Flora Drummond

Oddi ar Wicipedia
Flora Drummond
Ganwyd4 Awst 1878 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ionawr 1949 Edit this on Wikidata
Carradale Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethswffragét Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Swffragét Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét Seisnig a gafodd ei magu yn yr Alban oedd Flora Drummond (4 Awst 1878 - 17 Ionawr 1949). Ei llysenw yn y mudiad dros hawliau merched oedd The General gan ei bod yn aml yn arwain gorymdeithiau ar gefn ceffyl, mewn dillad tebyg i lifrai milwrol, epaulettes a chap swyddog yn y fyddin. Fe'i carcharwyd naw gwaith am ymgyrchu fel aelod o'r Women's Social and Political Union (WSPU). Adnabyddid hi fel areithiwr cyhoeddus arbennig o dda, ac am ei ei gallu i gau ceg unrhyw heclwr a feiddiai'n ei herio.

Ganwyd Flora McKinnon Drummond (née Gibson, yna Simpson) ym Manceinion ar 4 Awst 1878 a bu farw yn Carradale o strôc.

Teiliwr oedd ei thad a phan oedd Flora'n ifanc iawn, symudodd y teulu i Pirnmill ar Ynys Arran, lle'r oedd gwreiddiau ei mam. Pan adawodd yr ysgol uwchradd yn bedair ar ddeg oed symudodd Flora i Glasgow i ddilyn cwrs hyfforddiant busnes mewn ysgol gwasanaeth sifil lle pasiodd y cymwysterau i fod yn bostfeistres (yn y swyddfa bost), ond gwrthodwyd hi, gan nad oedd yn bodloni'r gofyniad taldra, a oedd yr adeg honno yn 5 troedfedd 2 fodfedd (1.57 m) a thaldra Flora oedd 5 troedfedd 1 modfedd (1.55m). Roedd y cam hwn yn graith seicolegol a barodd gweddill ei hoes. [1]

Ar ôl ei phriodas â Joseph Drummond, symudodd y ddau yn ôl i Fanceinion, lle bu'n weithgar yn y Fabian Society a'r Blaid Lafur Annibynnol.[2][3]

Hawliau cyfartal i ferched[golygu | golygu cod]

Ymunodd Flora Drummond â'r WSPU ym 1906, yn dilyn cyfarfod etholiad y Blaid Ryddfrydol yn y Free Trade Hall ym Manceinion, lle cafodd Christabel Pankhurst ac Annie Kenney eu harestio a'u carcharu am bwyso ar yr ymgeisydd, Winston Churchill, i ateb y cwestiwn "Os cewch eich ethol, a wnewch chi eich gorau i wneud Pleidlais i Fenywod yn fesur llywodraeth?". Roedd Flora'n dyst i'w harestio. Pan ryddhawyd y ddwy fenyw, cynhaliodd WSPU rali dathlu ym Manceinion; roedd Flora'n bresennol a chafodd ei darbwyllo i ymuno â'r mudiad.[4][5]

Ch-Dde: (dienw), Flora Drummond, Christabel Pankhurst, Annie Kenney, (dienw), Emmeline Pankhurst, Charlotte Despard a (dienw), 1906–1907.

Fe'i hadnabyddwyd am ei stynts mentrus, gan gynnwys llithro drwy ddrws agored 10 Stryd Downing, tra bod yr heddweision yn arestio ei chyfaill Irene Miller. Yn 1908 Flora huriodd gwch ar Afon Tafwys, er mwyn cyrraedd y lan lle saif Palas Westminster er mwyn dadlau gydag Aelodau Seneddol a oedd yn eistedd ar y teras.[6]

Yn 1913 trefnodd Drummond ac Annie Kenney i gynrychiolwyr WSPU siarad â'r prif wleidyddion David Lloyd George a Syr Edward Grey. Ym mis Mai 1914 cynhaliodd Drummond a Norah Dacre Fox (a elwir yn Norah Elam yn ddiweddarach) warchae cyhoeddus ar gartrefi yr Arglwydd Carson ac Arglwydd Lansdowne, ill dau yn ASau Ulster ac yn unoliaethwyr amlwg a oedd wedi bod yn annog trais yn Ulster yn erbyn y Bil Hunanlywodraeth a oedd yn mynd drwy'r Senedd.

Ymateb Drummond ac Annie Kenney i newyddiadurwyr oedd eu bod yn meddwl y dylent gael lloches gyda'r Arglwydd Carson ac Arglwydd Lansdowne - a oedd hefyd wedi bod yn gwneud areithiau'n cymell trais, yn Iwerddon, ond yr ymddengys eu bod yn ddiogel rhag ymyrraeth gan yr awdurdodau am wneud hynny - gan eu bod yn ddynion. Yn ddiweddarach yr un diwrnod, ymddangosodd y ddwy ferch gerbron ynad, fe'u dedfrydwyd i garchar a aethpwyd â nhw i Garchar Holloway lle y dechreuasant ympryd (streic newyn), gan ddioddef cyfnod o'u gorfodi i lyncu bwyd.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Mae ei henw a llun ohoni, gyda 58 arall, ar blinth y cerflun o Millicent Fawcett yn Parliament Square, a ddadorchuddiwyd yn 2018.

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét[7] .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Anrhydeddau: https://www.nationalgalleries.org/art-and-artists/2302.
  2. Dyddiad geni: "Flora Mc Kinnon Drummond". ffeil awdurdod y BnF.
  3. Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  4. Chandler, Malcolm (2001). Votes for Women, C, 1900–1928. Heinemann. t. 8. ISBN 978-0-435-32731-6.
  5. Crawford, Elizabeth (2001). The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide, 1866–1928. Routledge. tt. 175–177. ISBN 978-0-415-23926-4.
  6. Edith, Girvin (2002). The Twentieth Century. Heinemann. t. 22. ISBN 978-0-435-32093-5.
  7. https://www.nationalgalleries.org/art-and-artists/2302.