Stryt y Capel, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Stryt y Capel. Wrecsam)
Capel Penybryn
Stryt y Capel
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
SirOffa Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.042926°N 2.995112°W Edit this on Wikidata
Map

Stryd hanesyddol ger canol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Stryt y Capel (Saesneg: Chapel Street).

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Stryt y Capel yn sefyll ar dir uchel ar ochr ddeheuol afon Gwenfro, ger canol y ddinas. Mae'r stryd yn rhedeg yn gyfagos i'r afon, o'r gyffordd gyda Phen y Bryn, stryd sy'n rhedeg tuag at ganol y ddinas ac sy'n cadw enw hanesyddol yr ardal, i'r gyffordd gyda Ffordd y Poplys a Ffordd Erddig.

Hanes[golygu | golygu cod]

Enw gwreiddiol Stryt y Capel oedd “Street Draw”. Mae'n debyg bod y stryd wedi cael ei gosod yn y 18fed ganrif, ar adeg pan oedd Wrecsam yn tyfu ar ddwy ochr yr afon.

Adeiladwyd Capel Penybryn yn 1789, yn wreiddiol ar gyfer yr Annibynwyr Saesneg. Cafodd yr adeilad ei ailfodelu'n helaeth yn 1881. Gwerthwyd y capel i Eglwys Gymraeg y Bedyddwyr pan symudodd yr annibynwyr i gapel newydd gerllaw, sydd erbyn hyn wedi cael ei dymchwel. Yn yr ugeinfed ganrif, dymchwelwyd nifer o adeiladau hanesyddol, gan gynnwys rhesi o dai teras.[1]

Roedd Bragdy'r Cambrian wedi'i leoli y tu ôl i Stryt y Capel, ar ochr ddeheuol yr afon ac fe'i dymchwelwyd yn 2003.[2]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Yn sgil lleoliad Stryt y Capel ar dir uchel dros ddyffryn Gwenfro, mae golygfa wych o glochdy Eglwys San Silyn, un o Saith Rhyfeddod Cymru, ar hyd lôn fach Teras Bryn Draw.

Lleolir adeiladau hanesyddol Stryt y Capel yn agos i'r gyffordd gyda Phen y Bryn. Mae Stryt y Capel yn rhan o ardal gadwraeth “Parc Salisbury”, sy'n cynnwys yn ogystal Ffordd y Poplys, Ffordd Salisbury a rhan o Allt Madeira.[1]

Mae rhifau 1, rhif 4 a Chapel Penybryn yn adeiladau rhestredig gradd II. O ddiddordeb arbennig hefyd mae rhif 5 Stryt y Capel (heb eu rhestru) y drws nesaf i'r capel. Mae Capel y Bedyddwyr Cymraeg, ar ochr ogleddol Stryt y Capel, yn un o adeiladau hynaf yr ardal gadwraeth. Ar ffasâd y capel, mae modd darllen yr arysgrif Gymraeg: Penybryn – Addoldy y Bedyddwyr. Bwthyn brics sy'n dyddio o'r 18fed ganrif hwyr yw rhif 1 Stryt y Capel. Mae'r tŷ wedi'i osod yn ei erddi ei hun ar dir uchel uwchben y gyffordd â Phen y Bryn. Adeilad deulawr o frics coch gyda ffasâd clasurol a adeiladwyd yn 1808 yw rhif 4 Stryt y Capel, sef meddygfa Plas y Bryn heddiw.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Ardal Gadwraeth Parc Salisbury Cynllun Asesu a Rheoli Cymeriad" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Ebrill 2013. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2022.
  2. Edwards, Dave (Tachwedd 2017). "Cambrian Brewery - Brewing was central to the fortunes of Wrexham". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-03. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2022.