Bysedd y cŵn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ffïon)
Neidio i: llywio, chwilio
Digitalis purpurea
Digitalis purpurea (Ffïon)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Plantaginaceae
Genws: Digitalis
Rhywogaeth: D. purpurea
Enw deuenwol
Digitalis purpurea
L.

Planhigyn blodeuol sy'n gynhenid yn y rhan fwyaf o Ewrop yw Bysedd y cŵn (hefyd: Ffïon, 'Bys coch', 'Gwniadur Mair', 'Menyg ellyllod' neu'r 'Gleci goch' (Lladin: Digitalis purpurea).

Mae iddo gorsen dal, gyda chylch o ddail o amgylch y bôn. Fel rheol, dwy flynedd yw hyd oes Bysedd y cŵn. Mae'r dail tua 10-35 cm ac mae ganddyn nhw goesau hirion, a thoreth o flew mân ar eu gwaelodion. Gan amlaf mae'r blodau'n borffor golau neu'n binc, gyda'u pennau i lawr, a smotiau ar y tu fewn, ond mae rhai melyn a gwyn i'w cael hefyd.

Ecoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y gwyllt mae'r llysieuyn hwn yn un o'r planhigion cyntaf i ymsefydlu ar ôl dinoethi pridd cleiog, ar ôl codi pridd suntur i'r wyneb neu ar ôl chwistrellu rhedyn i'w ladd. Mae'n amlwg iawn am gyfnod byr ar ôl amlygu pridd mwynaidd sur.

Pwtyn bysedd cŵn: un sy'n llwyr ddibynnol ar y ffion

Serch ei natur gwenwynig mae nifer o greaduriaid yn cael rhan o'u maeth, os nad y cyfan ohono, o'r planhigyn. Un sydd'n gwbl ddibynnol arno yw'r pwtyn bysedd cŵn[1].

Ffenoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl cofnodion Tywyddiadur Llên Natur mae bysedd y cŵn yn dechrau dod i'w blodau yn ail hanner mis Mai ac yn cyrraedd eu hanterth ynghanol Mehefin. Erbyn diwedd Gorffennaf nid ydynt ond coesynnau o godau had ac ambell flodyn yn crogi'n flêr ar ei frig.

Mae coesynnau blodau bysedd y cŵn yn fesur bras o ddatblygiad y tymor - po fwyaf o godau had a pho leied o flodau i fyny'r goes, po belled ymlaen fo'r tymor. Bu'r hadau ar 29 Mehefin 2011 yng Nghoedydd Aber (Abergwyngregyn) yn cyrraedd tua hanner ffordd i fyny'r goes. Dim ond rhyw dwffyn o flodau ar flaen y goes oedd ar ôl ar fysedd cŵn pentref Titchwell (Norfolk) yr wythnos gynt. Roedd cnwd bysedd cochion 2011 yn ardal Aber yn arbennig[2]

Cynefin[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Ellis (1983) yn disgrifio ei gynefin yng Nghymru fel twyni tywod, tir ymylol, gwrychoedd a drysni, glaswelltir, rhosdir a chors, gwlyptiroedd, chwareli, muriau a hwynebau craig, tir gwastraff, rheilffyrdd a choedlannau. Roedd yn bresennol ymhob un ond 6 sgwâr 10km.

Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debyg mai bysedd y cŵn yw un o'r planhigyn sydd â'r mwyaf o enwau o unrhyw blanhigyn, rhwng y gwahanol ieithoedd, yn y fflora Brydeinig[angen ffynhonnell]. Dyma rai enwau Cymraeg: bys coch, bysedd cochion, bysedd y cŵn, catrish y cŵn, menyg ellyllon, gwniadur Mair, dail crachod (y dail yn unig), ffiol y ffridd, ffion y ffridd, Clatsh y Cŵn, Cleci Coch, Dail ffion, Dail llwynog, Dail bysedd cochion, Dail crach, Ffiol y ffridd, Ffion ffrith, Ffuon cochaf, Llwyn y tewlaeth, Maneg y forwyn.

