Fflaplys penbinc

Oddi ar Wicipedia
Fflaplys penbinc
Odontoschisma denudatum

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Cephaloziaceae
Genws: Odontoschisma
Rhywogaeth: O. denudatum
Enw deuenwol
Odontoschisma denudatum

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Fflaplys penbinc (enw gwyddonol: Odontoschisma denudatum; enw Saesneg: matchstick flapwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod mewn tri man yng Nghymru, gan gynnwys Cwm Rhyd-y-gau, yng Nglyn-nedd. Fe'i ceir hefyd yn Iwerddon a Lloegr, ond mae'n fwyaf cyffredin yn yr Alban.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r dail crwn tua 1 mm o hyd ac o led, gyda choesynnau hyd at 1.8 mm o led. Mae'r gemmae gwelw, gwyn neu binc yn edrych fel blobiau o gwmwl siwgwr (candyfloss) ar frig y coesynnau hyn, ac mae'r rhain yn gwneud O. denudatum yn wahanol i bob lysiau'r afu araill. Mae'n lliw melynaidd neu frown.[1]

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Fflaplys penbinc gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 25 Hydref 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.