor. Yn ystod chwyldroadau 1848 ysgrifennodd Mistral gerdd, a gyhoeddwyd mewn sawl papur newydd lleol, yn lladd ar y frenhiniaeth.[2] Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Aix-en-Provence a derbyniodd ei radd yn 1851.[3]

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd teulu Mistral yn ennill digon o arian iddo fyw heb chwilio am swydd, a phenderfynodd ymroi ei fywyd i adfer yr iaith Brofensaleg a'i diwylliant. Sefydlwyd cymdeithas Félibrige ganddo a chwech o'i gyfeillion yn 1854 er lles yr iaith. Yn ddiweddarach ehangodd y mudiad i gynnwys holl lo País d'Òc neu Ocsitania. Mistral oedd prif arweinydd Félibrige hyd at ei farwolaeth yn 1914.[3]

Treuliodd Mistral 20 mlynedd yn gweithio ar eiriadur Profensaleg, Lou Tresor dóu Félibrige (2 gyfrol; 1878, 1886). Sefydlodd hefydd amgueddfa ethnograffig yn Arles gyda'r arian a dderbyniodd am ei Wobr Nobel.[3]

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw ym Maillane ar 25 Mawrth 1914 yn 83 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1904", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 19 Medi 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Frédéric Mistral" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 19 Medi 2019.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Frédéric Mistral. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Medi 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]