Foxglove yw'r prif enw yn Saesneg. Yn ôl An Englishman's Flora (Grigson) ceir llawer o enwau eraill. Tarddiad fox(glove) yw folks'(glove) hy. menyg y tylwyth teg[3].

Bathwyd Digitalis, yn yr enw gwyddonol Digitalis purpurea gan Leanard Fuchs yn De Historia Stirpium 1542, gan efelychu enwau Almaeneg.

Enw Lladin Digitalis purpurea: bathwyd digitalis gan Leonard Fuchs yn De Historia Stirpium, 1542, yn efelychu enwau Almaeneg[4], sef Fingerhut o digitus "bys".

Enwau eraill (detholiad byr) Cymraeg : Bys coch, Bysedd cochion, Bysedd y can, Clay (neu: Catrish) y cŵn, Menyg ellyllon, Gwniadur Mair, Dail crachod (y planhigyn neu'r dail yn unig), Ffiol y ffridd, (Dail) Ffion y ffridd.

Saesneg : Foxglove a channoedd o enwau tafodieithol yn cynnwys Dog's fingers 'bysedd y cwn'[5]

Llydaweg: Brulu, (Herbarum vemaculi, Franch Duros).

Gwyddeleg: Canol: Sian (Geiriadur Prifysgol Cymru o dan y gair 'ffion') Ffrangeg : Doigtier, Gant de Bergere, Gants de Notre Dame 'Menyg Mair' (Les Plantes et les Medicaments L. Girre).

Dosbarthiad tafodieithol yr enwau Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Y mae tudalen o The Linguistic Geography of Wales 1972 [6] yn rhoi dosbarthiad daearyddol yr enwau tafodieithol. Cafwyd gwybodaeth diweddarach ym 1987 wrth i Gymdeithas Edward Llwyd fynd ati i holi pobl ar faes Eisteddfod Porthmadog[7].

Gwerth ei nodi yw'r gwahanieth sylweddol rhwng y ddwy astudiaeth. Cyflawnwyd y gwaith cynharach yn y '50au a'r 60au a phryd hynny gwelwyd bod yr enw 'Bysedd y cŵn' bron yn gyfyngedig i'r gogledd o linell yn cysylltu Dolgellau a'r Drenewydd. 'Bysedd cochon' oedd yn fwyaf cyffredin i'r gogledd o'r linell honno.

Yn ôl yr atebion a gafwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog 1987, roedd 78% o'r 70 o atebion i'r gogledd o Ddolgellau - Drenwydd yn 'Fysedd y cŵn' gyda 'Bysedd cochion/ Bys coch' yn gyfyngedig bellach i Ddyffryn Conwy, Llŷn, gogledd Arfon a Môn.

Mae'n debygol mai'r hyn oedd i gyfri am y newid rhwng 1972 ac 1987, oedd y symud tafodiaethol neu'r dulliau samplo.

Sylw ar berthynas a tharddiad rhai enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

Y mae perthynas amlwg rhwng enwau nifer o ieithoedd, ond nid yw hynny'n annisgwyl, gan y gellid bod wedi gweld yr un peth gan wahanol bobloedd yn annibynnol i'w gilydd. Mae'r enw deheuol 'Clatj y cŵn' yn egluro ei hun (o ran ei elfen gyntaf) yn yr arferion plant a nodir isod o wneud "clatj" neu 'glec' gyda'r blodyn. Y mae ôl-ddodiad y cŵn bob amser yn dynodi rhywbeth israddol, gwaelach, (fel y mae march yn dynodi rhywbeth mawr a'r gair mewn Gwyddeleg a Ffrangeg yn dynodi rhywbeth estron).

Enw traddodiadol y llawysgrifau Cymraeg (1400 — 1700) yw Ffiol y ffridd. Ceir amrywiadau fel Dail y ffion ffrwyth arno. Tybir mai arferiad gwlad efallai sydd wedi llurgunio ar brydiau : ffion i ffiol a ffridd i ffrwyth. Golyga 'ffion' 'rosyn' neu liw rhosyn, ac mae cytras Gwyddeleg Canol sian yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru yn cael ei ddefnyddio ar y planhigyn hwn. Felly 'rhosyn (neu liw rhosyn) y ffridd' fyddai ystyr tebygol Ffion y ffridd. Nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru gytrasau eraill gan gynnwys Hen Lydaweg fionauc, glos ar y Lladin rosarium.

