Ffordd Salisbury, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Ffordd Salisbury, Wrecsam
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
SirOffa Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.040924°N 2.992307°W Edit this on Wikidata
Map

Stryd hanesyddol a chanol ardal gadwraeth yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Ffordd Salisbury (Saesneg: Salisbury Road).

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Ffordd Salisbury yn gorwedd ar dir uchel ar lan ddeheuol afon Gwenfro i'r de o ganol dinas Wrecsam. Mae'r stryd yn rhedeg yn gyfagos i ddyffryn Gwenfro, o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain. Ynghŷd â Stryt y Capel, Ffordd Poplys a Ffordd Bennion, mae Ffordd Salisbury yn cysylltu maestrefi hanesyddol Pen-y-bryn a Hightown.

Hanes[golygu | golygu cod]

Datblygwyd Ffordd Salisbury yng nghanol y 19eg ganrif. Ar fap o 1872, mae'n ymddangos fel “Parc Salisbury”, sydd bellach wedi rhoi ei enw i'r ardal gadwraeth. Mae'r enw Salisbury yn deillio o'r Cyrnol Salisbury a etifeddodd y tir oddi wrth ei deulu, y teulu Thewell, yn y 18fed ganrif. [1]

Yn ystod y 19eg ganrif, datblygwyd Ffordd Salisbury yn stryd breswyl, gyda filas Fictoraidd mawr yn sefyll ar ei thiroedd sylweddol. Codwyd datblygiadau teras mwy cyffredin hefyd yn yr ardal.

Y datblygiadau pwysicaf yn yr ardal rhwng 1872 a throad yr 20fed ganrif oedd codi Ysgol San Silyn ar Ffordd y Poplys a Chapel Annibynnol Parc Salisbury ar gornel Ffordd Salisbury a Ffordd Percy. Dymchwelwyd Capel Annibynnol Parc Salisbury yn 1981[1] ond mae adeiladau ysgol San Silyn yn sefyll o hyd.

Dynodwyd Ardal Gadwraeth Parc Salisbury yn 1996.[1] Mae canol yr ardal gadwraeth hon ar Ffordd Salisbury, Ffordd Poplys a Stryt y Capel.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Preswylfeydd yw'r rhan fwyaf o adeiladau Ffordd Salisbury o hyd. Nodweddir yr ardal gan bensaernïaeth ddomestig Fictoraidd. Mae rhifau 1, 3 a 5 ar Ffordd Salisbury o ddiddordeb penodol gan eu bod yn enghreifftiau gwych o dair fila â'u pensaernïaeth wedi'i hysbrydoli gan yr arddull Eidalaidd. Gyda'i gilydd, teras rhestredig gradd II ydyn nhw ac mae eu tyrrau yn nodwedd unigryw yn y stryd.[1]

Hefyd, mae Oteley House yn enghraifft o bensaernïaeth Gothig o oes Fictoria.[1] Tŷ trillawr Gothig Fictoraidd o dywodfaen yw hwn ac mae'n sefyll ar ochr ogleddol y ffordd, yn dyddio'n ôl i 1867. Credir iddo gael ei ddylunio gan y pensaer lleol, J R Gummow, i'w ddefnydd ef ei hun. Yn ddiweddarach, daeth y tŷ yn eiddo i William Sisson, mab perchennog Bragdy'r Cambrian gerllaw, a fe'i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel lleiandy. Mae'r adeilad yn un rhestredig gradd II.[1]

Ar ochr ddeheuol y ffordd, mae rhes drawiadol o filas Fictoraidd o frics coch Rhiwabon sydd yn sefyll ychydig yn ôl o'r ffordd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 "Ardal Gadwraeth Parc Salisbury Cynllun Asesu a Rheoli Cymeriad" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Ebrill 2013. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2022.