Cwmwl siwgwr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cwmwl siwgwr

Ffurf o siwgr sydd wedi'i droelli yw cwmwl siwgwr neu blew siwgwr (Saesnegː Candy-floss). Siwgr yw'r prif gynhwysyn, gydag ychydig o flas neu liw bwyd yn aml wedi'i ychwanegu.[1]

Mae cwmwl siwgwr yn cael ei greu trwy dwymo siwgr a'i droi'n hylif, ac yna ei droelli allan o dyllau man. Mae'n caledu eto mewn edafedd tenau o "wydr siwgr".[2]. Aer yw'r rhan fwyaf o'r cwmwl, ac mae 1 owns neu 28 gram yn cael ei ystyried yn ddigon i un person. Mae'n aml yn cael ei werthu mewn ffeiriau, carnifalau, syrcasau a gwyliau Siapaniaidd, a hynny naill ai ar ffon neu mewn bag plastig.[3][4][5]

Cymylau siwgwr blas masarn ar werth yn Pakenham, Canada

Dyfeisio'r Cwmwl Siwgr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae nifer o lefydd yn hawlio mai yno y tarddodd y cwmwl siwgwr, gyda rhai ffynonellau yn ei olrhain yn ol i ffurf o siwgr wedi'i droelli oedd i'w gael yn Ewrop yn y 19g. Bryd hynny, roedd siwgr wedi'i droelli yn ddrud, yn lawer o waith i'w wneud ac ddim ar gael i'r person cyffredin.[6] Mae eraill yn awgrymu bod fersiynau o siwgr wedi'i droelli yn tarddu o'r Eidal mor gynnar a'r 15g.[7]

Cafodd y cwmwl siwgr sydd wedi'i droelli a pheiriant ei ddyfeisio yn 1897 gan y deintydd William Morrison a'r cyffeithiwr John C. Wharton, a'i gyflwyno i gynulleidfa eang am y tro cyntaf yn Ffair y Byd 1904 fel "Fairy Floss"[8] gyda llwyddiant mawr; gwerthwyd 68,655 o focsys am 25¢ yr un (swm cyfatebol i $6[9] heddiw).

Dyfeisiodd Joseph Lascaux, deintydd o New Orleans, Louisiana, beiriant cwmwl siwgr tebyg yn 1921. Yn wir, roedd patent Lascaux yn galw'r cynnyrch yn "cotton candy” ac felly diflannu wneuth "fairy floss", er ei fod yn dal i gael ei ddefnyddio Awstralia hyd heddiw.[10][11] Yn y 1970au, crewyd peiriant cwmwl siwgwr awtomatig a oedd yn creu'r cynnyrch a'i becynnu. Roedd hyn yn ei wneud yn haws i'w gynhyrchu a'i werthu mewn carnifalau, ffeiriau a siopau o'r 1970au ymlaen.

Cwmwl Siwgr - 'Siwgr Candi' mewn Diwylliant Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Caiff Cymreigiad o'r gair Saesneg, Candi-Fflos yn deitl ar gyfieithiad Gymraeg o nofel i blant yn ei harddegau, 'Candyfloss', gan Jacqueline Wilson.

Enwau mewn ieithoedd Tramor[golygu | golygu cod y dudalen]

Gelwir y cwmwl siwgr yn wahanol enwau mewn gwahanol iaithoedd wrth iddynt geisio disgrifio'r melysyn.

Ffrangeg - barbe à papa - losin cotwm
Almaeneg - Zuckerwatter - wadin siwgr
Eidaleg - Zucchero filato - losin cotwm
Gwyddeleg - Scamall siúcra - cwmwl siwgr
Afrikaans - spookasem - anadl ysbryd/bwgan
Bengaleg - হাওয়াই মিঠাই - losin Hawai'i

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "In Coney Island, Weaving a Confection That Tastes Like Long-Ago Summers". New York Times, July 27, 2014, Rachel L. Swarns.
  2. "Food Science: Cotton Candy". Portageinc.com.
  3. "Best Of Worst -- July 4th Foods". cbsnews.com. July 1, 2008. Archifwyd o y gwreiddiol ar October 5, 2008. Cyrchwyd September 13, 2009. Cotton Candy (1.5 oz serving) 171 calories, 0 g fat, 45 g carbs, 45 g sugar, 0 g protein
  4. Carter, Darla (August 21, 2009). "Enjoy the fair, but don't wreck your diet". Louisville Courier-Journal. https://pqasb.pqarchiver.com/courier_journal/access/1839458411.html?FMT=ABS&FMTS=ABS:FT&date=Aug+20%2C+2009&author=Darla+Carter&pub=Courier+-+Journal&edition=&startpage=D.1&desc=Enjoy+the+fair%2C+but+don%27t+wreck+your+diet. "A 5½-ounce bag of cotton candy can have 725 calories."
  5. "Cotton candy on a stick (about 1 ounce) has 105 calories, but when bagged (2 ounces) it has double that number: 210.". Pocono Record. September 27, 2006. http://www.poconorecord.com/apps/pbcs.dll/article?AID=/20060927/NEWS/609270304
  6. Lynne Olver. "history notes-candy". The Food Timeline. Cyrchwyd November 30, 2011.
  7. Linda Fri (August 11, 2010). "Cotton Candy History". CottonCandy.net. Cyrchwyd June 28, 2015.
  8. "Cotton Candy". The Straight Dope. February 7, 2000. Cyrchwyd November 30, 2011.
  9. "$1 in 1904 → 2017 – Inflation Calculator". www.in2013dollars.com.
  10. "History of Cotton Candy". Fineentertaining.com. Cyrchwyd June 28, 2012.
  11. "Cotton Candy Fun Facts". Archifwyd o y gwreiddiol ar July 8, 2011. Cyrchwyd October 24, 2010.