Noder hefyd fod yr enw Llydaweg brulu yn gytras a'r Gymraeg briallu (cymharer â'r Lladin: prima rosa 'rhosyn cyntaf')

Enw person a lle[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddir Ffion yn gyffredin o'r 20g ymlaen fel enw merch. Ond 'rhosyn' ydyw ystyr cychwynnol y gair. Ymestyniad arno yw un o enwau'r planhigyn hwn. (Tybia Angharad Tomos yn ei hunangofiant Cnonyn Aflonydd mai ei modryb oedd y gyntaf i gael yr enw hwn). Ceir enw tyddyn yn Llanbedrog a allai fod yn tarddu o'r enw 'Bys Coch'.

Perthynas â phobl[golygu | golygu cod y dudalen]

Llen gwerin[golygu | golygu cod y dudalen]

Arferiad yng Nghymru yn ôl The Englishman's Flora gan Geoffery Grigson oedd gosod croesau ar gerrig llawr i gadw'r tylwyth teg draw. Yn Iwerddon defnyddid diferion o'r planhigyn i warchod plant rhag y tylwyth teg [8].

Fe gysylltir bysedd y cwn ag anniffuantrwydd yn y gyfrol Language of Flowers[9]

Arferion plant[golygu | golygu cod y dudalen]

Engreifftiau a gasglwyd gan brosiect Llên y Llysiau (Cymdeithas Edward Llwyd): gosod blodau ar flaenau'r bysedd i wneud ewinedd mawr cochion; dal cacwn yn y blodyn i'w wylltio; defnyddio'r coesau fel cleddyfau wrth chwarae; taro blodyn caeëdig ar gledr y llaw i wneud clec neu wasgu dau ben blodyn aeddfed rhwng bysedd y ddwy law i greu swigan neu boethell, a'i glecio neu glatjio[10]. Mae'r chwarae clatshio yn gyfarwydd i Lydawyr hefyd ac mae ymadrodd difrïol ganddynt i wfftio rhywun hurt: Kas da stracal brulu war Menez Arez[11] (Dos i glatshio bysedd cŵn ar Mynydd Aret: cyffelyb i "dos i ganu/grafu" yng ngogledd Cymru).

Cyfeiriadau llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Noda Grigson[12] gyfeiriad at chwedl Culhwch ac Olwen. Dywed mai yn wahanol i'r hyn a wnai beirdd Lloegr o ddisgrifio gruddiau geneth fel rhosyn, i feirdd a chyfarwyddiaid Cymru gymharu bochau Olwen to the foxgloves of their upland country (tudalen 326). "Oed kochach y deu rudd nor fion" — 'Oedd cochach ei dau rudd na'r ffion' [13]. Ond er perted y rhamant yma, ffion yn ystyr gyntaf yr enw sydd yma sef 'rhosyn'.

Meddyginiaethol a chemegol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r arferion a gyfeirir atynt yn yr enw 'Dail crachod' yn cael ei egluro yn: "Fox Glove, neu Fenyg y llwynog, neu Ddil [sic] bysedd cochion...mae'r dail hyn yn glanhau briwiau yn raddol gyda'r tynerwch mwyaf... A myfi a fentraf ddywedaf wrthych nad oes moi gwell i'w gwneud yn eli gyda bloneg i wella crach mewn pen."[14]

Yn niwedd y 18g aeth William Withering ati i asesu ei werth yn wyddonol, a chanfod fod y planhigyn yn un grymus ei effaith ar y galon.

Cesglid y dail yn ystod yr ail ryfel byd, a'u sychu, yn aml dan drefn Sefydliad y Merched. Defnyddid llofft uwchben becws yn Nhrefaldwyn i sychu'r dail[15].

