Ffynnon Seiriol, Penmon
Gwedd
Math | ffynnon sanctaidd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llangoed ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 32.2 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3064°N 4.05667°W, 53.306369°N 4.056622°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN062 ![]() |
Mae Ffynnon Seiriol wedi ei lleoli ym Mhenmon ar Ynys Môn.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae’r ffynnon wrth ymyl yr Eglwys ac yn fan hyn mae’r adfeilion Cristnogol hynaf ar Ynys Môn. Mae’r ffynnon yn dyddio’n ôl i’r chweched ganrif. Roedd rhai yn meddwl bod y ffynnon yma cyn dyfodiad y sant a bod y Derwyddon yn defnyddio’r ffynnon ac felly roedd fan hyn yn le cysegredig i’r duwiau Celtaidd.
Mae’r dŵr yn treiddio drwy haenau o galchfaen ac roedd y ffynnon yn adnabyddus am ei gallu i iachau.[1]
Fe ddaru deulu Baron Hill, Biwmares godi gorchudd dros y ffynnon ar ddechrau’r 18g. Mae hi bellach yn ffynnon ofuned ac mae ymwelwyr yn dod at y ffynnon i daflu arian ynddi yn y gobaith y gwireddir eu dymuniadau.[1]