Elfennau gweithredol y llysieuyn yw digitocsin a gitocsin sy'n sail i wahanol gyffuriau a all adfywio'r galon. Maent yn gweithio trwy wella gallu cyhyrau'r galon i dynhau ac ymlacio gan gryfhau grym y curiadau. Gallant hefyd arafu curiad y galon a gwella llif y gwaed trwy'r gwythiennau. Gall dognau o'r cyffur wenwyno o'u rhoi heb ddigon o saib rhyngddynt, gan beri anhawster treulio, diffygion ar y golwg a thrafferthion calon, a allai ladd[16].

Paentiad gan Vincent Van Gogh o lun gellesg a'r lliw melyn yn amlwg iawn

Honnir i Vincent Van Gogh baentio'r eurgylchau a'r lliw melyn mewn paentiadau, megis lluniau o'i feddyg, ar ôl cymryd y planhigyn fel meddyginiaeth[17].

Ni chaiff ei fwyta gan anifeiliaid fel arfer ond o'i fwyta, gall yr anifail ddatblygu chwant amdano. Fe erys gwenwyn yn y planhigyn ar ôl ei sychu neu ei ferwi, a gall gwair sydd â digitalis ynddo wenwyno anifeiliaid. Gellir ei drin a gwenwyn arall atropin (Atropa bella-dona)[18]

Fe'i tyfir fel ffynhonnell digitalis ac mae'n cael ei gydnabod fel ysgogydd cardiag ers 1785 (clywodd William Withering[19] gan wladwraig ei fod yn dda at glwy'r dŵr neu dropsi) ond ni chafodd ei ddadansoddi'n gemegol tan 1933. Cymerwyd foxglove tea ar un adeg i drin anwyd a thwymyn trwy yfed drachtiau mawr i achosi medd-dod. Arferid casglu'r hadau mân gan blant yn ne Lloegr at War Effort yr Ail Ryfel Byd, gan fod y cemegyn lioleod yn eu cyfansoddiad (cemegyn gwrth-drychfilod a ddefnyddid ers amser maith yn Fforest Dena at y perwyl hwn ar hyd waliau tai)[20]

Statws[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwau lleoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid oes llawer o enwau lleoedd yn cyfeirio at Fysedd y cŵn. Yng Nghronfa Melville Richards ceir Cwm Ffionos, enw y gellir ei briodoli i fân Digitalis purpurea neu fân rosod gwyllt. Ei ystyr yw cwm y ffion bach, enw yng Ngheredigion. Ar ei ffurf "ffuon" mae yna Bant y Ffuon yn Sir y Fflint.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. llennatur.com; adalwyd 14 Mai 2017.
  2. http://www.llennatur.com
  3. Mabberley's Plant Book
  4. Oxford English Dictionary
  5. The Englishman's Flora, Geoffery Grigson
  6. Linguistic Geography of Wales (1972). A.R. Thomas, Gwasg Prifysgol Cymru.
  7. Y Naturiaethwr 19, Ionawr 1988, Twm Elias, tudalennau 19-20
  8. A Dictionary of Plant Lore, Roy Vickery
  9. Mabberley, DJ (2008) Mabberley's Plant Book: A portable dictionary of plants, their classification and uses, CUP
  10. http://www.llennatur.com/oneadmin/_files/photogallery/8c628_clatchycwn3.jpg
  11. Williams, R (1990) Geiriadur Bach Llydaweg - Cymraeg (Rhydychen ac Aberystwyth)
  12. xxxx
  13. Llyfr Gwyn Rhydderch, J,Gwenogvryn Evans (gol.) tudalen 238)
  14. Herbal neu Lysieu-lyfr wedi eu casglu o waith N. Culpepper, DT Jones 1816
  15. Flora Britanica, Richard Mabey
  16. Les Plantes et les Medicaments, L. Girre
  17. Poisonous Plants in Britain and their effects on Animals and Man, M. Cooper ac A Johnson
  18. Poisonous Plants in Britain and their effects on Animals and Man, M. Cooper ac A Johnson
  19. https://en.m.wikipedia.org/wiki/William_Withering
  20. http://trove.nla.gov.au/work/8029248?selectedversion=NBD43398962%7CMabberley, DJ (2008)
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: